Etholiad 2017: Gwleidyddiaeth Gŵyr

  • 1 Mehefin 2017
Byron Davies
Image caption "Gobeithiol" o ddal y sedd yn hytrach na'n "hyderus" yw Byron Davies

Doedd Byron Davies ddim yn disgwyl y byddai'n defnyddio ei dacsi etholiadol mor fuan ar ôl yr etholiad diwetha'.

Prynodd e'r hen gab Llundain du flynyddoedd yn ôl, ac mae wedi dod yn olygfa gyfarwydd ar strydoedd etholaeth Gŵyr.

Mae'r Ceidwadwr yn amddiffyn mwyafrif o ddim ond 27 pleidlais yn yr etholiad yma - y lleiaf ym Mhrydain.

Ac mae Llafur yn awchu i gipio'r sedd yn ôl, ar ôl ei cholli hi yn 2015 wedi cyfnod o dros ganrif yn cynrychioli'r ardal.

Mae'r enw Gŵyr yn ysgogi delweddau o draethau a golygfeydd ysblennydd - ond mae mwyafrif helaeth poblogaeth yr etholaeth amrywiol yma'n byw i'r gogledd o'r penrhyn.

Image caption Dyw Gŵyr yn "saff i neb dim rhagor" meddai Wyn Thomas

Mae Wyn Thomas yn gyn-newyddiadurwr symudodd i'r ardal ym 1974 ac sy'n cofio cynhyrchu rhaglen i HTV am is-etholiad Gŵyr yn 1982, wedi marwolaeth yr Aelod Seneddol Llafur, Ifor Davies.

"Etholwyd Llafur eto gyda Gareth Wardell", meddai "ond roeddech chi'n gweld yr ardal yn newid erbyn hynny."

Mae'n disgrifio'r gwahanol ardaloedd - o bentrefi gwledig y penrhyn lan at Dregŵyr.

"Y jôc yn fanno wrth gwrs ydy bod nhw'n galw Tregŵyr yn 'Startsh' oherwydd roedd 'na weithiau dur mawr... ac roedd y managers yn byw yn Nhregŵyr.

"A hyd yn oed heddiw ar grysau y tîm rygbi yno, maen nhw'n galw nhw'n Startsh oherwydd mai y coleri gwynion startsh oedd Tregŵyr - ac roedd 'na duedd Dorïaidd yno."

'Saff i neb'

Roedd Llafur yn gryf yn yr ardaloedd diwydiannol wrth fynd ymhellach i'r gogledd - yng Ngorseinon, Penllergaer, Pontarddulais a Chlydach yng Nghwm Tawe.

Ond wrth i'r diwydiant ddiflannu, mae'r ardaloedd yno wedi newid: "Maen nhw wedi dod yn rhyw fath o faestrefi i Abertawe.

"Mae'r swyddi wedi newid, mae gafael yr undebaeth wedi newid, mae'r gymuned ei hun wedi newid."

Ac yn wleidyddol? "'Di'n saff i neb dim rhagor."

Image caption Roedd Tonia Antoniazzi yn arfer chwarae rygbi dros Gymru

Ond roedd colli yr etholaeth hon yn yr etholiad cyffredinol ddwy flynedd yn ôl yn sioc i Lafur a'r byd gwleidyddol.

Yr ymgeisydd y tro 'ma yw Tonia Antoniazzi - athrawes o Lanelli oedd yn arfer chwarae rygbi i Gymru.

Dywedodd: "Saith mlynedd yn ôl pan gawson ni'r llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, newidiodd fy mywyd yn anferthol. Rwy'n athrawes, roeddwn i ar ben fy hun ac yn ariannol - mae gen i gyflog da - ond roedd yr esgid yn gwasgu."

Ac mae'n gweld enghreifftiau o dlodi go iawn wrth ymgyrchu.

"Bum mlynedd yn ôl...fydden i byth wedi dychmygu y bydden i'n rhoi fy hun ymlaen i fod yn Aelod Seneddol, ond dyna pa mor grac yr oeddwn i."

Cwis etholaethau Cymru Fyw

Faint ydych chi'n ei wybod am eich ardal?

Defnyddiwch y blwch isod i ddarganfod eich etholaeth a gwneud y cwis.

Yn anffodus nid yw eich porwr yn gallu arddangos y cynnwys hwn

Roedd Byron Davies wedi bod yn Aelod Cynulliad dros y rhanbarth cyn ymuno â Thŷ'r Cyffredin, ac mae'n teimlo bod ei waith yn yr ardal dros y blynyddoedd wedi talu ar ei ganfed ddwy flynedd yn ôl.

Mae'n "obeithiol" o ddal y sedd yn hytrach na'n "hyderus" meddai, a hynny yn anochel gyda mantais mor fach tro diwetha'.

Wrth ymgyrchu mae'n cyfaddef bod rhai wedi dangos pryder am bolisïau Theresa May ar gyfer pensiynwyr, ond mae'n dweud eu bod yn deall bod angen mynd i'r afael â her talu am ofal cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr.

Fel ymgyrch ehangach y Ceidwadwyr, Brexit sy'n ganolog i'w neges yn nyddiau ola'r ymgyrchu.

"Mae angen pobl fel fi 'nôl yn y Senedd i gefnogi Theresa May, i roi'r mwyafrif mae hi ei angen i fynd i drafod gyda'r 27 gwlad sy'n mynd i wneud bywyd yn eithaf anodd i ni", meddai.

Ei obaith yw denu nifer o'r bron i 5,000 o bobl bleidleisiodd dros UKIP tro diwetha'.

Image caption Ross Ford yw ymgeisydd UKIP yn yr etholaeth eleni

Eu hymgeisydd nhw y tro yma yw Ross Ford, sy'n gweithio fel ymchwilydd i'r blaid ym Mae Caerdydd.

Dywedodd: "Mae'n bwysig yng Ngŵyr i gael pleidlais gryf iawn iawn i UKIP. Rwy'n credu bod UKIP wedi gwneud yn dda iawn i ennill refferendwm ond dim ond refferendwm ymgynghorol oedd e.

"Yr unig beth ry'n ni wedi cael ers hynny yw tanio Erthygl 50.

"Mae hynny ar ben ei hun yn ddarn o bapur di-werth os nad oes yna weithredu, ac rwy'n credu mai dim ond pleidlais gryf i UKIP fydd yn sicrhau hynny."

'Ras dau geffyl'

Daeth UKIP yn drydydd y tro diwetha', ond yn ôl y Parchedig Ddoctor Adrian Morgan, Curad Eglwys Santes Catrin yng Ngorseinon, mae'r frwydr yn glir.

"Mae'n sicr yn ras dau geffyl fan hyn rhwng y Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol", meddai.

"Yn y blynyddoedd a fu roedd pobl yn arfer dweud gallech chi fod wedi dodi asyn mewn dros y Blaid Lafur a bydden nhw wedi cael eu hethol yn yr etholaeth hon gan fod hi'n sedd mor gryf.

"Erbyn hyn rwy'n synhwyro o drafod gyda phobl ar lawr gwlad bod 'na lawer mwy o ansicrwydd, a bod pobl yn simsanu rhwng y blaid Lafur a'r blaid Geidwadol."

Image caption Iechyd, addysg a materion lleol sy'n bwysig, meddai Howard Evans

Ond yn ôl y Democrat Rhyddfrydol Howard Evans mae 'na ddewis ehangach i bobl yng Ngŵyr.

Fe wnaeth e sefyll ddiwetha' yn etholiad y Cynulliad ym 1999, ac fe gafodd ei ysgogi i sefyll eto tro 'ma oherwydd pryder am Brexit.

Iechyd, addysg a materion lleol fel sbwriel sy'n bwysig i bobl meddai, ac er bod y cyngor a'r Cynulliad yn rheoli'r rheiny, "mae'r arian yn dod gan Lywodraeth Prydain".

"Fel Democratiaid Rhyddfrydol, er enghraifft, ry'n ni'n addo rhoi ceiniog ar dreth incwm i ganiatáu i fwy o arian fynd i'r Gwasanaeth Iechyd, i'w rhoi i Lywodraeth Cymru i'w ddarparu."

Image caption Mae Harri Roberts yn dweud nad yw Brexit caled "yn siwtio'r etholaeth yma o gwbl"

Mae Harri Roberts, ymgeisydd Plaid Cymru, yn mynnu bod yna werth pleidleisio i blaid heblaw am Lafur a'r Ceidwadwyr yn y sedd hon.

Dywedodd mai "pleidlais gref i Blaid Cymru yw'r unig ffordd i sicrhau fod pleidiau Llundain yn sylweddoli bod pobl Cymru'n anhapus gyda'r hyn sy'n digwydd".

Mae Llafur yn "wan" a "rhanedig" meddai, a "dydy syniadau Theresa May am Brexit caled ddim yn siwtio'r etholaeth yma o gwbl".

"Mi rydyn ni angen y farchnad sengl, rydyn ni angen cael y masnach a'r twristiaeth a'r pethau fel 'na i gario 'mlaen er mwyn ein swyddi ac er mwyn ein safon bywyd."

Ond dydy hi ddim yn syndod mai posteri Llafur a'r Ceidwadwyr sydd amlycaf yn yr ardal yma, sy'n dangos yn fwy nag unrhyw un arall, y gall pob un bleidlais gyfri'.

Yr ymgeisydd arall yw Jason Winstanley dros y Pirate Party UK, sy'n ymgyrchu dros ryddid ar y we.

Am restr llawn o'r ymgeiswyr, cliciwch yma.

Straeon perthnasol