Ras dau geffyl i helpu'r Ceidwadwyr yng Nghymru?

  • 7 Mai 2017
May Corbyn
Image caption Mae cadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, Jonathan Evans, yn dweud fod yr etholiad cyffredinol wedi ei gyflwyno fel dewis rhwng Jeremy Corbyn a Theresa May.

Mae Ceidwadwr blaenllaw wedi dweud y bydd y blaid yng Nghymru yn elwa o'r canfyddiad mai brwydr rhwng dau geffyl fydd 'na yn yr etholiad cyffredinol.

Er i'r blaid gynyddu nifer ei chynghorwyr yn yr etholiadau lleol ddydd Iau, dim ond yn Sir Fynwy y llwyddon nhw i gipio grym.

Yn ôl cadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Jonathan Evans, bydd pleidlais fis Mehefin yn cael ei gweld fel gornest rhwng Theresa May a Jeremy Corbyn.

Dywedodd Chris Evans o'r blaid Lafur bod yr etholiadau lleol wedi rhoi "sylfaen gref" i'r blaid adeiladu arni.

Mynnodd Plaid Cymru bod pethau'n argoeli'n dda i'r blaid yn yr etholiad cyffredinol yn dilyn cynnydd yn y bleidlais leol.

Er gwaetha'u perfformiad siomedig, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynnu na ddylid cymryd unrhyw beth yn ganiataol yn yr etholiad Cyffredinol.

Dywedodd UKIP fod gan y blaid rôl allweddol o hyd er na lwyddodd i ethol yr un cynghorydd.

Mewn cyfweliad ar raglen BBC Sunday Politics Wales, dywedodd Jonathan Evans, sy'n rheoli ymgyrch yr etholiad cyffredinol i'r Ceidwadwyr yng Nghymru, fod yna amrywiaeth o ddewisiadau eraill i Lafur wedi bod yn yr etholiadau yng Nghymru, ond ychwanegodd: "Yn yr etholiad cyffredinol, rwy'n disgwyl i bobl weld yr ornest fel ras rhwng dwy blaid.

"Mae'r etholiad wedi ei gyflwyno fel dewis rhwng Jeremy Corbyn a Theresa May.

"Dwi'n ei weld felly, ac mae'r cyhoedd yn ei weld fel hynny hefyd, a dwi'n meddwl y bydd yn llawer o help i'r Blaid Geidwadol yn yr etholiad."

Image caption Mae'r Blaid Lafur yng Nghymru'n gryfach nag y mae'r arolygon yn ei ddangos medd Chris Evans

Er i'r blaid Lafur golli 100 o gynghorwyr yng Nghymru, a cholli rheolaeth ar gynghorau Pen-y-bont a Blaenau Gwent, doedd y canlyniad hwn ddim mor ddrwg i'r blaid â'r darogan.

Dywedodd Chris Evans, cyn Aelod Seneddol sy'n ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol: "Yr hyn sy'n glir yw fod Llafur yng Nghymru lawer yn gryfach nag y mae'r arolygon yn dweud wrthon ni ar hyn o bryd.

"Dydy pobl ddim wedi gadael y Blaid Lafur - mae gan bobl ffydd o hyd ac maen nhw'n cadw'n gryf gyda'r Blaid Lafur, a dyna fyddwn ni'n adeiladu arno yn y pedair wythnos nesaf."

Image caption Mae'n argoeli'n dda i Blaid Cymru wedi'r etholiadau lleol, medd Rhun ap Iorwerth

Dywedodd Plaid Cymru fod ennill dros 30 o gynghorwyr yn yr etholiadau lleol yn "newyddion gwych" a bod patrwm y pleidleisio mewn rhai ardaloedd yn destun gobaith cyn yr etholiad cyffredinol.

Yn ôl Aelod Cynulliad Ynys Mon, Rhun ap Iorwerth, roedd yn galonogol gweld cynnydd "mewn llefydd lle nad ydyn ni wedi bod yn gryf yn draddodiadaol".

"Wrth edrych ar y darlun llawn, rhaid ystyried hwn yn ganlyniad cadarn i Blaid Cymru, sy'n argoeli'n dda ar gyfer y bleidlais ymhen rhai wythnosau."

Image caption Ddylen ni ddim rhagdybio'r hyn allai ddigwydd ar 8 Mehefin ar sail canlyniadau'r bleidlais leol medd Kirsty Williams

Ar ôl colli 11 sedd cyngor, 62 cynghorydd sydd gan y Democratiaid Rhdyddfrydol yng Nghymru bellach - perfformiad cymysg, medd yr Aelod Cynulliad, Kirsty Williams.

Ond rhybuddiodd na ddylid rhagdybio'r hyn allai ddigwydd ar 8 Mehefin ar sail y canlyniadau: "Dwi'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus nad ydyn ni'n cymryd canlyniadau'r etholiadau lleol yn rhy llythrennol yng nghyd-destun yr etholiad cyffredinol", meddai.

"Mae na ddadleuon i'w gwneud ar garreg y drws yn ystod yr wythnosau nesaf."

Image caption Mae gan UKIP rôl allweddol er iddi fethu â chipio'r un sedd yng Nghymru, medd Gareth Bennett

Mynnodd Aelod Cynulliad UKIP, Gareth Bennett, fod gan y blaid rôl allweddol o hyd er iddi fethu chipio'r un sedd yn yr etholiadau lleol, a cholli 145 yn Lloegr.

"Fe ddylai UKIP fod â dyfodol o hyd achos mae cymaint o faterion sydd heb eu datrys yng ngwleidyddiaeth Prydain na fydd y prif bleidiau'n mynd i'r afael â nhw," dywedodd.

"Pwy sy'n mynd i'w taclo nhw heblaw UKIP?"