Perygl i Gymru 'ddiflannu'n wleidyddol', medd Adam Price

Adam Price
Image caption Adam Price yw aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Cenedlaetholdeb yw'r unig ffordd i atal Cymru rhag diflannu'n wleidyddol, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru.

Dywedodd AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price bod pleidleisio dros Lafur "heb weithio" a'i fod wedi gadael y wlad yn "ddiamddiffyn".

Mae Theresa May yn gobeithio cynyddu mwyafrif y Ceidwadwyr yn San Steffan yn yr etholiad ar 8 Mehefin, gan dargedu rhai seddi yng Nghymru.

Dywedodd Mr Price mai'r dewis i etholwyr yw un ai "gwthio Cymru i'r cyrion" neu ei "chwyddo" ar y llwyfan gwleidyddol.

"Fe wnaeth Theresa May benderfynu galw'r etholiad wrth gerdded yn Eryri ac aros yn nhŷ haf aelod o'r blaid," meddai.

"Mae trosiad yna. Ydyn ni eisiau bod yn ail gartref i Blaid Dorïaidd Seisnig ta meistri yn ein cartref ein hun?"

'Anweledig'

Yn siarad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales dywedodd Mr Price, y tro diwethaf i'r Ceidwadwyr gael mwyafrif mawr mewn etholiad - yn 1983 - ei fod wedi cael effaith enfawr ar ddiwydiannau glo a dur Cymru.

Dywedodd y byddai canlyniad tebyg y tro yma yn cael effaith tebyg ar yr hyn sy'n weddill o'r diwydiant dur, amaeth a'r economi, ac y byddai'n gweld Cymru'n diflannu fel ardal wleidyddol.

Ychwanegodd bod Yr Alban yn cael ei "pharchu, efallai hyd yn oed ei hofni" yn San Steffan, ond dyw Cymru "ddim yn ymddangos yn y darlun gwleidyddol.

Dywedodd Mr Price bod pob prif ddatblygiad yng Nghymru wedi bod yn ymateb i gynnydd mewn cenedlaetholdeb.

"Yn yr 1970au, Awdurdod Datblygu Cymru, y Cynulliad, oll oherwydd bod Cymru wedi rhoi ei hun ar y llwyfan gwleidyddol," meddai.

"Rydyn ni'n anweledig ar y funud oherwydd bod y mudiad cenedlaethol yn wannach."

Image caption Dywedodd Mark Williams y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn well na Llafur fel y brif wrthblaid

Yn siarad ar yr un rhaglen dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Mark Williams, bod y posibilrwydd o'r Ceidwadwyr yn ennill mwy o seddi yng Nghymru yn "bryder mawr".

Dywedodd y byddai ei blaid yn well na Llafur fel y brif wrthblaid, ond bod angen i'r holl wrthbleidiau "gydweithio ble fo'n bosib" yn erbyn llywodraeth Geidwadol.

'Rhwygo Cymru i ffwrdd'

Yn ôl llefarydd ar ran y Torïaid, dyw Plaid "ddim yn siarad dros Gymru".

"Mae'n bodoli am un pwrpas, sef rhwygo Cymru i ffwrdd o weddill y DU," meddai.

"Bydd dau ddewis ar 8 Mehefin: arweinyddiaeth cryf a chadarn Theresa May a'i thîm Ceidwadol, neu glymblaid gythryblus Jeremy Corbyn."

Dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton ei fod yn "chwerthinllyd" meddwl am Blaid Cymru fel gwrthblaid i'r Ceidwadwyr.

Ychwanegodd y byddai Plaid yn cael ei "hanwybyddu" yn San Steffan.