Plaid Cymru'n galw am gwmni ynni cenedlaethol nid-er-elw

  • 22 Mai 2017
troi ffwrn ymlaen Image copyright Getty Images

Byddai cwmni ynni nid-er-elw i Gymru yn lleihau cost biliau ynni, meddai Plaid Cymru.

Mae'r blaid wedi awgrymu sefydlu corff, tebyg i gwmni nid-er-elw Dŵr Cymru, fyddai'n annog buddsoddiad yn y sector.

Dywedodd llefarydd y blaid ar ynni, Simon Thomas fod angen y cwmni cenedlaethol "er mwyn canolbwyntio ar leihau prisiau ynni i gwsmeriaid drwy ffynonellau adnewyddadwy".

Mae Llafur a'r Ceidwadwyr wedi dweud y byddan nhw'n rhoi cap ar brisiau ynni.

'Biliau uwch'

Dywedodd maniffesto Llafur y DU ar gyfer yr etholiad cyffredinol y byddai'r blaid yn symud tuag at system ynni fyddai wedi'i wladoli, gyda chap prisiau brys er mwyn sicrhau fod biliau cyfartalog i gartrefi ynni deuol yn aros o dan £1,000 y flwyddyn.

Mae'r Ceidwadwyr hefyd wedi addo rhoi cap ar brisiau ynni.

Dywedodd y Prif Weinidog, Theresa May y byddai 17m o gartrefi yn elwa o hyd at £100 o'r cap ar dariffiau amrywiol safonol gyda gwerth gwael.

Image copyright Nwy Prydain
Image caption Mae'r Ceidwadwyr yn dweud fod cwsmeriaid yn talu £1.4bn yn ormod am ynni

Dywedodd Mr Thomas o Blaid Cymru: "Er bod gennym ni 1,000 o filltiroedd o arfordir a phum miliwn acer o dir, rydyn ni'n cynhyrchu llai o ynni adnewyddadwy na rhannau eraill o'r DU.

"Er ein bod ni'n allforio mwy o ynni na 'dyn ni'n ei fewnforio, mae cwsmeriaid yng Nghymru yn wynebu biliau uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU.

"Nid yr ateb yw gosod cap mympwyol ar filiau, ond tynnu cyfranddalwyr sydd yn chwilio am elw allan o'r mater a pherchnogi ein hynni ein hunain."

Dim gwladoli

Dyw Plaid Cymru ddim yn awgrymu gwladoli llawn - byddai'r sefydliad Ynni Cymru arfaethedig yn bodoli o fewn y farchnad ynni bresennol.

Yn hytrach, byddai'r sefydliad yn gyrru buddsoddiad mewn isadeiledd, ynni adnewyddadwy, ac ymchwil a datblygu, er mwyn ceisio lleihau cost ynni a thaclo newid hinsawdd.

Byddai'n gweithio fel cynhyrchydd, yn hytrach na darparu trydan a nwy yn uniongyrchol i dai pobl.

Ond gallai'r corff hefyd gydlynu datblygiad mentrau cydweithredol lleol a darparwyr dan berchnogaeth fwrdeistrefol allai fod yn gwneud hynny.

Image copyright Science Photo Library

Er nad yw'r cynnig yn rhan o addewidion y blaid ar gyfer yr etholiad cyffredinol, y gred yw y byddai'n cael ei weithredu drwy gyrff datganoledig Cymru.

Dywedodd Plaid Cymru mai Llywodraeth Cymru fyddai berchen ar y corff o'r cychwyn cyntaf.

Ond dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar yr amgylchedd, David Melding nad oedden nhw am wladoli'r sector ynni, am fod "pethau'n gweithio'n well i gwsmeriaid a busnesau pan mae'n gweithredu o fewn y farchnad".

"Mae'r prif weinidog eisoes wedi amlinellu ei huchelgais i sicrhau mai biliau ynni Prydain fydd yr isaf yn Ewrop, ac rydyn ni'n gweithio'n galed i gyflawni hynny," meddai.

'Ailgylchu polisi'

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymrwymo i daclo newid hinsawdd, a datgloi potensial ein hamgylchedd wrth yrru twf economaidd a gostwng prisiau ynni i'n cwsmeriaid."

Ychwanegodd llefarydd ar ran UKIP y byddai polisi trethi carbon Plaid Cymru "yn golygu fod pobl Cymru yn wynebu prisiau ynni hynod o uchel".

"Ateb Plaid i sgil effeithiau eu polisi eu hunain yw ailgylchu'r hen beth yma o faniffesto blaenorol," meddai'r llefarydd.