Ceidwadwyr: 'Dim datganoli pwerau ac anghofio amdanynt'

Theresa May

Mae'r Ceidwadwyr wedi addo na fyddan nhw'n parhau i "ddatganoli ac anghofio" pwerau i Gymru o hyn ymlaen.

"Rydyn ni eisiau i lywodraeth y DU fod yn rym er gwell ar draws yr holl wlad," meddai'r blaid yn eu maniffesto Cymreig ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Cafodd y ddogfen ei lansio ddydd Llun gan Theresa May, a ddywedodd fod angen i bleidleiswyr ddewis rhyngddi hi neu Jeremy Corbyn.

Roedd ei haraith hefyd yn cynnwys tro pedol ar bolisi gofal cymdeithasol gafodd ei chyflwyno ym maniffesto DU y blaid yr wythnos diwethaf.

'Llywodraeth weithgar'

Cyn y lansiad cafodd dyn ei arestio y tu allan i'r digwyddiad ar ôl iddo brotestio yn erbyn cynlluniau'r Torïaid ar hela llwynogod.

Dywedodd Mrs May yn ei haraith y byddai'r Ceidwadwyr yn gosod cap ar faint y byddai'r henoed yn orfod ei dalu am ofal cymdeithasol - tro pedol ar y manylion yn y polisi gafodd ei gyflwyno ym maniffesto DU y blaid.

Ond yng Nghymru mae'r mater wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad.

Image caption Mae'r Ceidwadwyr eisoes wedi rhoi addewid i ddiddymu'r tollau ar Bont Hafren

Dywedodd maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig: "Mae llywodraeth y DU yn y gorffennol wedi tueddu i 'ddatganoli ac anghofio'. Bydd y llywodraeth Geidwadol hon yn cywiro hynny.

"Rydyn ni eisiau i lywodraeth y DU fod yn rym er gwell ar draws y wlad gyfan.

"Felly byddwn ni'n lywodraeth gweithgar, ym mhob rhan o'r DU. Byddwn ni'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru er lles ein pobl i gyd - ond nid dyna fydd terfyn ein gweithredoedd yng Nghymru."

Yn y cyfamser mae pôl piniwn newydd wedi awgrymu fod Llafur bellach ar 44% yng Nghymru, gyda'r Ceidwadwyr ar 34%.

Roedd polau gan YouGov ar ran ITV a Chanolfan Llywodraethiant Cymru yn gynharach yn yr ymgyrch wedi dangos y Torïaid ar y blaen.

Brexit

Dywedodd Theresa May hefyd "nad oes amser i'w wastraffu" wrth gyflwyno'r fargen Brexit orau ar ôl yr etholiad.

Mae'r UE yn awyddus i ddechrau trafodaethau am Brexit 11 diwrnod ar ôl canlyniad yr etholiad, meddai.

Fe wnaeth hi bwysleisio addewid ei phlaid i ddiddymu'r tollau ar Bont Hafren, a dweud y byddai'r Ceidwadwyr yn gweithio tuag at fargen dwf i ogledd Cymru.

Dywedodd hefyd y byddai cronfa o'r DU yn cymryd lle'r grantiau presennol sydd yn dod o'r UE, er mwyn ceisio lleihau anghyfartaledd rhwng y gwledydd.

Image caption Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns yn croesawu Theresa May yng Ngresffordd fore dydd Llun

Mae'r Ceidwadwyr wedi dod dan bwysau i ymrwymo i brosiect morlyn llanw Bae Abertawe, ac i gadarnhau y bydd y brif linell reilffordd yn ne Cymru yn cael ei thrydaneiddio hyd at Abertawe.

Mae'r blaid yn gobeithio y gall gipio nifer o seddi ychwanegol yng Nghymru ond mae wedi bod dan y lach am ei chynllun i dorri nôl ar fudd-daliadau i'r henoed.

Wrth lansio maniffesto Prydeinig ei phlaid wythnos yn ôl, cyhoeddodd Theresa May mai dim ond rhai pensiynwyr fyddai'n cael hawlio arian am danwydd i gynhesu eu tai yn y dyfodol.

Ar yr un pryd dywedodd y byddai newidiadau i ofal cymdeithasol yn Lloegr, ac mae 'na feirniadaeth go hallt wedi bod i'r polisïau dros y penwythnos.

'Dadrithiad'

Dywedodd Mrs May y bydd pob pleidlais i'r Ceidwadwyr yn cryfhau ei llaw hi pan fydd hi'n wynebu arweinwyr UE yn y trafodaethau i ddod.

Ychwanegodd y byddai sedd y DU wrth y bwrdd trafod yn cael ei llenwi "gen i, neu gan Jeremy Corbyn".

"Dwi'n gwybod fod yr ymdeimlad o ddadrithiad yn rhywbeth sy'n cael ei deimlo yng Nghymru yn enwedig," meddai.

"Fe welsom ni hynny pan wnaeth pobl ar draws Cymru benderfynu anwybyddu rhybuddion hysterig gwleidyddion Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol ym Mae Caerdydd, a phleidleisio i adael yr UE.

"Rydyn ni'n gweld hynny nawr yn y ffordd mae'r un gwleidyddion yn gwrthod parchu'r bleidlais yna a cheisio canfod ffyrdd newydd o osod rhwystrau yn ein ffordd."

Image copyright Getty Images

Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol ymateb i faniffesto'r Ceidwadwyr drwy ddweud fod "y blaid gas wedi dychwelyd".

"[Maen nhw am] gael gwared ar y tri chlo ar bensiynau, dad-gapio costau gofal, a pheryglu llwyddiant busnesau a diwylliant Cymru drwy lusgo Cymru allan o'r Farchnad Sengl," meddai Mark Williams, arweinydd y blaid yng Nghymru.

"Ni all Cymru fforddio llywodraeth Geidwadol arall sydd allan o gysylltiad, ac yn ddrwg i'n swyddi, ein siopa wythnosol, ein busnesau a dyfodol ein plant."

Dywedodd Jonathan Edwards o Blaid Gymru fod dogfen y maniffesto yn dangos "nad oes gan y Torïaid unrhyw fwriad o fuddsoddi yng Nghymru".

"Mae'r maniffesto yn crisialu'n union pam fod Cymru wedi dod mor ddibynnol ar Lundain, pam fod cyflogau Cymru mor bell tu ôl i weddill y DU, a pham nad yw ein heconomi ni ddigon da," meddai.

"Hyd yn oed pan mae plaid yn lansio maniffesto ar wahân ar gyfer Cymru fel pe bai hi'n etholiad Cynulliad, dydyn nhw dal ddim yn crybwyll trydaneiddio'r rheilffyrdd na'r morlyn llanw."