'Angen clywed llais y claf' i wella'r Gwasanaeth Iechyd

Ysbyty

Mae Cymdeithas Feddygol y BMA wedi rhybuddio na ddylai gwleidyddion "addo mwy nac y gallan nhw ei roi i'r cyhoedd" wrth drafod iechyd yn ystod ymgyrch etholiad y Cynulliad.

Yn ôl Dr Phil White, sy'n feddyg teulu ac yn aelod o Gyngor Cymreig y Gymdeithas, bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â beth all y gwasanaeth ei gyflawni yn y dyfodol - yn enwedig o ystyried y cynnydd yn y galw am ofal.

Yn y cyfamser, mae cyfarwyddwr newydd Conffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, y corff sy'n cynrychioli byrddau iechyd Cymru, wedi dweud wrth BBC Cymru bod angen i'r gwasanaeth iechyd gyflwyno "newidiadau radical" os am ymdopi yn y blynyddoedd i ddod.

Ond yn ôl Venessa Young, ddechreuodd yn ei swydd ddydd Llun, mae'n hanfodol bod barn y cyhoedd a chleifion yn cael ei glywed yn ystod unrhyw drafodaeth am ddyfodol gwasanaethau.

Poblogaeth hŷn

Mae'r galw am wasanaethau iechyd yn cynyddu o hyd, a hynny'n rhannol oherwydd bod y boblogaeth yn heneiddio.

Mewn 20 mlynedd bydd tua 50% yn rhagor o unigolion dros 65 mlwydd oed yn byw yng Nghymru.

Cymru hefyd sydd â'r gyfran uchaf o drigolion hyn ym Mhrydain.

Image caption Mae Dr Phil White eisiau trosglwyddo adnoddau o ofal arbenigol i ofal yn y gymuned

Yn ôl Dr Phil White mae hynny'n golygu bydd y galw am ofal yn cynyddu.

"Un o'r pethau sydd wedi digwydd yw bod cyfartaledd oedran y boblogaeth wedi cynyddu'n sylweddol - a 'da ni'n gweld cymhlethdodau henaint wedyn," meddai.

"Wedyn os oes unrhyw beth yn mynd o'i le, yn aml iawn maen nhw'n gorfod mynd i'r ysbyty.

"Ac os nad oes modd eu cael nhw allan o'r ysbyty yn sydyn, mae hyn yn creu'r sefyllfa ble nad oes gwlâu ar gael ac mae pobl yn cael eu triniaethau wedi eu canslo."

Er mwyn ymateb mae'n galw am drosglwyddo rhagor o adnoddau o ofal arbenigol (ysbytai) i ofal yn y gymuned.

Mae iechyd yn un o brif bynciau trafod yr etholiad - gydag arolygon barn yn awgrymu'n glir bod y pwnc yn flaenoriaeth i'r cyhoedd.

Image caption Mae Vanessa Young yn mynnu bod yn rhaid i lais y claf gael ei glywed

Mae pennaeth newydd Conffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd hefyd yn awgrymu y bydd yn rhaid cyflwyno newidiadau sylweddol er mwyn i'r gwasanaeth iechyd ymdopi â'r cynnydd yn y galw.

Mae'r Conffederasiwn wedi galw ar ba bynnag blaid neu bleidiau fydd yn ffurfio'r llywodraeth newydd i ddatblygu gweledigaeth 10 mlynedd ar gyfer y gwasanaeth.

Ond mae Vanessa Young yn mynnu bod yn rhaid i lais y claf gael ei glywed.

"Mae'n ddyletswydd arnon ni i esbonio i'r cyhoedd ynglŷn â'r heriau sy'n ein hwynebu ni," meddai.

"Rhaid i ni gael trafodaeth gyhoeddus ynglŷn â pha newidiadau sydd eu hangen i ymateb i ofynion iechyd y boblogaeth.

"Ond mae cyflawni hynny yn mynd i fod yn anodd - does dim dwywaith ynglŷn â hynny."

Problemau'r gogledd

Mae cynlluniau i newid gwasanaethau iechyd wedi bod yn bwnc llosg mewn sawl man, ond yn enwedig yn y gogledd yn ystod y blynyddoedd diweddar.

Y llynedd fe gyhoeddodd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr y byddai'n rhaid cau uned famolaeth ysbyty Glan Clwyd am gyfnod, a hynny oherwydd prinder meddygon iau.

Fe gythruddodd hynny nifer, ac wedi ymgyrch leol a her gyfreithiol fe benderfynodd rheolwyr na fyddai'r uned yn cau - er bod y prinder meddygon yn parhau.

Mae'r bwrdd iechyd yn mynnu eu bod bellach yn barod i wrando ar farn y bobl.

Pleidiau

Mae pob un o'r prif bleidiau sy'n ymladd yr etholiad yn addo gwario miloedd yn ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd.

Ond mae gwahaniaethau barn ynglŷn â sut i fynd i'r afael â heriau penodol.

  • Mae Llafur yn dweud y byddan nhw'n parhau i gefnogi gwelliannau sy'n digwydd ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a'r ôl i'r bwrdd gael ei roi mewn mesurau arbennig y llynedd. Mae'r blaid hefyd yn dweud eu bod yn barod i adolygu strwythurau rheoli'r bwrdd os oes angen, a bod degau o filiynau o bunnoedd wedi'i wario mewn ysbytai a chanolfannau iechyd cymunedol newydd.
  • Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn addo cadw gwasanaethau mamolaeth lawn yn y tri phrif ysbyty yn y gogledd ac y byddan nhw'n eu gwneud yn haws i bobl gael apwyntiad â'u meddyg teulu.
  • Byddai'r Ceidwadwyr yn ailagor unedau man anafiadau ym Mae Colwyn ac yn ardal Y Rhyl a Phrestatyn - ac yn dweud na fyddai unrhyw ysbyty yn cau dan eu harolygaeth nhw.
  • Fe fyddai Plaid Cymru yn cael gwared ar fwrdd iechyd y gogledd a sefydlu un bwrdd i reoli ysbytai arbenigol ar draws Cymru - a gosod holl ofal cymunedol, gan gynnwys meddygon teulu, yn nwylo awdurdodau lleol. Bydden nhw hefyd yn agor canolfan ddiagnostig newydd yn y gogledd.
  • Mae UKIP am roi'r cyfle i'r cyhoedd ethol aelodau byrddau iechyd ac yn addo gwell hyfforddiant i nyrsys.
Image caption Mae Dr Mair Parry yn awyddus i beidio anwybyddu'r problemau allai godi yn y dyfodol

Ond mae un o feddygon amlyca'r gogledd, Dr Mair Parry yn poeni o ganolbwyntio cymaint ar heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd, bod risg bod gwleidyddion a'r gwasanaeth iechyd yn anwybyddu'r problemau allai godi yn y dyfodol.

"Mae llawer o'r cyflyrau sy'n achosi problemau mewn pobl hŷn yn dechrau mewn plentyndod," meddai.

"Yn lle gwario'r arian yn trin cyflyrau ar ddiwedd bywyd, byddwn ni'n ei wario ar ddechrau bywyd i atal y cyflyrau.

"Bydd hynny'n arbed arian yn y tymor hir."

Mae'r gwleidyddion yn ymladd am eich pleidlais er mwyn llywodraethu am y pum mlynedd nesaf.

Ond yr awgrym clir felly yw y bydd mynd i'r afael â'r heriau anferth sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yn cymryd llawer hirach na hynny.