Llafur Cymru'n lansio ei hymgyrch etholiadol ddydd Llun

Ymgyrchwyr Llafur yn y lansiad yng Nghasnewydd ddydd Llun
Image caption Ymgyrchwyr Llafur yn y lansiad yng Nghasnewydd ddydd Llun

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi addo "cytundeb teg" i gymunedau Cymru wrth i'w blaid lansio ei hymgyrch ar gyfer yr etholiadau lleol fis nesaf.

Cafodd ymgyrch Llafur Cymru ei lansio yng Nghasnewydd ddydd Llun.

Dywedodd Mr Jones fod ei blaid wedi gosod y safon yn "hynod o uchel" yn etholiadau 2012 - pan ychwanegodd 231 o seddau newydd - ac fe ddywedodd fod y blaid yn dechrau'r ymgyrch eleni o "sefyllfa gref".

Mae ei blaid yn amddiffyn 580 o seddi drwy Gymru.

Daw'r lansiad wedi iddo ddweud y byddai'n "anodd" i'r blaid i osgoi colledion.

Amddiffyn rheolaeth

Roedd Llafur Cymru wedi mwynhau ei etholiadau lleol gorau ers 16 o flynyddoedd yn 2012, ac mae'r blaid yn amddiffyn ei rheolaeth o 10 awdurdod lleol.

Dywedodd Carwyn Jones: "Bydd yr etholiadau ym Mai yn gweld y nifer fwyaf erioed o ymgeiswyr Llafur yn sefyll ar draws Cymru.

"Fe osododd ein canlyniadau yn 2012 y safon yn hynod o uchel ond rydym yn dechrau'r ymgyrch hon o sefyllfa gref."

Ychwanegodd fod cynghorau Llafur wedi "adeiladu cartrefi newydd... cynorthwyo i ddelifro'r canlyniadau TGAU a Lefel A gorau erioed, cefnogi busnesau bychain ac arwain cynlluniau adfywio uchelgeisiol mewn trefi a dinasoedd ar hyd y wlad".