Etholiad 2017: Y brwydrau allweddol yng Nghymru

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Arwyn Jones sy'n edrych ar y pleidiau yng Nghymru cyn yr etholiad cyffredinol

Ddydd Iau bydd Cymru a gweddill y DU yn mynd i'r blychau pleidleisio ar gyfer etholiad cyffredinol 2017.

Bydd Cymru'n ethol 40 o Aelodau Seneddol i San Steffan, allan o gyfanswm o 650 o ASau ar draws y wlad.

Eleni bydd 213 o ymgeiswyr yn sefyll ar draws Cymru, gostyngiad o'r 275 wnaeth ymgeisio ddwy flynedd yn ôl.

Dyma ganllaw i chi o brif bolisïau'r pleidiau - a'r seddi i gadw llygad arnyn nhw ar y noson.


Llafur Cymru

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Tri pholisi o faniffesto Cymreig y Blaid Lafur

Cafodd maniffesto'r blaid Lafur yng Nghymru ei lansio yn Delyn, un o'r etholaethau yn y gogledd ddwyrain mae'r blaid yn ceisio eu hamddiffyn yn sgil her gan y Ceidwadwyr.

Roedd y ddogfen yn cynnwys addewidion o £1.5bn yn ychwanegol i wasanaethau cyhoeddus Cymru, a chefnogaeth i forlyn llanw Bae Abertawe.

Mae Llafur hefyd wedi addo gwireddu cynllun Wylfa Newydd, rhoi £50m ar gyfer Metro Gogledd Cymru, a thrydaneiddio rheilffyrdd.

Mae'r blaid yn canolbwyntio ar amddiffyn rhai o'u seddi bregus megis Ynys Môn, Pen-y-bont a Gorllewin Casnewydd - ond ar noson dda fe allen nhw adennill etholaethau fel Gŵyr a Dyffryn Clwyd.


Y Ceidwadwyr Cymreig

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Tri pholisi o faniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig

Roedd Theresa May yn bresennol yn lansiad maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig yn Wrecsam - un o dri ymweliad gan y prif weinidog â Chymru yn ystod yr ymgyrch.

Un o'r prif negeseuon oedd na fyddai'r Ceidwadwyr yn parhau i "ddatganoli ac anghofio" pwerau i Gymru o hyn ymlaen.

Mae'r blaid hefyd wedi addo diddymu'r tollau ar Bont Hafren, gan ychwanegu y byddai cronfa o'r DU yn cael ei chreu i gymryd lle'r grantiau presennol sydd yn dod o'r UE.

Mae'r Ceidwadwyr yn gobeithio cipio seddi Llafur yn y gogledd ddwyrain a dinasoedd y de - ond maen nhw hefyd yn amddiffyn mwyafrifoedd bychan mewn ambell etholaeth.


Plaid Cymru

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Tri pholisi o faniffesto Plaid Cymru

"Amddiffyn Cymru" oedd y thema amlwg wrth i Blaid Cymru lansio'u maniffesto nhw yn y Rhondda, un o dargedau'r blaid ar gyfer yr etholiad.

Dywedodd eu harweinydd, Leanne Wood y bydden nhw'n brwydro i gael y fargen orau bosib i amaeth a diwydiannau Cymru yn ystod Brexit.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi mynnu bod arian o San Steffan yn cymryd lle "pob ceiniog" y bydd Cymru'n ei golli o Ewrop.

Tri AS gafodd y blaid yn 2015 ond maen nhw'n gobeithio ennill tir eleni, gydag etholaethau fel Ynys Môn a Cheredigion ar eu rhestr darged.


Y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Tri pholisi o faniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol

Brexit yw un o'r themâu mwyaf ym maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol, gydag arweinydd y blaid yng Nghymru yn rhybuddio y gallai gadael yr UE "ddinistrio'r dyfodol i'n plant".

Mae'r blaid wedi dweud y byddan nhw'n cynnal refferendwm arall ar ddiwedd y trafodaethau Brexit, fyddai'n cynnwys opsiwn i aros o fewn yr UE.

Maen nhw hefyd wedi addo mwy o bwerau ariannol i weinidogion yng Nghymru, a chodi'r dreth incwm i dalu am y gwasanaeth iechyd ac addysg.

Un sedd sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ar hyn o bryd, a byddai unrhyw enillion yn debygol o ddod mewn seddi a gollon nhw yn 2015, fel Canol Caerdydd neu Brycheiniog a Maesyfed.


UKIP

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Tri pholisi o faniffesto UKIP

Cafodd maniffesto UKIP yng Nghymru ei lansio dridiau wedi'r ymosodiad terfysgol ym Manceinion, gydag addewid i "herio" terfysgaeth wrth "barhau gyda'r broses ddemocrataidd".

Yn y ddogfen roedd y blaid yn addo cyfyngu ar gostau'r llywodraeth, cael gwared ar Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd, a rhoi mwy o hawliau yn ymwneud ag ysgolion i rieni.

Dywedodd Neil Hamilton, arweinydd grwp UKIP yn y Cynulliad, fod y maniffesto yn cynnig "gweledigaeth lawn" wedi Brexit.

Dyw'r blaid erioed wedi ennill sedd yng Nghymru mewn etholiad cyffredinol.


Y Blaid Werdd yng Nghymru

Image copyright Y Blaid Werdd yng Nghymru
Image caption Grenville Ham yw arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru

Dywedodd y Blaid Werdd yng Nghymru fod newid hinsawdd yn fwy o her i'r wlad na Brexit, wrth lansio'u maniffesto nhw.

Fe wnaeth y blaid bwysleisio'r angen am fuddsoddi arian cyhoeddus mewn prosiectau ynni adnewyddol.

Dyw'r blaid erioed wedi ennill sedd yng Nghymru mewn etholiad cyffredinol, ac eleni maen nhw'n cystadlu mewn 10 o'r 40 etholaeth yng Nghymru.


Seddi i'w gwylio ar y noson

Ar ddechrau'r ymgyrch fe wnaeth pob un o'r pleidiau ddewis eu seddau targed ar gyfer yr etholiad - gyda golwg hefyd ar ba rai oedd angen iddyn nhw eu hamddiffyn.

Ond wrth i'r ymgyrch fynd yn ei blaen, gyda'r polau piniwn yn newid a'r pleidiau'n dewis ble i ganolbwyntio eu hadnoddau, pwy a ŵyr a ydyn nhw yr un mor obeithiol bellach o wneud enillion?

Mae BBC Cymru Fyw wedi bwrw golwg dros bedair etholaeth ble gallai'r frwydr fod yn agos:

  • De Clwyd - sedd Llafur ar hyn o bryd, ond un y mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn llygadu
  • Ynys Môn - sedd ymylol Llafur, gyda Phlaid Cymru'n gwthio'n galed a'r Ceidwadwyr hefyd yn obeithiol
  • Canol Caerdydd - Llafur wedi ei chipio yn 2015, ond all y Democratiaid Rhyddfrydol ei hadennill?
  • Gŵyr - y sedd fwyaf ymylol yn y DU, ble bydd Llafur yn gobeithio ei chipio nôl gan y Ceidwadwyr

Gall seddi eraill fel Pen-y-bont hefyd fod yn allweddol wrth ddangos i ba gyfeiriad mae'r gwynt yn chwythu, os ydyn nhw'n newid dwylo ar y noson.

Sut i bleidleisio

Bydd etholwyr yn dewis ASau drwy system cyntaf i'r felin - yr ymgeisydd gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau ym mhob etholaeth fydd yn cael eu hethol.

Bydd y blychau pleidleisio yn agos am 07:00 dydd Iau, ac yn cau am 22:00.

Mae bellach yn rhy hwyr i gofrestru i bleidleisio, ond mae modd gwneud cais am bleidlais frys - oherwydd amgylchiadau gwaith annisgwyl, neu salwch - unrhyw bryd cyn 17:00 ar ddiwrnod y bleidlais.

Gallwch ddod o hyd i restr lawn o'r ymgeiswyr yn eich etholaeth chi drwy ddilyn y linc yma.