Etholiad y Cynulliad: Cynulleidfaoedd yn holi'r arweinwyr

gill

Bydd arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, yn ateb cwestiynau gan gynulleidfa stiwdio yn Abertawe nos Fercher.

Dyma'r ail o bum dadl Ask the Leader dros gyfnod o bum noson o 11 Ebrill.

Y newyddiadurwraig a chyflwynydd, Bethan Rhys Roberts, sy'n cynnal y digwyddiad.

Bydd y rhaglen i'w gweld ar BBC One Wales am 19:00.

Pwy ydi Nathan Gill?

Ceidwadwr oedd Nathan Gill tan 2004, pan gafodd ei ysbrydoli gan berfformiad Nigel Farage ar Question Time i bleidleisio i UKIP yn yr etholiad Ewropeaidd y flwyddyn honno, cyn ymuno â'r blaid flwyddyn yn ddiweddarach.

Fe ddechreuodd ymgyrchu yn fuan wedi hynny - ei fam oedd ymgeisydd UKIP ar gyfer Ynys Môn - lle mae'r teulu yn byw, yn yr etholiad cyffredinol yn 2005.

Fe gafodd Mr Gill ei ethol fel ASE yn 2014 ar ôl i UKIP orffen yn ail agos yng Nghymru tu ôl i Lafur.

Fe ddaeth dipyn o ddadlau yn dilyn hynny - gwadodd gyflogi gweithwyr mudol mewn cartref gofal oedd yn ei redeg, a hynny yn groes i bolisi UKIP.

Yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol 2015, fe gafodd Mr Gill ei feirniadu am ddweud nad dyn oedd yn gyfrifol am y newid yn yr hinsawdd.

Eto i ddod

Dydd Mercher 13 Ebrill - arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Kirsty Williams yn Aberystwyth

Dydd Iau 14 Ebrill - arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn Aberystwyth

Dydd Gwener 15 Ebrill - arweinydd Llafur Cymru Carwyn Jones yn Llangollen