Dadl deledu: Arweinwyr Cymru yn dadlau dros Brexit

  • 18 Mai 2017
dadl deledu ITV Cymru Image copyright ITV Cymru

Brexit oedd un o'r prif bynciau trafod wrth i arweinwyr gwleidyddol yng Nghymru fynd benben yn nadl deledu gyntaf yr etholiad cyffredinol.

Yn Nadl Etholiad ITV Cymru dywedodd y prif weinidog Llafur, Carwyn Jones nad oed "erioed wedi gweld llywodraeth y DU yn llai parod ar gyfer unrhyw beth".

Ond dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod gan weinidogion y DU "gynllun o ddifrif".

Mynnodd Leanne Wood o Blaid Cymru y byddai hi'n sicrhau fod llais Cymru'n cael ei glywed.

Dywedodd Neil Hamilton o UKIP fod gan Brydain "gymaint i'w ennill" o Brexit, gan fod 85% o economi'r byd y tu allan i floc yr UE.

Image copyright ITV Cymru
Image caption Fe wnaeth Carwyn Jones amddiffyn cynllun Llafur i drethu'r rheiny oedd â'r "ysgwyddau lletaf"

Fe allwn ni sefydlu ein cytundebau masnachu ein hunain gyda gweddill y byd, meddai Mr Hamilton, arweinydd y grŵp UKIP yn y Cynulliad.

Dywedodd Ms Wood fod gan ei phlaid "gynllun positif ar gyfer Brexit" oedd yn canolbwyntio ar "amddiffyn y 200,000 o swyddi yng Nghymru sydd yn dibynnu ar fynediad heb dariffau i farchnad sengl yr UE".

Mynnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Mark Williams y byddai angen ail refferendwm er mwyn i bobl allu cytuno i unrhyw gytundeb gyda'r UE.

"Does neb yn gwybod sut fydd Brexit yn edrych - fe fyddwn ni'n rhoi'r cyfle i etholwyr gael dweud eu dweud ar amodau'r cytundeb gyda refferendwm i'w chadarnhau," meddai.

Image copyright ITV Cymru
Image caption Dywedodd Leanne Wood y byddai Plaid Cymru yn rhoi diddordebau Cymru ar yr agenda

Yn ystod y rhaglen bu dadlau brwd hefyd dros ba lefel o drethu oedd yn briodol.

Wrth amddiffyn cynlluniau Llafur i godi trethi pobl ar gyflogau uwch, dywedodd Mr Jones: "I mi mae'n fater o sicrhau mod i'n cyfrannu'n deg i wasanaethau cyhoeddus mae pobl am eu gweld.

"Roedd adeg pan roedd gennym ni gymdeithas lawer mwy cyfartal, cymdeithas lawer tecach, ble mae'r rheiny sydd â'r ysgwyddau lletaf yn cario mwy o'r baich."

Dywedodd Mr Davies fod toriadau llywodraeth y DU i drethi corfforaethol wedi dod â mwy o arian i'r Trysorlys, wrth annog cwmnïau i fuddsoddi.

Rhybuddiodd y byddai llywodraeth Lafur yn achosi i hyder y byd busnes "lifo i ffwrdd" achos byddai arian yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw i ariannu "polisïau ofer".

Image copyright ITV Cymru
Image caption Dywedodd Andrew RT Davies y byddai hyder y byd busnes yn "llifo i ffwrdd" dan lywodraeth Lafur

Byddai Plaid Cymru "ond yn pleidleisio i gynyddu trethi i'r rhai cyfoethocaf mewn cymdeithas", meddai Ms Wood.

"Fydden ni ddim yn cynyddu'r baich treth i'r rheiny yn y gymdeithas sydd leiaf cefnog," meddai.

Ychwanegodd fod Plaid eisiau i Gymru reoli Treth ar Werth a threthi corfforaethol fel bod modd eu gosod nhw mewn ffordd fyddai'n annog creu swyddi.

Dywedodd Mr Williams y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn codi £21bn dros bum mlynedd wrth "dorri toriad y Torïaid ar drethi corfforaethol".

Byddai hynny'n ariannu buddsoddiad ychwanegol yn y GIG, gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd meddwl "sydd wir ei angen ar draws y wlad", meddai.

Image copyright AFP
Image caption Dywedodd Mark Williams fod mewnfudo yn hanfodol i waith y Gwasanaeth Iechyd

Dywedodd Mr Hamilton na fyddai UKIP o blaid codi treth incwm "ar unrhyw lefel".

Wrth drafod mewnfudo fe wnaeth Mr Hamilton gyhuddo Theresa May, oedd yn ysgrifennydd cartref cyn dod yn brif weinidog, o fod yn gyfrifol am ychwanegu dwy filiwn o bobl i boblogaeth y DU.

Wrth amddiffyn manteision mewnfudo, dywedodd Mr Williams fod mewnfudwyr â sgiliau yn gyfrifol am gadw'r GIG ar ei thraed.

"Mae hyn yn fater o ddangos fod Cymru yn wlad gynnes, oddefgar a chroesawgar," meddai.

Image copyright ITV Cymru
Image caption Dywedodd Neil Hamilton ei fod yn gwrthwynebu unrhyw gynnydd i'r dreth incwm

Dywedodd Mr Davies ei bod hi'n hanfodol fod cwestiynau ynglŷn â mewnfudo yn cael eu taclo, ond y dylai'r DU barhau yn "agored".

Y flaenoriaeth oedd cael polisi mewnfudo oedd yn defnyddio "synnwyr cyffredin" a ddim yn peryglu creu swyddi, yn ôl Mr Jones.

Dywedodd Ms Wood fod y drafodaeth ar fewnfudo wedi mynd yn un "gwenwynig", a bod pobl yn fwy tebygol o weld mewnfudwr yn eu trin nhw nac yn "sefyll mewn ciw" gyda nhw.