Carwyn Jones: 'Llafur i ddisodli fformiwla Barnett'

  • 6 Mehefin 2017
carwyn

Mae'r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn yn wynebu galwadau i esbonio safbwynt ei blaid ar sut mae Cymru a'r gwledydd datganoledig yn cael eu hariannu.

Daw hynny wedi i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ddweud y byddai Llafur yn cael gwared â fformiwla Barnett, sy'n rheoli faint mae'r Cynulliad yn ei dderbyn gan Lywodraeth y DU.

Mae'r blaid Lafur yn yr Alban, ar y llaw arall, wedi dweud na fydd hi'n cael ei disodli.

Dywedodd yr SNP fod angen i Mr Corbyn "ei gwneud hi'n glir faint o gyllideb yr Alban fyddai'n cael ei thorri dan lywodraeth Lafur".

'Angen fformiwla teg'

Mae fformiwla Barnett yn penderfynu lefel gwariant cyhoeddus yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a'r Alban, gan ddyrannu cyllid yn seiliedig ar faint y boblogaeth a'r pwerau a ddatganolwyd iddynt.

Cafodd ei henwi ar ôl ei dyfeisiwr, cyn brif ysgrifennydd trysorlys y blaid Lafur, Joel Barnett, ond mae wedi bod yn ddadleuol ac wedi cael ei ystyried i fod yn tanariannu Cymru dros y blynyddoedd.

Ond mynnodd Mr Jones nad oedd modd amddiffyn y fformiwla.

Image caption Dywedodd llefarydd ar ran prif weinidog Cymru fod Mr Jones a Mr Corbyn wedi cytuno ar y polisi gafodd ei gynnwys yn y maniffesto

Pan ofynnwyd i Mr Jones a fyddai Llafur yn cael gwared ar fformiwla Barnett petaen nhw mewn grym yn San Steffan, dywedodd wrth BBC Cymru: "Dyna beth mae'r maniffesto yn ei ddweud."

"Mae'n dweud yn y maniffesto y bydd yna fformiwla ariannu newydd yn seiliedig ar angen, ac mae hynny'n golygu cael fformiwla newydd i ddisodli Barnett.

"Ni all neb amddiffyn sefyllfa lle mae gennym fformiwla ariannu sydd dros 38 mlwydd oed erbyn hyn, a oedd yn seiliedig ar y ffordd oedd pethau yn y 70au.

"Mae angen i ni gael fformiwla ariannu sy'n deg i'r holl wledydd a rhanbarthau'r DU."

'Rhwygo cytundeb'

Ychwanegodd llefarydd ar ran Mr Jones fod safbwynt Llafur Cymru wedi cael ei gynnwys ym maniffesto Prydeinig y blaid yn dilyn trafodaethau rhwng Mr Jones a Mr Corbyn.

Ychwanegodd y byddai'r fformiwla yn parhau yn y tymor byr, wrth i fodel newydd gael ei ddatblygu.

Ond mynnodd llefarydd ar ran Llafur yr Alban fod costau'r maniffesto presennol yn seiliedig ar gadw fformiwla Barnett, ac y byddai "ymgynghoriad ar ddiwygiadau tymor hir" yn cael ei gynnal yn y senedd nesaf.

Yn ddiweddar cafodd fframwaith ariannu newydd rhwng llywodraethau Cymru a'r DU - sydd ddim yn disodli Barnett - ei ychwanegu er mwyn diogelu prosesau ariannu newydd i Gymru.

Image caption Dywedodd Alun Cairns o'r Ceidwadwyr fod Llywodraeth Lafur Cymru eisoes wedi ymrwymo i fframwaith ariannu newydd

Wrth ymateb i sylwadau Mr Jones, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns fod Llafur eisiau "rhwygo" cytundeb ariannu teg sydd eisoes yn bodoli.

"Dim ond chwe mis yn ôl, arwyddodd Llywodraeth Cymru gytundeb fframwaith gyllidol i ddarparu cyllid teg ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer y tymor hir," meddai Mr Cairns.

"Ond erbyn hyn mae Corbyn eisiau ei rwygo i fyny fel rhan o'i addewidion gwag."

'Myth'

Dywedodd llefarydd ar ran UKIP: "Byddai UKIP yn disodli fformiwla Barnett hen ffasiwn gyda fformiwla ariannu deg yn seiliedig ar angen."

Dywedodd Jonathan Edwards o Blaid Cymru: "Dyma enghraifft arall o'r myth 'Llafur Cymru' eto.

"Nid yw'r Blaid Lafur, dan arweiniad Jeremy Corbyn, gyda maniffesto a gynhyrchwyd yn Llundain, ar gyfer Llundain, yn gwneud unrhyw ymrwymiad i roi fformiwla ariannu deg i Gymru. Yn wir, mae'r Blaid Lafur eisoes wedi dweud eu bod wedi ymrwymo i fformiwla Barnett."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael cais am sylw.