UKIP: Hamilton yn ceisio lleihau tensiynau

Neil Hamilton and Nathan Gill
Image caption Neil Hamilton a Nathan Gill

Mae un o ymgeiswyr amlycaf UKIP ar gyfer etholiadau'r cynulliad wedi ceisio rhoi diwedd ar y tensiynau sy'n bodoli gydag arweinydd y blaid yng Nghymru Nathan Gill.

Dywedodd y cyn AS Ceidwadol Neil Hamilton wrth BBC Cymru nad oedd yn poeni fod Mr Gill wedi dweud na fyddai ef wedi dewis Mr Hamilton fel ymgeisydd.

Cafodd Mr Hamilton ei ddewis yn dilyn pleidlais o aelodau'r blaid yng Nghymru.

Roedd yna honiadau gan rai ei fod ef a chyn aelod seneddol Ceidwadol arall, Mark Reckless, wedi eu gorfodi ar y rhestr ddewis gan UKIP yn ganolog.

Yn sgil hyn fe wnaeth gwraig Mr Hamilton, Christine Hamilton, ymosod yn eiriol ar Mr Gill ar Twitter.

Dywedodd Mr Hamilton: "Fe wnaeth Nathan gymryd un safbwynt, ond fe wnaeth aelodau'r blaid yng Nghymru drwy fwyafrif mawr gymryd barn wahanol."

Dywedodd y byddai'r holl beth yn cael ei anghofio yn fuan.