Angen 'dileu toriadau heddlu' i daclo terfysgaeth

  • 5 Mehefin 2017
heddlu arfog Image copyright Reuters

Mae'r gwrthbleidiau yng Nghymru wedi dweud fod angen dileu toriadau i gyllideb yr heddlu er mwyn hybu'r frwydr yn erbyn terfysgaeth.

Mae'r grŵp sy'n galw'u hunain yn Wladwriaeth Islamaidd wedi honni cyfrifoldeb dros yr ymosodiad yn Llundain lle cafodd saith o bobl eu lladd.

Dywedodd Stephen Doughty o'r blaid Lafur y byddai ei blaid yn cyflogi 20,000 o swyddogion heddlu ychwanegol, ond mynnodd David Davies fod y Ceidwadwyr wedi gwarchod cyllid ar gyfer cudd-wybodaeth.

Rhybuddiodd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol na ddylai Brexit beryglu'r gallu i gydweithio'n rhyngwladol.

'Sgyrsiau anodd'

Yn ystod dadl pum plaid ar BBC Radio Wales, dywedodd Mr Davies fod y Ceidwadwyr wedi etifeddu diffyg anferth yn y gyllideb oddi wrth Lafur yn 2010, a bod angen taclo hynny, ond fod y gyllideb ar gyfer gwrthderfysgaeth a chudd-wybodaeth wedi ei warchod.

Galwodd am gyfres o fesurau i daclo eithafiaeth gan gynnwys mwy o heddlu arfog, ailgyflwyno rhai pwerau i atal a chwilio pobl oedd yn cael eu hamau, a chael cwmnïau'r rhyngrwyd i wneud mwy i daclo propaganda terfysgol.

Dywedodd Mr Davies fod hefyd angen cael "sgyrsiau chwithig ac anodd" gyda chymunedau Mwslimaidd.

"Mae canran sylweddol o bobl sydd, i fod yn onest, efo agweddau sydd ddim yn dderbyniol ar bethau fel hawliau hoyw a hawliau menywod," meddai.

"Dyw'r bobl hynny ddim yn cefnogi terfysgaeth mewn unrhyw ffordd, ond nes bod modd i ni herio hynny a gofyn i bobl newid eu hagweddau er mwyn adlewyrchu'n well sut beth yw bywyd mewn democratiaeth ryddfrydol, mae'n mynd i fod yn anoddach cyrraedd y bobl ifanc hynny allai gael eu radicaleiddio."

Image copyright Getty Images
Image caption Blodau wedi eu gadael ger lleoliad yr ymosodiad diweddaraf yn Llundain dros y penwythnos

Dywedodd Mr Doughty y byddai cynlluniau Llafur i wyrdroi toriadau'r Ceidwadwyr i'r heddlu yn golygu 853 o swyddogion ychwanegol yng Nghymru, yn ogystal â'r swyddogion cefnogi cymunedau sydd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ychwanegodd mai "nhw yn aml yw'r cyswllt cyntaf o ran gwybodaeth gan y gymuned sydd mor hanfodol i waith y gwasanaethau diogelwch" allai o bosib atal ymosodiadau terfysgol.

Dywedodd arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton, y byddai ei blaid yn gwyrdroi toriadau i'r heddlu, a rhoi mwy o bwerau i stopio a chwilio pobl dan amheuaeth.

"Allwn ni ddim bod yno o hyd i fonitro 25,000 o eithafwyr neu bobl sy'n cael eu hamau," meddai.

"Mae'n rhaid i ni gael mwy o bwerau allai gael eu defnyddio ar hap i ddelio gyda'r broblem."

'Cydweithio rhyngwladol'

Dywedodd AC Plaid Cymru, Steffan Lewis y byddai ei blaid yntau hefyd yn gwyrdroi toriadau i'r heddlu, gan alw am swyddogion ward ym mhob cymuned oedd wedi "adeiladu lefel o ymddiriedaeth", allai adnabod pobl "allai fod mewn peryg o gael eu radicaleiddio".

Ychwanegodd y gallai colli cysylltiad â gwledydd eraill pan oedd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd hefyd greu problemau.

"Mae'n rhaid i ni wneud mwy o ran cydweithio rhyngwladol pan mae'n dod at gamau gwrthderfysgol yn enwedig - allwn ni ddim peryglu'r cysylltiadau sydd gennym ni ar hyn o bryd," meddai.

Cafodd hynny ei ategu gan y Farwnes Randerson o'r Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae'n hanfodol ein bod ni'n cynnal trafodaethau i aros yn rhan o'r system warant arestio Ewropeaidd, a'n bod ni'n parhau yn aelodau o Europol."

Dywedodd y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn gwyrdroi toriadau i'r heddlu, gan alw am ffordd newydd o daclo radicaliaeth ymysg Mwslemiaid Prydeinig.

"Mae'n amlwg, gyda thri ymosodiad mewn tri mis, nad yw strategaeth Prevent yn gweithio," meddai.