Maniffesto Plaid Cymru yn addo 'llais cryf' i Gymru

Leanne Wood yn lansiad maniffesto Plaid
Image caption Dywedodd Leanne Wood y byddai ei phlaid yn "amddiffyn Cymru" wrth lansio'u maniffesto yn Y Rhondda

Wrth lansio'u maniffesto at yr etholiad cyffredinol, mae Plaid Cymru wedi addo rhoi "llais cryf" i Gymru yn ystod trafodaethau Brexit.

Mae'r ddogfen yn addo "amddiffyn" Cymru rhag "donnau" o ymosodiadau gan y Ceidwadwyr, gan ddweud nad ydy Cymru'n medru cuddio tu ôl i "fur gwan" Llafur.

Addewid y blaid yw cael y fargen orau bosib i amaeth a diwydiannau Cymru yn ystod Brexit.

Mae'n dweud hefyd y dylai'r Cynulliad orfod cymeradwyo unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol.

'Goresgyn y bygythiadau'

Dywedodd arweinydd Plaid, Leanne Wood, y byddai'n ceisio "goresgyn y bygythiadau" a gwneud y gorau o'r cyfleoedd yn sgil gadael yr UE.

Rhybuddiodd y byddai plaid Lafur ranedig a mwyafrif fwy i'r Ceidwadwyr yn golygu bod San Steffan yn "gwneud ei waethaf" i'r wlad.

Ychwanegodd mai bwriad cynllun ei phlaid oedd gwrthsefyll risgiau "plaid Dorïaidd greulon a byrbwyll".

Hwn yw'r cyntaf o'r maniffestos Cymreig i gael eu cyhoeddi cyn y bleidlais ar 8 Mehefin. Mae Plaid Cymru'n dweud bod eu haddewidion yn fforddiadwy, ond does dim ffigyrau manwl yn y ddogfen.

Ymysg polisïau eraill y blaid mae:

  • Sicrhau bod Cymru'n gallu parhau i brynu a gwerthu gyda'r UE heb rwystrau costus;
  • Cael gwared â threthi busnes a gosod system ar sail trosiant yn eu lle;
  • Agor banc dan berchnogaeth cyhoeddus;
  • Sicrhau hawliau dinasyddion yr UE sy'n byw a gweithio yng Nghymru.

Dywedodd Ms Wood, sy'n AC dros Y Rhondda, bod "ymrywymiad i sicrhau economi Gymreig gref a diogelu dyfodol ein gwasanaethau cyhoeddus amhrisiadwy" yng nghalon y maniffesto.

Cyn lansio'r ddogfen fore Mawrth, dywedodd: "Boed hynny yn dwristiaeth, addysg uwch neu swyddi, rydym yn benderfynol o oresgyn y bygythiadau a cheisio manteisio ar y cyfleoedd all ddod o ganlyniad i adael yr UE."

Dywedodd fod ASau Llafur o Gymru "yn rhy aml... wedi eistedd ar eu dwylo tra fod llywodraeth Geidwadol yn gwthio mesurau drwodd oedd yn niweidiol i'n cenedl".

Mae'r maniffesto'n mynnu bod arian o San Steffan yn cymryd lle "pob ceiniog" y bydd Cymru'n ei golli o Ewrop.

Image caption Mae Plaid Cymru hefyd am weld buddsoddiad mawr mewn isadeiledd yng Nghymru

Mae'r blaid hefyd yn dweud y bydden nhw'n amddiffyn economi, hunaniaeth a Chynulliad Cymru rhag ymgais Geidwadol i "gipio pŵer".

Hefyd yn y ddogfen mae addewid i greu "rhaglen fuddsoddi gwerth biliynau o bunnoedd" er mwyn adeiladu ysbytai, ysgolion, ffyrdd a rheilffyrdd newydd, yn ogystal â chynllun achub iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a ffyrdd wedi eu datganoli i Gymru, a bydd rhywfaint o reolaeth dros reilffyrdd hefyd yn cael ei ddatganoli yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd Llafur sydd yn arwain Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd, ond fe wnaeth Plaid Cymru gefnogi gweinidogion wrth basio eu cyllideb fwyaf diweddar.

'Codi bwganod'

Dywedodd Christina Rees o'r blaid Lafur fod yr etholiad yn "frwydr syml rhwng Llafur Cymru a'r Torïaid".

"Mae Leanne Wood yn gwybod na all ei phlaid hi ennill yr etholiad, a gallai pleidlais i Blaid Cymru arwain at fuddugoliaeth i'r Torïaid," meddai.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod Plaid Cymru wedi "anghofio crybwyll" eu bod nhw wedi "gwastraffu cyfleoedd ar gyfer newid" wrth gefnogi Llafur dro ar ôl tro.

"Maen nhw wedi dychmygu'r bwgan yma o San Steffan yn cipio pwerau - ofn camarweiniol er mwyn ceisio cyfiawnhau eu huchelgais i rwygo Cymru oddi wrth weddill y DU, allai achosi pob math o ddinistr i economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru."

Dywedodd Mark Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol fod ei blaid yntau'n dadlau'r achos dros "wlad optimistaidd, obeithiol a goddefgar".

Ychwanegodd llefarydd ar ran UKIP fod "Plaid Cymru yn parhau i fethu â chydnabod fod Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE, ac yn methu â pharchu dymuniadau pobl Cymru".