Y Ceidwadwyr yn galw am 'ddatblygu polisïau yn lleol'

  • 13 Ebrill 2017
Lansio ymgyrch y Ceidwadwyr Cymreig
Image caption Andrew RT Davies ac Alun Cairns yn lansio ymgyrch y Ceidwadwyr Cymreig

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo y byddai eu cynghorau nhw yn cynnig trethi cyngor tecach, annog mwy o ailgylchu ac adfywio'r stryd fawr.

Mae'r blaid yn lansio'u hymgyrch ar gyfer etholiadau lleol Cymru yn Ninas Powys, Bro Morgannwg ddydd Iau.

Dywedodd yr arweinydd Andrew RT Davies ei fod eisiau i "benderfyniadau gael eu cymryd mor agos â phosib" at gymunedau.

Ar hyn o bryd mae'r Ceidwadwyr yn rhedeg un cyngor - Sir Fynwy - gyda chymorth y Democratiaid Rhyddfrydol.

Ffrae Reckless

Mae Cyngor Bro Morgannwg, sydd dan reolaeth Llafur ar hyn o bryd, hefyd yn un o dargedau mwyaf y Ceidwadwyr, ac mae'r blaid yn gobeithio elwa o berfformiadau cryf y Prif Weinidog Theresa May yn y polau piniwn yn ddiweddar.

Ond mae Mr Davies wedi bod yng nghanol ffrae yn dilyn penderfyniad y grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad i groesawu Mark Reckless AC o UKIP, er nad yw Mr Reckless yn aelod o'r blaid Geidwadol.

Daw hynny wedi i Mr Reckless adael y Torïaid pan oedd yn Aelod Seneddol, a hynny ar drothwy eu cynhadledd olaf cyn etholiad cyffredinol 2015.

Mae ffigyrau amlwg o fewn y blaid eisoes wedi awgrymu nad oes llawer o obaith ganddo o ddod yn aelod o'r blaid Geidwadol yn y dyfodol agos.

Ond dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns wrth BBC Cymru nad oedd y ffrae dros Mr Reckless yn cael ei godi gan etholwyr.

"Mae materion fel cyflwr y ffyrdd yn bwysicach na phersonoliaethau," meddai.

Image caption Allai'r ffrae dros groesawu Mark Reckless daflu cysgod dros lansiad y Ceidwadwyr?

Yn y lansiad, mewn tafarn yn Ninas Powys, fe wnaeth Mr Davies bwysleisio i etholwyr fod "cynghorau yn chwarae rôl bwysig wrth siapio gwasanaethau cyhoeddus yn eich cymunedau, ond mae'n rhaid iddyn nhw fod yn atebol ac agored i'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu".

"Rydyn ni eisiau gweld polisïau yn cael eu datblygu'n lleol, a phenderfyniadau yn cael eu gwneud mor agos â phosib i chi a'ch cymuned," meddai.

Dywedodd llefarydd y blaid ar lywodraeth leol, Janet Finch-Saunders AC bod cynghorau sydd yn cael eu harwain gan Lafur a Phlaid Cymru "yn parhau i ddal ein cymunedau yn ôl gyda'u hunanfodlonrwydd, sydd wedi arwain at ddirywiad ar y stryd fawr, llai o ardaloedd gwyrdd hardd, a cholli rheolaeth ar filiau treth cyngor".

Ar hyn o bryd mae gan y Ceidwadwyr 104 o seddi cyngor yng Nghymru, y tu ôl i Lafur a Phlaid Cymru.