Diwrnod olaf o ymgyrchu cyn yr etholiad cyffredinol

  • 7 Mehefin 2017
Pleidlais

Mae'r pleidiau gwleidyddol yn gwneud un cais olaf am bleidleisiau ar ddiwrnod ola'r ymgyrchu cyn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau.

Bu'r arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn yng ngogledd Cymru ar ddiwrnod pan fydd yn ymweld â Chymru, Lloegr a'r Alban.

Mae'r gweinidog Brexit, David Jones wedi bod yn ymgyrchu yn etholaeth Alyn a Glannau Dyfrdwy dros y Ceidwadwyr, tra bod arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn y Rhondda.

Fe wnaeth AC UKIP, David Rowlands, ymuno ag ymgyrchwyr ym Mhont-y-pŵl yn Nhorfaen.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn canolbwyntio ar ymgyrchu yn lleol yng Nghymru.

Faint ydych chi'n ei wybod am eich ardal?

Defnyddiwch y blwch isod i ddarganfod eich etholaeth a gwneud y cwis.

Yn anffodus nid yw eich porwr yn gallu arddangos y cynnwys hwn

Daw hynny yn dilyn ymweliadau ddydd Mawrth gan y Prif Weinidog Theresa May i etholaeth De Clwyd ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, i Sir Drefaldwyn.

Mae Cymru Fyw wedi paratoi canllaw o'r brwydrau allweddol yng Nghymru ddydd Iau.

Mae'r blychau pleidleisio yn agor am 07:00 ddydd Iau ac yn cau am 22:00.

Image caption Dywedodd Jeremy Corbyn fod yr ymgyrch Llafur yn trafod "beth allwn ni ei gynnig i bobl"

Dywedodd Mr Corbyn wrth gefnogwyr ym Mae Colwyn mai dyma oedd ei 87fed rali yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

"Yn fwy nag unrhyw beth, rydyn ni'n bobl sy'n dod at ein gilydd â gweledigaeth a breuddwyd o'r byd y gallwn ni ei greu - un o gyfiawnder cymdeithasol ac undod," meddai.

Wrth annog ymgyrchwyr y blaid i gefnogi'r ymgeiswyr Llafur "yn ddi-stop drwy'r dydd fory", dywedodd: "Ewch amdani, beth am sicrhau'r fuddugoliaeth hanesyddol yna.

"2017 yw'r flwyddyn fyddan nhw fyth yn anghofio - fe enillwn ni."

Image caption Dywedodd Liam Fox fod Brexit yn bwnc llosg o hyd

Wrth siarad ar ymweliad â dociau Caerdydd dywedodd yr ysgrifennydd masnach ryngwladol, Liam Fox fod yr etholiad yn fater o bwy fyddai well gan etholwyr weld yn y trafodaethau Brexit.

"Bydd yn cael effaith economaidd fawr, bydd yn penderfynu ein perthynas a'r UE yn y dyfodol, a bydd hefyd yn cael effaith ar ein perthynas masnachu tu hwnt i'r UE," meddai.

"Bydd y wlad, y DU yn ei chyfanrwydd yn elwa o safbwynt cryf sydd wedi'i thrafod ar Brexit, a Theresa May a'r Ceidwadwyr sydd orau ar gyfer hynny."

Ychwanegodd fod rhai pobl yng Nghaerdydd wedi dweud wrtho eu bod "wastad wedi pleidleisio Llafur" ond y bydden nhw'n cefnogi'r Ceidwadwyr eleni "am y tro cyntaf erioed".

Image caption Fydd "dim byd yn newid" os yw pobl yn parhau i bleidleisio dros Lafur, yn ôl Leanne Wood

Mae Plaid Cymru a Ms Wood, fu'n annerch cefnogwyr yn Nhreorci ddydd Mercher, yn targedu'r Rhondda ar ôl cipio'r sedd yn y Cynulliad oddi wrth y blaid Lafur.

Ond cafodd Ms Wood ei beirniadu gan rai o fewn ei phlaid ym mis Ebrill ar ôl awgrymu y gallai hi sefyll fel yr ymgeisydd yn yr etholaeth, cyn penderfynu peidio.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru nad oedd hi'n gallu gweld sefyllfa ble byddai ei phlaid hi'n ymuno â chlymblaid yn San Steffan petai senedd grog wedi'r etholiad.

Yn lle hynny, meddai, byddai'r blaid yn ceisio sicrhau bod "llais Cymru'n cael ei glywed".

'Cystadleuol'

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Mark Williams fod pobl yn "gweddïo am obaith" a bod ei blaid yn cynnig "newid cyfeiriad i'r wlad".

"Yn yr etholiad hwn mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn cynnig gobaith o ddechrau gwell mewn bywyd i'n plant, gobaith am economi sy'n gweithio i bob un ohonom, a gobaith am wlad weddus a goddefgar.

"Does dim rhaid i ni dderbyn y wlad ranedig, gas, gul dwi'n poeni 'dyn ni'n araf ddod yn rhan ohoni. Gallwn wneud yn well."

Yn gynharach roedd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol y DU, Tim Farron wedi dweud ei fod yn "optimistaidd" am obeithion ei blaid yn yr etholiad.

Image caption Gall UKIP feddiannu'r "tir canol" gwleidyddol, yn ôl Ian Williams

Bu UKIP hefyd yn ymgyrchu yng nghymoedd y de a dywedodd ysgrifennydd y blaid yng Nghymru, Ian Williams nad Brexit oedd unig bwnc llosg ei blaid.

"Ar y stepen ddrws mae llawer yn dal i siarad am fewnfudo, falle tua 70-80% o beth mae pobl yn siarad amdano," meddai.

Ychwanegodd fod ei blaid yn credu mewn mewnfudo oedd "wedi'i reoli", ac y dylai tai a swyddi fynd i "bobl leol".

"Rydyn ni'n credu y gallwn ni gymryd y tir canol... a chynrychioli'r dosbarth gweithiol y mae Llafur wedi caniatáu eu hunain i golli dros y blynyddoedd," meddai.

Straeon perthnasol