Y Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am gadarnhau lagŵn

  • 11 Mai 2017
Tim Farron Image copyright EPA
Image caption Roedd Tim Farron yn ymweld â Chaerdydd ddydd Iau i lansio ymgyrch ei blaid yng Nghymru

Mae angen i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen heb oedi gyda datblygiad morlyn Bae Abertawe, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae arweinydd y blaid ar draws y DU, Tim Farron wedi bod yn ymweld â Chaerdydd ddydd Iau i lansio ymgyrch y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Mae'r blaid yn gobeithio adennill rhywfaint o seddi eleni wedi iddyn nhw golli dwy yn etholiad cyffredinol 2015, gan eu gadael ag ond un yng Nghymru.

Ond mae'r Ceidwadwyr wedi dweud y byddai pob pleidlais dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei gwneud hi'n fwy tebygol fod yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn yn dod yn brif weinidog.

'Hanfodol'

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol y dylai caniatâd i'r cynllun yn Abertawe fod yn gam cyntaf ar gyfer prosiectau tebyg yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bae Colwyn.

Ym mis Ionawr fe wnaeth adroddiad annibynnol argymell y dylai'r llywodraeth fwrw ymlaen gyda'r cynllun i godi lagŵn ym Mae Abertawe.

Ond ni chafodd cyllid ar gyfer y prosiect gwerth £1.3bn ei gadarnhau yng nghyllideb mis Mawrth, a does dim disgwyl cyhoeddiad arni nawr nes ar ôl yr etholiad cyffredinol.

Image caption Fe wnaeth Kirsty Williams gamu o'r neilltu fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru y llynedd, gydag AS Ceredigion, Mark Williams yn ei holynu

Dywedodd cyn-ysgrifennydd ynni'r Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey, y byddai morlynnoedd llanw yn "hanfodol er mwyn creu dyfodol carbon isel i Brydain".

"Mae'n warthus fod y Ceidwadwyr wedi gwrthod bwrw 'mlaen gyda chynllun Bae Abertawe, pan mae'r achos o'i blaid yn un mor glir," meddai.

"Mae'n rhaid i Theresa May ei gwneud hi'n glir yn yr ymgyrch - ydy hi o blaid morlyn Bae Abertawe neu ddim?

"Mae ei llywodraeth wedi oedi'n rhy hir."

'Gwrthwynebiad gwan'

Wrth siarad ag ymgyrchwyr yng Nghaerdydd ddydd Iau, dywedodd Mr Farron fod gan ei blaid "gyfle gwych" i ddarparu'r "gwrthwynebiad cryf [i'r llywodraeth] sydd ei angen ar Brydain".

"Y llywodraethau gwaethaf mewn hanes yw'r rhai oedd gyda'r gwrthwynebiad gwanaf," meddai.

"Rydyn ni'n benderfynol na wnawn ni arwyddo'r siec wag yna fel bod Prydain yn cael ei gorfodi allan ar y fersiwn mwyaf eithafol o Brexit.

"[Byddai hynny'n] niweidio Cymru, niweidio dyfodol ein plant, niweidio dyfodol ein gwlad - dwi'n dweud y gall Prydain wneud yn well."

Image copyright PA
Image caption Mae Tim Farron wedi bod yn arweinydd ar Ddemocratiaid Rhyddfrydol y DU ers 2015

Ychwanegodd y byddai "Cymru'n cael ei chymryd yn ganiataol" petai'r Ceidwadwyr yn sicrhau buddugoliaeth fawr yn yr etholiad.

Yn gynharach fe wnaeth y blaid gyhoeddi y bydden nhw'n buddsoddi £330m yn ychwanegol mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru, fel rhan o becyn £7bn ar draws y DU.

"[Rydyn ni'n] canolbwyntio ar godi safonau ysgolion, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, a darparu system addysg sydd yn rhywbeth i fod yn falch ohono," meddai Kirsty Williams, AC y blaid ac Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru.

Fe wnaeth arweinydd y blaid yng Nghymru, AS Ceredigion Mark Williams hefyd annerch y lansiad gan alw ar Gymru i wrthod cynllun Theresa May i "lusgo Cymru allan o'r farchnad sengl a bygwth ein heconomi a'n gwasanaethau cyhuoeddus".

'Amherthnasol'

Ond mae'r Ceidwadwyr wedi mynnu "nad oes sicrwydd pwy fydd yn ennill yr etholiad" ac felly fod pleidlais i'r Democratiaid Rhyddfrydol "yn rhoi Jeremy Corbyn gam yn agosach at Downing Street".

"Mae gennym ni aelodau blaenllaw o'r Democratiaid Rhyddfrydol, Gwyrddion a chenedlaetholwyr i gyd yn dweud y bydden nhw'n barod i daro bargen gyda Corbyn ar ôl yr etholiad," meddai llefarydd.

Mynnodd Jo Stevens o'r blaid Lafur fod y Democratiaid Rhyddfrydol "wedi torri eu haddewidion a byddan nhw'n gwneud hynny eto".

"Saith mlynedd ers iddyn nhw ymuno â'r Torïaid yn y glymblaid, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ceisio rhedeg i ffwrdd o'u record, gan ddweud eu bod yn gwrthwynebu'r Torïaid er eu bod wedi eu cefnogi a phleidleisio gyda nhw ar gannoedd o bolisïau niweidiol," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod yr etholiad cyffredinol eleni "yn ddewis clir" rhyngddyn nhw a'r Ceidwadwyr.

"Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn amherthnasol yn yr etholiad yma, ac mae'r blaid Lafur yn rhy wan a rhanedig i allu cyflawni eu dyletswydd fel gwrthblaid," meddai'r llefarydd.