Etholiad: Arweinwyr Cymru yn dadlau dros Brexit

dadl arweinwyr

Mae gwleidyddion o'r pum prif blaid wedi bod yn dadlau dros Brexit yn nadl deledu'r arweinwyr BBC Cymru.

Dywedodd y prif weinidog Llafur, Carwyn Jones nad oedd gan Theresa May gynllun ar gyfer Brexit.

Mynnodd y Ceidwadwr Darren Millar y byddai Cymru "wrth galon" y trafodaethau, ond dywedodd Mark Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol nad oedd modd "ymddiried" yn y Torïaid.

Dywedodd Neil Hamilton o UKIP y byddai "digon o arian yn y coffrau" yn dilyn Brexit, ond yn ôl Leanne Wood o Blaid Cymru, byddai Cymru ar ei cholled.

'Barod am y swydd'

Daeth y ddadl ar BBC One Wales yn dilyn ffrae rhwng gwleidyddion amlwg y Ceidwadwyr Cymreig dros bwy fyddai'n cynrychioli'r blaid yn y digwyddiad.

Dywedodd Mr Millar, AC a llefarydd y blaid ar addysg, fod y bleidlais ar 8 Mehefin yn ddewis clir rhwng y prif weinidog Theresa May a'r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn.

Wrth feirniadu arweinwyr y pleidiau eraill, dywedodd: "Allwn ni ddim fforddio eu cael nhw i gymryd ein sedd wrth y bwrdd trafod.

"Mae angen prif weinidog sydd yn barod ar gyfer y swydd, ac yn barod i weithredu ar gyfer pobl Cymru."

Image caption Dywedodd Darren Millar nad oedd y wlad yn gallu fforddio cael unrhyw un ond Theresa May yn y trafodaethau Brexit

Wrth ymateb i'r Ceidwadwr, dywedodd Ms Wood: "Mae pobl yn chwilio am arweinyddiaeth.

"Maen nhw eisiau deall cynlluniau pob un o'n pleidiau, ond eto dyw'r Ceidwadwyr methu anfon eu harweinyddion i'r ddadl er mwyn cael eu craffu.

"Pam? Achos dyw hi ddim yn hawdd iddyn nhw amddiffyn eu polisïau gwenwynig."

'Dim cynllun'

Dywedodd Mr Jones fod Llafur yn derbyn canlyniad y refferendwm, a'u bod wedi cyflwyno cynllun i amddiffyn mynediad busnesau Cymru i farchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd angen cynllun go iawn gan y Ceidwadwyr, meddai - fel arall, byddai gystal anfon "parot" yn lle'r prif weinidog i drafod Brexit.

"Does dim cynllun gan y Torïaid. Yr unig beth 'dyn ni'n clywed gan Theresa May yw sloganau," meddai Mr Jones.

Mynnodd yr arweinydd Llafur fod y Ceidwadwyr hefyd wedi cael gwared o addewid i gadw cyllid Cymru fel ag yr oedd ar ôl 2020.

Image caption Yn unig beth rydyn ni'n ei glywed gan Theresa May yw "sloganau", meddai Carwyn Jones

"Gyda ffermio, rydyn ni'n clywed gan weinidogion sifil yn Whitehall - maen nhw'n disgwyl i Awstralia a Seland Newydd gynhyrchu ein cig oen yn y dyfodol, nid ffermwyr Cymru," ychwanegodd.

"Wna' i ddim bradychu ffermwyr Cymru."

Dywedodd Mr Hamilton, arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, y byddai arian yr UE yn dod yn arian i drethdalwyr y DU ar ôl Brexit, a byddai Prydain wedyn yn gallu penderfynu i ble fyddai'r arian yn mynd.

"Mae rhandal Brexit anferth yn dod i'n cyfeiriad ni y foment rydyn ni'n gadael," meddai.

"Bydd digon o arian gan goffrau Whitehall."

Image caption Mae modd taclo eithafiaeth os yw cymunedau yn gweithio gyda'i gilydd, meddai Leanne Wood

Mynnodd Mr Hamilton nad oedd Prydain ar fin cefnu ar Ewrop, gan ychwanegu na fyddai "wal yn cael ei hadeiladu lawr y Sianel".

Mae "pob rheswm" i feddwl y byddai'r UE am barhau i fasnachu'n rhydd gyda Phrydain, meddai.

Rhybuddiodd Mr Williams, arweinydd y Democrat Rhyddfrydol yng Nghymru, bod perygl y gallai'r economi "ddisgyn oddi ar ddibyn" heb gytundeb â'r UE.

Dywedodd wrth y gynulleidfa "nad oes modd ymddiried yn y Torïaid" i roi llais a chefnogaeth i Gymru yn y trafodaethau.

Fe wnaeth Mr Williams hefyd ailadrodd polisi ei blaid ar gynnal ail refferendwm i holi barn etholwyr ar amodau Brexit.

Image caption Bydd "digon o arian yn y coffrau" ar ôl Brexit, yn ôl Neil Hamilton

Yn gynharach yn y ddadl, fe wnaeth y gwleidyddion wynebu cwestiynau am derfysgaeth yn dilyn yr ymosodiad ym Manceinion.

Dywedodd Ms Wood fod modd trechu eithafiaeth os yw cymunedau yn gweithio gyda'i gilydd.

Mynnodd Mr Millar, gafodd ei fagu ym Manceinion, fod llywodraeth Geidwadol y DU wedi buddsoddi mwy nag erioed yn MI5 a gwasanaethau gwrth-derfysgaeth.

Image caption Dywedodd Mark Williams fod angen buddsoddi mwy yn yr heddlu a gwasanaethau cudd

Yn ôl Mr Williams, roedd angen mwy o fuddsoddi yn yr heddlu a gwasanaethau cudd, gan rybuddio fod angen i strategaethau gael eu cyflwyno ar y cyd â chymunedau.

Dywedodd Mr Hamilton nad oedd modd cadw llygad agos ar 3,500 o bobl oedd yn cael eu hamau, gan alw am bolisi llymach ar fewnfudo fyddai'n haws ei weithredu ar ôl Brexit.

Fe wnaeth Mr Jones gydymdeimlo â phawb gafodd eu heffeithio gan ymosodiad Manceinion, gan ddweud na fyddai modd "cyfaddawdu o gwbl" gyda'r rheiny oedd yn gyfrifol.