Etholiad: Gwleidyddion a'r wasg yn creu darlun aneglur?

  • 31 Mai 2017
Ballot box

Ers y cyhoeddiad bod etholiad ar y gweill, mae rhai yn dadlau bod Cymru ar ei cholled, gyda'r wasg Brydeinig weithiau'n anghofio cyfeirio at y ffaith nad yw pob polisi neu addewid yn berthnasol yr ochr yma i Glawdd Offa.

Mae eraill wedi awgrymu bod y gwleidyddion yn cyfrannu at ddryswch am ddatganoli, drwy wneud cyhoeddiadau yng Nghymru sydd ddim yn berthnasol yma, a gwneud addewidion ar ddeunydd ymgyrchu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i'r Cynulliad yn barod.

Roedd Sali Collins yn un o reolwyr gorsafoedd radio Five Live a Radio Wales, ac mae hi erbyn hyn yn darlithio mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Er bod datganoli wedi bod gyda ni am amser hir erbyn hyn, mae'n amser anodd iawn i'r gynulleidfa wrth iddyn nhw drio deall bod rhai pethau ddim yn berthnasol i ni yma yng Nghymru," meddai.

Dwy blaid yn rhannu'r sylw

Mae gan y gynulleidfa ddewis eang o sianeli newyddion, ond nifer fechan o ffynonellau sy'n denu'r mwyafrif o wylwyr a gwrandawyr.

Mae tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn craffu ar gynnwys y rhaglenni newyddion teledu mwyaf poblogaidd, er mwyn bwrw golwg ar sut maen nhw'n sôn am yr etholiad.

Yn ôl y gwaith ymchwil, mae'r rhaglenni wedi canolbwyntio ar dri prif faes yn y pythefnos ar ôl y cyhoeddiad bod etholiad ar y gweill.

Y cyntaf oedd yr ymgyrch ei hun, yr ail oedd Brexit, a'r trydydd oedd y Gwasanaeth Iechyd.

Mae dwy blaid wedi rhannu'r rhan fwyaf o sylw'r darlledwyr - y Ceidwadwyr a Llafur - yn ôl ymchwilwyr a oedd yn astudio prif raglenni newyddion rhwydwaith y BBC, ITV, Channel 4 a Five.

Image caption Mae tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn bwrw golwg ar sut mae rhaglenni newyddion yn rhoi sylw i'r etholiad

Roedd yr astudiaeth wedi darganfod bod diffyg manylder wrth drafod polisïau, gyda rhai darlledwyr yn well nag eraill.

Gallai'r sefyllfa fod yn gliriach, yn ôl Ms Collins, pe bai darlledwyr yn fwy cyson wrth gyfeirio at y ffaith bod rhai polisïau wedi eu datganoli.

"Er bod y cyfryngau Prydeinig yn meddwl eu bod yn gwneud hwn yn barod, drwy ddweud 'yn Lloegr' yn eu straeon, dydw i ddim yn siŵr faint o'r gynulleidfa Gymreig sydd wirioneddol yn sylweddoli bod rhai meysydd, fel addysg, wedi'u datganoli."

Image caption Mae angen i wleidyddion hefyd gymryd cyfrifoldeb am ddealltwriaeth yr etholwyr o ddatganoli, yn ôl Sali Collins

Dywedodd y dylai gwleidyddion hefyd fod yn gliriach wrth gyhoeddi polisïau sydd ddim yn berthnasol ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig.

"Nid cyfrifoldeb y cyfryngau yn unig ydy hyn, ond dylai gwleidyddion hefyd ysgwyddo rhywfaint o'r cyfrifoldeb.

"Weithiau, efallai dyw e ddim er lles y gwleidyddion i wneud hynny. Os oes gennych chi neges ynglŷn â rhoi rhagor o arian i'r gwasanaeth iechyd, efallai eich bod chi ddim yn becso os nad yw hwn yn rhywbeth fydd yn effeithio arnoch chi yn y wlad yma."

Mae'r sylwebydd gwleidyddol Daran Hill yn cytuno bod gwleidyddion yn rhannol ar fai, ac yn dadlau bod rhai yn creu dryswch dros ddatganoli yn fwriadol.

Wrth ysgrifennu ar gyfer blog y Sefydliad Materion Cymreig, dywedodd: "Maent yn bwydo'r dryswch drwy beidio â defnyddio ymadrodd syml yn briodol ac yn gyson: 'Yn Lloegr'."

Cyfryngau cymdeithasol

Tra bod rhaglenni radio a theledu yn canolbwyntio ar ddadansoddi ac adrodd yr ymgyrch traddodiadol, mae'r cyfryngau cymdeithasol yn ffynhonnell anhrefnus ar gyfer newyddion, dychan a hysbysebion gwleidyddol.

Gall y cyfrwng hefyd ganiatáu trafodaeth sy'n canolbwyntio ar bolisïau penodol, ac yn gyfle i dynnu sylw at yr achlysuron pan mae datganoli yn tanlinellu amherthnasedd rhai elfennau o'r ymgyrchu.

Blurrt, cwmni o Gaerdydd sy'n monitro ymateb defnyddwyr Twitter, sydd wedi dadansoddi poblogrwydd y pleidiau a'u polisïau yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

Dywedodd y dadansoddwr Owain Lewis bod Twitter yn llwyfan afreolus, gyda defnyddwyr yn aml yn dilyn cyfrifon eraill sy'n adlewyrchu eu safbwyntiau gwleidyddol presennol.

Image caption Dywedodd y dadansoddwr cyfryngau cymdeithasol, Owain Lewis, bod pleidiau llai yn gallu elwa o Twitter

"Mae'n bendant yn fanteisiol i'r pleidiau llai i gael eu negeseuon allan. Amser a ddengys os maen nhw'n llwyddo cyrraedd cynulleidfa ehangach," meddai.

"Ac mae'n anodd wir dirnad arwyddocâd gwleidyddol ehangach y peth.

"Ond pryd mae gennych chi gyfrwng lle mae Arlywydd America yn gwneud datganiadau polisi, neu yn ymosod ar ei elynion gwleidyddol - hynna cyn mynd at y wasg - mae'n amhosib gwadu bod 'na arwyddocâd o ran newyddion, a chreu newyddion yn benodol."

Mae'r beirniaid yn gobeithio y bydd fwy o fanylion am ddatganoli yn ystod y cyhoeddiadau sydd i ddod yn ystod diwrnodau olaf yr ymgyrch. Ond fe all hyn ddibynnu ar y gwleidyddion, yn ogystal â'r newyddiadurwyr.

Mwy am hyn ar O'r Senedd.

Straeon perthnasol