Etholiad 2017: Y ras am Dde Clwyd

  • 22 Mai 2017
Cefn gwlad, De Clwyd
Image caption Mae etholaeth De Clwyd yn cynnwys ardaloedd gwledig, ynghyd â threfi fel Llangollen, Corwen a Rhosllannerchrugog

Ychydig dros flwyddyn yn ôl roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn Llangollen, yn etholaeth De Clwyd, am benwythnos ar gyfer cynhadledd wanwyn y blaid.

Mae'r blaid yn bwriadu sicrhau presenoldeb mwy parhaol ar ôl yr etholiad ar 8 Mehefin.

Llafur sydd wedi ennill pob etholiad cyffredinol yn Ne Clwyd ers sefydlu'r etholaeth cyn etholiad 1997.

Boris Johnson oedd ymgeisydd y Ceidwadwyr yn 1997 ac fe orffennodd yn ail - 13,810 o bleidleisiau y tu ôl i Lafur.

Yn etholiad 2015, mwyafrif Llafur oedd 2,402.

Image caption Susan Elan Jones, Llafur, sy'n amddiffyn y sedd yn yr etholiad

Susan Elan Jones sy'n amddiffyn y sedd i Lafur ar ôl ennill yn 2010 a 2015.

"Mae hi'n sicr yn mynd i fod yn galetach na'r ddau etholiad diwethaf, a dyna pam 'dan ni'n mynd am bob pleidlais, a dyna pam dwi'n gofyn i gefnogwyr rhai o'r pleidiau eraill i bleidleisio'n dactegol.

"I bob pwrpas, dwi hefyd yn gofyn i bobl os ydyn nhw eisiau ymgeisydd o'r tu allan - dyna sydd gan y Ceidwadwyr i'ch cynrychioli chi yma - neu ydych chi eisiau rhywun o'r ardal fydd wastad yn rhoi'r ardal yn gyntaf," meddai Ms Jones.

Image caption Mae Simon Baynes, ymgeisydd y Ceidwadwyr, yn gwadu ei fod yn dod o'r tu allan i'r ardal

Mae taflenni etholiad Susan Elan Jones yn dweud mai Llafur a'r Ceidwadwyr yw'r ceffylau blaen yn yr etholaeth - ac mae'r ymgeisydd Ceidwadol Simon Baynes yn cytuno.

"Dwi'n meddwl mai'r cwestiwn allweddol i'r bobl dwi wedi'u gweld ar stepen y drws ydy pa mor dda ydy'r Prif Weinidog, Theresa May ac arweinydd yr wrthblaid, Jeremy Corbyn, ac mae nifer yn penderfynu ar sail y gymhariaeth honno", meddai Mr Baynes.

Er hynny, dydy o ddim yn cytuno ei fod yn "ymgeisydd o'r tu allan".

"Fe ges i fy magu ychydig filltiroedd i'r de o'r etholaeth ger Llyn Efyrnwy, ble roedd fy nhad yn rhedeg gwesty. Dwi wedi byw yn yr ardal drwy gydol fy mywyd ac yn ystyried fy hun yn un o'r ardal", meddai.

Image caption Brexit ydy'r pwnc llosg i ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Bruce Roberts

Doedd dim sôn am daflenni etholiad ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Bruce Roberts - mae natur munud ola'r ymgyrch yn golygu nad ydyn nhw wedi cyrraedd eto.

Ond mae hi'n hawdd crynhoi ei neges - Brexit.

"O gofio bod 48% o'r wlad wedi pleidleisio dros aros ac mai'r Democratiaid Rhyddfrydol ydy'r unig blaid sy'n wirioneddol sefyll dros hynny, dwi'n meddwl bod optimistiaeth go iawn o fewn y blaid y gallwn ni gipio'r bleidlais honno a chael digon o aelodau seneddol i un ai stopio Brexit neu newid y trafferthion y cawn ni a cheisio osgoi Brexit caled iawn", meddai Mr Roberts.

Image caption Ras rhyngddo fo a'r Ceidwadwyr yw'r etholiad yn Ne Clwyd, yn ôl Chris Allen o Blaid Cymru

Mae taflenni etholiad ymgeisydd Plaid Cymru yn Ne Clwyd, Chris Allen, wedi cyrraedd ac maen nhw'n addurno ei battle bus personol - campervan y teulu.

"Dwi'n meddwl mai ras dau geffyl ydy hi [yn Ne Clwyd], ond rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru.

"Mae'r diffyg undod o fewn Llafur wedi rhoi cyfle da i ni", meddai Mr Allen.

Image caption Gobaith Jeanette Bassford-Barton yw y bydd UKIP yn perfformio gystal â'r etholiad diwethaf eleni

Yn etholiad 2015, UKIP oedd yn y trydydd safle gyda 5,480 pleidlais ac mae'r ymgeisydd eleni yn ffyddiog o ddenu'r un lefel o gefnogaeth.

"Dwi'n siŵr y medrwn ni wneud yr un peth eto. Mae gennym ni lawer o gefnogwyr yn Ne Clwyd ac mae ffocws yr etholiad ar hyn o bryd yn gryf iawn ar Brexit.

"UKIP yw plaid y bobl, mae pobl y Deyrnas Unedig yn hollbwysig i ni, a dyna sydd o fudd iddyn nhw ac sydd orau iddyn nhw felly mae angen i'n cangen ni yma fynd allan, cyfarfod pobl a gadael iddyn nhw wybod am beth 'dan ni'n sefyll", meddai Jeanette Bassford-Barton.