Diffyg diddordeb y cyhoedd yn yr etholiad yn 'argyfwng'

Andrew RT Davies

Mae diddordeb y cyhoedd yn etholiad y Cynulliad mor isel, mae'r system "mewn argyfwng", yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.

Gyda llai na phythefnos i fynd tan yr etholiad, bydd Mr Davies yn defnyddio araith yng Nghaerdydd ddydd Gwener i ddweud bod yr etholiad yn "enfawr", ond nad oes tystiolaeth bod etholwyr yn cael y wybodaeth sydd ei hangen i wneud penderfyniad.

Bydd yn cyhuddo rhannau o'r cyfryngau o fod â mwy o ddiddordeb ym manylion treth gwleidyddion na chanolbwyntio ar bolisïau.

Fe wnaeth nifer o wleidyddion blaenllaw, gan gynnwys Mr Davies, gyhoeddi eu manylion treth yn gynharach yn y mis mewn ymateb i gwestiynau am incwm y Prif Weinidog, David Cameron.

"Mae hynny yn dro gwael i Gymru, i gymunedau Cymreig ac i ddemocratiaeth," bydd yn dweud.

"Dydi'r ganran a bleidleisiodd yn etholiad y Cynulliad erioed wedi dod yn agos at 50%.

"Faint o Seneddau eraill yn y byd sydd â record mor wael a hynny?

"Mae diddordeb y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth Gymreig mewn argyfwng - a does neb yn siarad am y peth."

Polisïau

Bydd yn ail-ddweud ei addewid i gyflwyno Mesur Lleoliaeth a Dinasyddiaeth o fewn 100 diwrnod o lywodraeth Ceidwadol yng Nghymru.

Byddai'r mesur yn cynnwys rhoi'r hawl i gymunedau brynu asedau lleol fel tafarndai neu swyddfeydd post, a rhoi mwy o bŵer i gynghorau lleol.

Ychwanegodd y byddai rolau fel y Comisiynydd Pobl Hŷn a'r Comisiynydd Plant yn atebol i weinidog, nid Llywodraeth Cymru.

O fewn 100 diwrnod byddai'r Ceidwadwyr hefyd yn cyhoeddi manylion gwariant Llywodraeth Cymru a sicrhau bod adran o'r llywodraeth yn cael ei symud i'r gogledd, meddai.

Yn yr etholiad diwethaf yn 2011, fe wnaeth y Ceidwadwyr orffen yn ail, gan ennill 14 o'r 60 sedd.

Ymateb

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran UKIP bod nifer isel o bobl yn pleidleisio yn broblem gynyddol ar hyd nifer o wahanol etholiadau ac nid oedd etholiad y Cynulliad yn wahanol.

Ychwanegodd bod pobl yn ansicr am bwy oedd yn gwneud beth ag yn lle a sut oedd modd i bobl leisio eu barn.

Dywedodd Plaid Cymru bod yr awch am newid yn fwy amlwg nag erioed ymhob rhan o'r wlad, a'i bod yn rhagweld y bydd mwy o bobl nag arfer yn pleidleisio y tro hwn. Ychwanegodd y blaid bod mwy a mwy o bobl yn dod i'r casgliad bod angen plaid Gymreig ar lywodraeth Gymreig, a bod Plaid Cymru'n barod i gynnig "dechrau newydd i holl gymunedau" Cymru.