Dylai'r pleidiau 'wrando mwy' ar bobl fusnes

  • 16 Mai 2017
mewnfudo Image copyright Thinkstock

Ar drothwy'r etholiad cyffredinol, mae rhybudd bod angen i'r pleidiau gwleidyddol "wrando mwy" ar bobl fusnes.

Dywedodd llefarydd ar ran CBI Cymru bod gan wleidyddion "yr agwedd weithiau eu bod nhw'n meddwl eu bod nhw'n gwybod yn well".

Daeth sylwadau Owain Davies - Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Amcanu yn Sir Gaerfyrddin - mewn cyfweliad am fewnfudo gyda rhaglen O'r Senedd BBC Cymru.

Yn dilyn pleidlais Brexit y llynedd, mae mewnfudo'n un o'r pynciau llosg yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

Rheoli

Dywedodd Owain Davies bod angen mewnfudo "i gadw'r economi i symud" a sicrhau bod y sgiliau sydd eu hangen yn dod i Gymru.

Ond mae angen "rheoli" mewnfudo hefyd, meddai, "i sicrhau bod ddim gormod".

Ar hyn o bryd gall gweithwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd deithio i Brydain i weithio'n ddi-rwystr. Gall hynny arwain at brinder swyddi i bobl leol, yn ôl rhai.

Mae Owain Davies wedi cyflogi mewnfudwyr yn ei ffatri ym Mhorth Tywyn, a dywedodd: "Mae pobl sy'n gweithio gyda ni falle'n gweld e'n annheg bod mewnfudwyr yn dod fewn ac yn cymryd swyddi sydd ar gael, ond y broblem sydd gyda ni yw dydy pobl Cymreig ddim moyn y swyddi yma - maen nhw'n meddwl bod nhw'n well falle," meddai.

"Mae angen i wleidyddion wrando mwy - mae angen iddyn nhw ystyried be' ni angen yn y byd busnes."

"Mae agwedd gyda nhw ambell waith eu bod nhw'n meddwl eu bod nhw'n gwybod yn well."

Polisïau'r pleidiau

Mae'r Ceidwadwyr wedi ailadrodd eu hymrwymiad i gyfyngu ar ymfudo net blynyddol i'r "degau o filoedd o bobl".

Mae Llafur yn gwrthod gosod targed gan ddweud y byddai'r blaid yn rheoli mewnfudo mewn modd "teg a rhesymol".

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod gosod targedau ar gyfer mewnfudo'n "niweidiol" i fusnesau, prifysgolion ac ysbytai.

Addo sicrhau bod gan Gymru ei pholisi mewnfudo'i hun mae Plaid Cymru, er mwyn gallu diwallu ei hanghenion economaidd.

Mae UKIP yn addo sicrhau nad oes mwy o bobl yn dod i Brydain i fyw na sy'n gadael.

Mae modd gwylio O'r Senedd a'r S4C am 22.00 nos Fawrth ac ar iPlayer.