'Llai o sôn am arweinyddiaeth Corbyn ar y stepen ddrws'

Christina Rees

Mae llai o bobl yn crybwyll arweinyddiaeth Jeremy Corbyn ar y stepen ddrws bellach, yn ôl ysgrifennydd cysgodol Cymru.

Dywedodd Christina Rees fod perfformiadau arweinydd Llafur y DU, gan gynnwys yn y sesiwn holi ac ateb byw ar Sky/Channel 4 nos Lun, wedi newid meddyliau pobl.

"Dyw arweinyddiaeth ddim yn rhywbeth sy'n codi," meddai wrth BBC Cymru.

"Oes, mae gennym ni fynydd i'w ddringo, ond rydyn ni'n brwydro nôl ac yn ymladd dros bob pleidlais.

"Mae'n sicr wedi lleihau [y bwlch], ac roedd perfformiad Jeremy neithiwr yn wych."

'Hwb i bobl'

Ychwanegodd: "Roedd Jeremy yn cael ei grybwyll lot ar y stepen ddrws ar ddechrau'r ymgyrch.

"Ond er hynny mae ei berfformiad - mae e wedi bod o gwmpas y wlad, yn galw pobl i'r achos, rhoi hwb i bobl, a nawr ar y stepen ddrws mae pobl wir yn ymateb i beth all Llafur ei gyflawni a'r gwerthoedd sosialaidd go iawn sydd gennym ni."

Mynnodd Ms Rees nad oedd pryderon dros gysylltiadau Mr Corbyn yn y gorffennol â'r mudiad gweriniaethol yn Iwerddon.

"Mae e wedi ateb y cwestiynau yna. Roedd hynny flynyddoedd yn ôl ac mae wedi esbonio hynny," meddai.