Celfyddydau a'r Etholiad: Angen newid meddylfryd?

Llun Image copyright Ballet Cymru
Image caption Mae Ballet Cymru yn cael nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Beth ydy 0.5% o £15 biliwn? Yr ateb ydy'r hyn sy'n cael ei wario ar y celfyddydau a diwylliant gan Lywodraeth Cymru.

Tua £80m ydy'r cyfanswm sy'n cyrraedd sefydliadau fel Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, yn ogystal â'r orielau, llyfrgelloedd a'r canolfannau celf ledled y wlad.

Mae gweddill y gyllideb o £15 biliwn yn cefnogi iechyd, addysg a'r holl bolisïau eraill.

Ond er bod swm cymharol isel yn cyrraedd coffrau'r celfyddydau, mae cefnogwyr y sector yn llwyddo i hawlio lle ar y llwyfan gwleidyddol.

Yn ôl un sy'n flaenllaw yn y celfyddydau, mae'n rhaid newid y meddylfryd ynghylch y cyllidebau.

Mae Laura Drane yn gynhyrchydd ac yn ymgynghorydd i'r celfyddydau.

Mae'n dweud bod rhaid i'r celfyddydau, a'r gwleidyddion sy'n gobeithio cael eu hethol, ystyried effaith diwylliant ar bolisïau eraill y llywodraeth.

"Mae'n rhaid i ni ystyried beth allai'r celfyddydau eu cynnig i'r adran iechyd, i bolisïau adfywio neu gydlynu cymunedau, ac i'r adran addysg.

"Sut mae modd codi ymwybyddiaeth am y posibiliadau hynny, a sut mae sicrhau bydd llywodraeth Cymru yn eu deall yn y dyfodol?

"Rwy'n credu bod hyn yn fater llawer fwy pwysig nag unrhyw ddadlau syml am ariannu."

Image caption Owain Arwel Hughes

Mae un o wynebau cyfarwydd cyngherddau clasurol Cymreig hefyd yn hybu buddiannau'r celfyddydau i iechyd y genedl.

Eleni bydd Owain Arwel Hughes yn cynnal Proms Cymru wedi 31 o flynyddoedd yn arwain y cyngherddau clasurol. Mae'n dweud bod hanes hir o broblemau ariannol yn ei ddiwydiant.

"Mae'r celfyddydau wastad wedi bod mewn sefyllfa anodd, achos os bydd rhywbeth yn digwydd yn ariannol yn rhywle, y celfyddydau sydd yn cael eu taro cynta. Dydy'r celfyddydau ddim yn bwysig, yn aml, i lot o bobl.

"Mae arian yn hollol bwysig ond mae 'na bethau eraill, nid jyst yn ariannol, ond pethau fel effaith cerddoriaeth ar fywydau pobol.

"Mae mor bwysig i'n hiechyd ni, a dydy pobl ddim yn deall hynny. Ry' ni'n siarad am yr NHS - mae cerddoriaeth yn helpu iechyd pobl."

Ond pa bynnag liw fydd y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd, fe fydd pwysau mawr i warchod yr £80 miliwn sydd yn cefnogi gwaith craidd nifer fawr o weithwyr y celfyddydau.

Mae Angharad Jenkins yn un sy'n rhannol ddibynnol ar nawdd cyhoeddus. Fel chwaraewr ffidil dalentog mae hi'n perfformio cyngherddau gyda grŵp Calan, a gyda'i mam fel rhan o ddeuawd DnA.

Yn ogystal â pherfformiadau masnachol, mae hi hefyd yn ymweld ag ysgolion i blant gydag anghenion arbennig.

"Mae'n holl bwysig bod 'na nawdd ar gael, arian cyhoeddus i bobl fel ni i fynd mas i berfformio.

"Ni'n neud tipyn bach o'r ddau - ry' ni'n ddibynnol ar arian cyhoeddus ar gyfer y fath yma o waith (mewn ysgolion arbennig).

"Ond ry' ni hefyd yn gwneud gwaith mewn theatrau lle ry ni'n ddibynnol ar godi arian ein hunain. Mae cymysgedd o'r ddau yn holl bwysig ar gyfer creu diwydiant celfyddydol iach."

Dydy'r holl sector ddim yn ddibynnol ar arian cyhoeddus, ac mae toriadau i gyllidebau yn y blynyddoedd diwethaf wedi gorfodi rhai i edrych am ffynonellau eraill fel noddwyr preifat, neu fentrau masnachol newydd.

Ond does dim dwywaith fod sefyllfa ariannol y sector yn gorfodi'r rhai sy'n gweithio yn y celfyddydau i edrych i'r gwleidyddion am gefnogaeth wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol.