Y materion pwysig yng nghefn gwlad

Ffarmio Image copyright Getty Images

"Mwy o barch - dyna sy' isie arnon ni!"

Daeth yr un alwad dro ar ôl tro wrth i stafell lawn o bobl leol holi a herio'u hymgeiswyr ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Ro'dd yr hystings, ym mhafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru, yn un o nifer sy'n cael eu cynnal gan undebau'r FUW a NFU dros yr wythnosau nesa'.

Y nod yw rhoi cyfle i'r pleidiau drafod eu polisïau penodol ar gyfer cefn gwlad.

Mae tua un ym mhob tri o boblogaeth Cymru'n byw mewn ardaloedd gwledig, a hynny'n cymharu ag un ym mhob pump yn Lloegr.

Ond yn ôl Aled Jones, Swyddog Gweithredol Undeb Amaethwyr Cymru yn Aberhonddu a Sir Frycheiniog, y teimlad yn lleol yw fod y pynciau sy'n effeithio ar bobl y wlad yn llai o flaenoriaeth i wleidyddion Bae Caerdydd.

Image copyright Thinkstock

"Dro ar ôl tro, trefi a dinasoedd sydd i'w gweld yn elwa a llai o bwyslais ar faterion sy'n effeithio ar gymunedau gwledig. Dim ond dirprwy weinidog dros amaeth sy' 'na, er enghraifft, yn hytrach na gweinidog go iawn."

Serch hynny, ma'r pleidiau oll yn mynnu bod cyflwyno gweledigaeth ar gyfer cefn gwlad yn greiddiol i'w hymgyrchu eleni.

Ry'n ni eisoes wedi gweld ambell i blaid yn cyhoeddi maniffestos penodol ar gyfer byd amaeth a'r amgylchedd - cyfle i'r wasg dynnu lluniau o'r gwleidyddion mewn sied ddefaid neu ar ben mynydd.

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bolisi ffermio a bwyd, y gwaith o reoli'n tirweddau a meysydd eraill sy'n effeithio ar gymunedau gwledig gan gynnwys twristiaeth.

Gyda mesur cyfoeth y pen mewn rhai ardaloedd gwledig yng Nghymru ymysg yr isa' ym Mhrydain, mae'r her i bwy bynnag sy'n ffurfio llywodraeth ar ôl Mai'r 5ed yn amlwg.

Sut mae hybu'r economi yng nghefn gwlad a chreu cymunedau sy'n ffynnu?

Image caption James Byrne

Manteisio ar ein cyfoeth naturiol - i ddefnyddio'r term ffasiynol - yw'r ateb yn ôl rhai. Drwy reoli'n mynyddoedd, coedwigoedd, afonydd a moroedd mewn ffordd gynaliadwy mae modd creu swyddi, ynni a chyfleoedd i atal llifogydd a rhoi hwb i fyd natur.

Ond fel y ffermwyr, mae'r gymuned amgylcheddol yn teimlo bod diffyg parch tuag at eu galwadau hwythau hefyd.

"Ry'n ni'n gofyn i'r pleidiau roi natur wrth galon eu maniffestos eleni" medd James Byrne o Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru wrthai.

"Mae'n gwneud gymaint - o'n helpu ni daclo newid hinsawdd, i amsugno dŵr i atal llifogydd, ac yn ein gwneud ni'n fwy hapus ac iach. A'r cyfan yn creu swyddi a hybu'r economi."

Beth felly sy' gan y pleidiau i'w gynnig? Mae 'na amryw o bolisïau ond dyma chi ambell un:

  • Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y gwna nhw benodi gweinidogion yn y cabinet yn benodol ar gyfer byd amaeth, Gorllewin a Chanolbarth Cymru, a Gogledd Cymru.
  • Addo mwy o brentisiaethau i bobl wledig mae'r Democratiaid Rhyddfrydol, drwy gefnogi byd ffermio, y sector ynni adnewyddol a thwristiaeth.
  • Sicrhau gwell marchnata o gynnyrch Cymreig a mwy o ddefnydd o fwyd a diod Cymreig gan y sector cyhoeddus mae Plaid Cymru.
  • O adael yr Undeb Ewropeaidd, addo gwella'r system o gynnig cymorthdaliadau i ffermwyr mae UKIP, gan roi'r pwyslais ar ffermydd bychain, teuluol.
  • Cefnogi ffermwyr i arallgyfeirio yw'r flaenoriaeth i'r Blaid Werdd, a'u helpu i wneud gwaith atal llifogydd a chynhyrchu ynni gwyrdd.
  • Addo gweithredu'r ddeddfwriaeth amgylcheddol y gwnaeth y Llywodraeth ddiwethaf ei chyflwyno i sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru'n cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy mae'r Blaid Lafur.