Etholiad: 'Dim ots os dwi'n hoff o Corbyn neu ddim'

Vaughan Gething
Image caption Dywedodd Vaughan Gething ei fod yn derbyn bod y blaid wedi pleidleisio'n glir i gael Mr Corbyn fel arweinydd

Nid yw aelodau Llafur yng Nghymru yn ceisio ymbellhau oddi wrth eu harweinydd Jeremy Corbyn, yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething mewn rhaglen ffonio mewn ar BBC Radio Wales nad oedd wedi cefnogi Mr Corbyn yn y ddwy ornest ddiwethaf i ddewis arweinydd, ond ei fod dal yn gobeithio y byddai'n dod yn brif weinidog.

"Dwi ddim yn meddwl bod ots os ydw i'n hoff ohono neu beidio," meddai.

"Y dewis arall yw gadael i'r Ceidwadwyr wneud beth bynnag maen nhw eisiau."

'Gwell cael Llafur'

Wrth siarad ar raglen Jason Mohammad, wfftiodd Mr Gething awgrymiadau gan wrandawyr fod Llafur Cymru ddim yn cefnogi arweinydd eu plaid ar draws y DU.

"Dwi eisiau prif weinidog Llafur, ac mae hynny'n golygu Jeremy Corbyn fel prif weinidog," meddai.

"Dwi ddim yn meddwl bod ots os dwi'n hoff ohono neu ddim, beth sydd ots yw os ydw i'n credu fod ganddo'r gallu i redeg y wlad.

"Mae ots os dwi'n credu y byddai'n well i'r wlad gael prif weinidog Llafur nag un Torïaidd."

Image caption Fe wnaeth Jeremy Corbyn annerch rali o gannoedd o bobl yng Nghaerdydd ym mis Ebrill

Dywedodd ei fod hefyd am weld "niferoedd uchel" o ASau Llafur Cymreig yn dychwelyd i San Steffan wedi'r etholiad.

"Ry'n ni'n gwybod mai'r dewis arall yw gadael i'r Torïaid wneud beth bynnag maen nhw eisiau, felly mae e lan i ni i sefyll cornel Cymru," meddai.

Mynnodd hefyd nad oedd Llafur dan fygythiad mewn sawl rhan o Gymru gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru.

"Mae gennym ni record dda mewn llywodraeth... rydyn ni'n ymwneud yn uniongyrchol â'n cymunedau lleol," ychwanegodd, gan grybwyll fod Llafur wedi dal eu gafael ar saith cyngor yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai.

'Perthynas agored'

Wrth gael ei holi ar bolisïau, dywedodd Mr Gething fod Llafur "wedi brawychu" gyda chynlluniau'r Ceidwadwyr i gael gwared ar y sicrwydd o "glo triphlyg" ar bensiynau, gan honni y byddai pobl mewn gwaith yn llai cyfoethog dan y Torïaid.

Ar Ewrop, dywedodd y byddai Llafur yn dadlau dros "berthynas fwy agored" gyda'r UE na Brexit "caled", gan alw am fynediad "llawn a rhydd" i'r farchnad sengl, a rhyddid i symud ar gyfer gwaith.

Ychwanegodd ei fod yn cydnabod pryderon am fewnfudo, gan fynnu fodd bynnag fod y rhan fwyaf o fudo yn "fanteisiol yn economaidd".

"Ry'n ni'n wynebu her wrth ddeall pa fath o gytundeb allwn ni gael gydag Ewrop fydd ddim yn peryglu swyddi a buddsoddiad i Gymru," meddai.

"Dwi ddim yn meddwl fod pobl wedi pleidleisio i wneud eu hunain yn dlotach, ond dyna beth fyddai Brexit caled yn ei wneud, a dyna beth mae Theresa May eisiau."

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC