Llafur yn ymrwymo i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg

Cymraeg

Fe fydd y Blaid Lafur yn ymrwymo yn eu maniffesto i sicrhau y bydd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.

Y llynedd, fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith alw ar lywodraeth nesaf Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg ynghyd ag atal yr allfudiad a chreu mesurau i hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ym mhob maes bywyd.

Dywedodd Sion Jones, ymgeisydd Llafur yn yr etholiad: "Mae'r syniad y gallai Cymdeithas yr Iaith fod wedi dylanwadu ar ein maniffesto yn y gorffennol yn beth digon anodd ei ddychmygu, ond nid felly mae hi rŵan, ac mae 'na newid agwedd gwirioneddol wedi digwydd ar y naill ochr a'r llall.

"I hyrwyddo'r iaith, mae angen synnwyr cyffredin, tir cyffredin ac achos cyffredin."

Mae Cymdeithas Yr Iaith yn dweud bod angen i lywodraeth nesaf Cymru gadw at dargedau sy'n cael eu gosod.

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan: "Yn sicr, mae'n galonogol gweld bod ein hymgyrch i osod gweledigaeth glir ar gyfer polisïau'r Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf wedi dechrau dwyn ffrwyth.

"Mae'r syniad o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg wedi ennyn cefnogaeth drawsbleidiol ac, yn bwysicach, ymysg y cyhoedd.

"Fodd bynnag, mater cymharol hawdd yw ymrwymo i un targed. Ym maes polisi iaith, rydyn ni wedi gweld nifer o dargedau allweddol yn cael eu gosod dros y blynyddoedd, ond yn mynd ar goll heb eu cyflawni."

Y gwrthbleidiau

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud eu bod am weld cynnydd yn y niferoedd sy'n siarad Cymraeg y tu allan i'r 'stafell ddosbarth a meithrin pencampwyr busnes iaith Gymraeg.

Yn eu maniffesto nhw mae Plaid Cymru yn dweud eu bod am weld Cymru "wirioneddol ddwyieithog" ac mae ganddyn nhw darged bod 50% o blant 7 oed mewn addysg Gymraeg erbyn 2030.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y bydden nhw'n targedu pobl ifanc yn eu harddegau sy'n siarad Cymraeg fel grŵp allweddol ar gyfer dyfodol y Gymraeg, gan gynyddu gwasanaethau ieuenctid i'r grŵp hwn.

Yn ôl UKIP mae'r Iaith Gymraeg yn destun balchder cenedlaethol mawr. Mae'r blaid yn addo i ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg trwy addysg cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod yr iaith yn dal i ffynnu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.