Pum sedd allweddol yng Nghymru yn yr etholiad

Ar 8 Mehefin bydd etholwyr yng Nghymru yn mynd i'r blychau pleidleisio i ddewis pwy fydd yn eu cynrychioli nhw mewn 40 etholaeth.

Fel unrhyw etholiad, bydd rhai seddi yn fwy pwysig na'i gilydd - rhai yn saffach i'r ymgeisydd sy'n ceisio eu hamddiffyn na rhai eraill yng Nghymru ble bydd brwydr go iawn.

Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick sydd wedi bod yn bwrw golwg dros bum sedd allai adlewyrchu newidiadau sylweddol o ran patrymau pleidleisio, ac adrodd stori'r etholiad eleni.


Pen-y-bont

Image copyright AFP
Image caption Fe wnaeth y prif weinidog Theresa May ymweld â Phen-y-bont ym mis Ebrill

Dyma iard gefn y prif weinidog Llafur, Carwyn Jones.

Ond ym mis Ebrill, fe ddaeth Theresa May yma a pharcio'i thanciau ar ei lawnt.

Roedd yn symbol o ba mor uchelgeisiol yw'r ymgyrch Geidwadol eleni - dyw'r sedd hon heb fod yn las ers yr 1980au.

Mae Llafur yn amddiffyn mwyafrif o 1,927 yma.

Petai pleidlais UKIP yn diflannu - fe gawson nhw 5,911 yn 2015 - a mynd i'r Ceidwadwyr, gallai'r ymgeisydd Torïaidd fod mewn safle gwych i'w chipio.

Mae'n un o sawl sedd ymylol Llafur allai fod dan fygythiad yn ne Cymru, gan gynnwys Gorllewin Casnewydd, Gorllewin Caerdydd, a De Caerdydd a Phenarth.

Yn ôl Vaughan Roderick, bydd y prif frwydrau eleni mewn ardaloedd sydd wedi bod yn rai Llafur ers diwedd yr 1980aum ond oedd yn nwylo'r Ceidwadwyr yn 1983, fel Pen-y-bont.

"Mae gennych chi hefyd seddi ble wnaeth y Ceidwadwyr ddod yn agos yn 1983 sydd nawr yn y fantol - rhai fel De Caerdydd, a Wrecsam," meddai.

"Mae 'na seddi fyddai fel arfer yn cael eu hystyried yn rai Llafur diogel sydd bellach yn frwydr agos rhwng y ddwy.

"Mae'r brwydro wedi symud yn ddyfnach a dyfnach i dir Llafur dros y blynyddoedd diwethaf.

"Os ewch chi 'nôl cwpl o etholiadau, roedd 'na frwydrau agos yn y ddwy sedd yn Sir Benfro, yn ogystal â Sir Fynwy a Gorllewin Clwyd.

"Nawr mae ardaloedd eraill ble mae hi'n frwydr go iawn bellach."


Gŵyr

Image copyright Getty Images
Image caption Mae etholaeth Gŵyr yn cynnwys ardaloedd fel Bae Rhosili

Dyma'r sedd fwyaf ymylol yn y DU.

Ar bapur dyma'r un sedd y gallai Llafur ei hadennill.

Ar ôl dal y sedd am dros 100 mlynedd, fe wnaethon nhw ei cholli yn 2015 o drwch blewyn i'r Ceidwadwyr, gyda dim ond 27 pleidlais ynddi.

Gallai'r gogwydd i ffwrdd o Lafur yn y polau piniwn wneud pethau'n anoddach, hyd yn oed os yw'r blaid wedi dysgu gwersi yn dilyn cwynion eu bod nhw wedi cymryd yr etholaeth yn ganiataol ddwy flynedd yn ôl.

Ond os yw Llafur yn llwyddiannus yn fan hyn ac yn Nyffryn Clwyd, sedd agos arall gafodd ei chipio gan y Ceidwadwyr yn 2015, fydd ymgyrchwyr Llafur yn ochneidio o ryddhad nad oedd hi'n etholiad mor wael iddyn nhw ag y cafodd ei ddarogan?


Canol Caerdydd

Image copyright AFP
Image caption Gorsaf bleidleisio ym Mharc y Rhath, rhan o etholaeth Canol Caerdydd

Yn 2015 cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol etholiad trychinebus.

Roedd colledion sylweddol iddyn nhw ar draws y DU, wrth i nifer eu ASau yng Nghymru ostwng o dri i un.

Mae'r blaid sydd o blaid yr UE nawr yn gobeithio adeiladu cefnogaeth ar sail y rheiny bleidleisiodd i aros yn y refferendwm.

Yng Nghymru, eu siawns gorau o lwyddiant yw sedd Canol Caerdydd. Ar bapur, mae'n sedd ymylol gafodd ei chipio oddi wrthyn nhw gan Lafur yn 2015 gyda mwyafrif o 4,981.

Ond a fydd ymdrechion y Democratiaid Rhyddfrydol yn cael eu llesteirio, wrth i etholwyr fwy adain dde droi oddi wrth y blaid a chefnogi'r ymgeisydd Ceidwadol?

Os ydyn nhw'n gwneud hynny, gallai ddod yn esiampl o sedd ymylol tair plaid yng Nghymru, ac fe allai hynny fod o fudd i Lafur.

Gallai'r sedd hefyd fod yn un anodd i'r blaid ar sail yr etholiadau lleol, yn ôl Vaughan Roderick.

"Mae gennych chi bentwr o etholwyr Ceidwadol sydd fel arfer yn pleidleisio'n dactegol dros y Democratiaid Rhyddfrydol," meddai.

"Ond os mai eu neges nhw yw 'ni yw'r blaid aros', pam ddylai'r Ceidwadwyr hynny yng Nghyncoed bleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol i gadw Llafur allan?"


De Clwyd

Image copyright Geograph/Richard Croft

Mae llawer wedi darogan y gallai'r Ceidwadwyr ennill rhagor o dir yng ngogledd Cymru ers cipio Dyffryn Clwyd yn etholiad cyffredinol 2015.

Mae clwstwr o etholaethau ymylol Llafur/Ceidwadol fan hyn - Alun a Glannau Dyfrdwy, Wrecsam, Delyn, yn ogystal â De Clwyd.

Wedi dweud hynny, ni wnaeth y Ceidwadwyr lwyddo i gipio'r un o'r seddi hynny yn etholiad y Cynulliad llynedd.

Mae gwleidyddiaeth wedi newid yn y cyfamser fodd bynnag - mae gennym ni brif weinidog newydd, ac mae proses Brexit hefyd wedi dechrau.

Allai'r darlun gwleidyddol newydd hefyd arwain ar newid lliw gwleidyddol yng ngogledd-ddwyrain Cymru?


Ynys Môn

Image copyright AFP
Image caption Ai Ynys Môn fydd gobaith gorau Plaid Cymru?

Ar ddechrau ymgyrch yr etholiad cyffredinol, Rhondda oedd y sedd ble roedd darogan y gallai un o wynebau cyfarwydd Plaid Cymru geisio am sedd yn San Steffan.

Ond ar ôl cadw pobl yn dyfalu am rai dyddiau, cyhoeddodd arweinydd y blaid, Leanne Wood, na fyddai hi'n ymgeisio.

Yn hytrach, fe drodd sylw'r penawdau at Ynys Môn, ble mae cyn-arweinydd y blaid, Ieuan Wyn Jones, wedi taflu ei enw i'r ras.

Yn 2015 daeth Plaid Cymru o fewn 229 pleidlais i gipio'r sedd oddi ar Lafur.

Mewn etholiad ble mae'r ddwy brif blaid wedi bod yn clochdar yn uchel yn erbyn ei gilydd, fydd Plaid yn llwyddo i gael eu llais nhw wedi'i glywed, ac ennill seddi?

Mae'n siŵr mai yn Ynys Môn y mae eu gobaith gorau, yn ôl Vaughan Roderick.

"Mae gennych chi rai seddi sy'n cynnwys pleidiau eraill - nid Llafur a'r Ceidwadwyr yn unig - oedd yn seddi ymylol dwy blaid tro diwethaf, allai ddod yn rai tair plaid y tro yma," meddai.

"Mae tair ohonyn nhw - Ynys Môn, Ceredigion, a Chanol Caerdydd.

"Gallai cynnydd yn y bleidlais Geidwadol gael effaith fawr ar bwy fydd yn ennill yn y diwedd. Fe allai rhywun ennill sedd ar y noson gyda 30% o'r bleidlais."

Dylen ni gadw llygad ar y Rhondda hefyd, meddai.

Er nad yw Leanne Wood yn sefyll, all Plaid Cymru ailadrodd eu llwyddiant nodedig o etholiadau'r Cynulliad llynedd?