Diwrnod olaf i gofrestru i bleidleisio. Rhaid gwneud cyn hanner nos
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Diwrnod olaf i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad

22 Mai 2017 Diweddarwyd 10:34 BST

Dydd Llun, 22 Mai, yw'r diwrnod olaf i gofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol ar 8 Mehefin.

Mae rhai'n amcangyfrif bod hyd at 350,000 o bobl yng Nghymru heb gofrestru hyd yn hyn.

Sioned Wyn o'r Comisiwn Etholiadol sy'n esbonio sut mae mynd ati i wneud hynny.