Manceinion: ‘Peidiwch ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol'

  • 26 Mai 2017
pawb a'i farn

Ddylai pleidiau gwleidyddol ddim ceisio defnyddio'r ymosodiad ym Manceinion i geisio sgorio pwyntiau gwleidyddol, yn ôl un o weinidogion Swyddfa Cymru.

Roedd Guto Bebb yn siarad ar raglen Pawb a'i Farn ar S4C nos Iau, wrth i'r panelwyr drafod sut i ymateb i'r bygythiad terfysgol.

Fe wnaeth aelodau o bob plaid dalu teyrnged i'r rheiny gafodd eu lladd a'u hanafu yn y digwyddiad, gan gondemnio'r ymosodiad "erchyll".

Mae'r pleidiau wedi ailddechrau ymgyrchu cenedlaethol ddydd Gwener yn dilyn saib o dridiau, a hynny ar ôl ymgyrchu'n lleol ddydd Iau.

Image caption Mynnodd Guto Bebb nad oedd hi'n afresymol cael swyddogion arfog ar y strydoedd "yn y sefyllfa sydd ohoni"

Yn ystod y drafodaeth o flaen cynulleidfa ym Maesteg, dywedodd Mr Bebb ei bod hi'n "anodd iawn gwybod beth i wneud pan 'dach chi'n ymdrin â therfysgwyr sy'n fodlon lladd eu hunain".

Ond mynnodd yr ymgeisydd Ceidwadol fod y prif weinidog Theresa May wedi ceisio cyflwyno rheolau llymach pan oedd hi'n ysgrifennydd cartref.

Dywedodd Nia Griffiths o'r blaid Lafur fod y gwasanaethau diogelwch yn gweithio'n galed i gadw'r wlad yn saff, a'i bod yn hyderus yng ngallu arweinydd Llafur y DU i ymdopi â'r her.

"Mae Jeremy Corbyn yn cefnogi'r heddlu, ond mae'n rhaid i ni hefyd edrych ar bethau fel y rhaglenni Prevent er enghraifft, i sicrhau bod ni'n gwella nhw a bod nhw'n fwy effeithiol," meddai.

Image caption Mae angen gwella cynlluniau i ddod o hyd i bobl â safbwyntiau eithafol, meddai Nia Griffith

Nod y terfysgwyr yw "creu rhwygiadau a chreu casineb", yn ôl Branwen Cennard o Blaid Cymru, gan ychwanegu na ddylai "pleidiau gwleidyddol fod yn gwrthdaro gyda'i gilydd" arni.

"Mae'n rhaid i ni adeiladu pontydd, mae'n rhaid i grefyddau gydweithio gyda'i gilydd, ac mae'n rhaid i ni ryw ffordd ffeindio ffordd ymlaen," meddai.

Cyfaddefodd Cadan ap Tomos o'r Democratiaid Rhyddfrydol ei fod "ychydig yn ansicr" ynglŷn â phresenoldeb y fyddin a heddlu arfog ar y strydoedd, a bod angen "cydbwysedd rhwng yr angen i ni gadw pawb yn ddiogel, a'r angen i ni warchod hawliau dynol pobl a'r unigolyn".

Dywedodd Ken Rees o UKIP fod cwestiynau i'w hateb am sut y cafodd yr ymosodwr ym Manceinion, Salmen Abdi, ei adael yn ôl i mewn i'r DU ar ôl teithio i Libya.

"Os yw'r dyn hwn wedi bod nôl a 'mlaen, pam? Bydd rhywun yn ateb am hyn, bydd archwiliad mewn i hwn a bydd y gwir yn dod mas," meddai.

Image caption Nid "bod yn grac" yw'r ateb wrth herio terfysgaeth, yn ôl Branwen Cennard

Cafodd y panelwyr hefyd eu holi am bynciau'r etholiad gan gynnwys Brexit, iechyd ac addysg.

Dywedodd Ms Griffith fod Llafur yn "derbyn penderfyniad democrataidd pobl Cymru", gan ddweud y byddai ei phlaid hi yn brwydro dros "bawb, nid yn unig yr ychydig breintiedig".

Mynnodd Mr Bebb fod gweithredu Brexit yn y ffordd iawn yn fater "allweddol bwysig", a bod "Brexit yn clymu mewn i bob un pwnc yn yr etholiad yma".

Dywedodd Ms Cennard fod Plaid Cymru yn "derbyn" canlyniad y refferendwm, ond hefyd bod "pethau fel addysg ac iechyd sy'n cael eu hanwybyddu'n llwyr" yn yr ymgyrch etholiadol hyd yn hyn.

Image caption Dywedodd Cadan ap Tomos fod angen cydbwysedd rhwng cadw pobl yn ddiogel, a'r angen i warchod hawliau dynol

Yn ôl Mr ap Tomos mae angen cynnal refferendwm arall ar ddiwedd y trafodaethau Brexit, gan nad oedd "yn ymddiried yn Theresa May i gael y ddêl iawn i ni".

Mynnodd Mr Rees fod UKIP yn parhau yn berthnasol hyd yn oed ar ôl canlyniad y refferendwm, a bod gan y blaid "ddigon o bolisïau".

Mewn ymateb i gwestiwn ar fygythiad posib i ddatganoli yng Nghymru petai Theresa May yn ennill mwyafrif mawr, dywedodd Ms Cennard fod sawl rhan o faniffesto'r Ceidwadwyr "yn codi gwallt eich pen chi".

Dywedodd Ms Griffith fod angen sicrhau bod "rhaid i ni gael yr un pwerau" yng Nghymru ar ôl Brexit ac sydd gan y wlad ar hyn o bryd.

Image caption Dywedodd Ken Rees fod pob clod i bobl Manceinion am "ddod at ei gilydd a dangos undod" wedi'r ymosodiad

Rhybuddiodd Mr ap Tomos y gallai meinciau cefn y Ceidwadwyr geisio "tynnu nôl ar ddatganoli" wrth i bwerau ddychwelyd i San Steffan o Frwsel.

Dywedodd Mr Rees y byddai gwahanol rannau o Brydain yn cael pwerau dros faterion gwahanol, ond y byddai angen "un modd canolog o drethu".

Ond mynnodd Mr Bebb mai prif weinidog Cymru, Carwyn Jones oedd yr un a ddywedodd fod "rhaid cael fframweithiau Prydeinig gyntaf cyn bod y pwerau'n dod yn eu blaen i Gymru ac i'r Alban".