Cymru 'ar ei hennill o £79 y pen' o fod yn aelod o'r UE

Cymru a'r Undeb Ewropeaidd Image copyright Thinkstock

Mae adroddiad newydd yn awgrymu bod Cymru ar ei hennill o £79 y pen pob blwyddyn o fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, mae ffigyrau'n awgrymu bod Cymru'n derbyn £245m yn fwy gan yr UE nag y mae'n ei dalu i mewn.

Mae'r ganolfan yn nodi fod Cymru wedi derbyn cyfanswm o £658m gan yr Undeb Ewropeaidd yn 2014, tra mai £414m oedd cyfraniad y wlad i'r Undeb. Roedd y budd hwn o £245m yn cyfateb i tua 0.4% o Gynnyrch Domestig Gros yn 2014.

Dywedodd llefarydd ar ran Vote Leave Cymru nad yw'n cydnabod y ffigyrau, ac y byddai Cymru'n gweld budd economaidd petai'r DU yn gadael yr Undeb.

Mae'n bwysig nodi bod Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi defnyddio amcangyfrif uchaf y budd net i Gymru, ac y byddai defnyddio methodoleg arall yn rhoi ffigyrau gwahanol i'r rhai yn yr adroddiad.

Mae'r gwaith yn rhan o ymchwil y ganolfan ar effaith refferendwm Ewrop yng Nghymru.

Y DU ar ei cholled

Yn ôl yr adroddiad, mae gwahaniaeth sylweddol rhwng sefyllfa Cymru a gweddill y DU o ran cyfraniad i'r UE.

Tra bod Cymru ar ei hennill o tua £79 y pen, mae'r DU fel cyfanrwydd ar ei cholled o £151 y pen.

Mae'r ganolfan yn pwysleisio nad yw'r ffigwr yn adlewyrchu'r ystyriaethau ehangach economaidd neu fasnachol sy'n gysylltiedig ag aelodaeth o'r Farchnad Sengl.

Mae casgliadau Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi'u seilio ar ddefnyddio amcangyfrif uchaf y budd net i Gymru. Mae'r awduron yn cydnabod y byddai defnyddio methodoleg wahanol wedi arwain at ffigyrau is.

Ond maen nhw'n mynnu bod y fethodoleg a ddefnyddiwyd yn yr achos yma yn un sydd wedi'i chydnabod gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Image caption Cafodd yr A465 ger Glyn Ebwy ei hadeiladu gyda chyfraniad o arian yr Undeb Ewropeaidd

Dywedodd un o awduron yr adroddiad, Ed Poole: "Mae'r dadansoddiad yn dangos y potensial ar gyfer gwahaniaethau sylweddol o ran effaith ar wahanol rannau o'r DU pe baem yn tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd.

"Mae sefyllfa Cymru'n wahanol iawn i'r hyn a geir yn Yr Alban a Lloegr gan ei bod yn fuddiolwr net, yn bennaf am fod Cymru'n derbyn cyllid sylweddol o raglenni rhanbarthol ac amaethyddol yr UE.

"Un ddadl sydd wedi'i chyflwyno gan nifer yw y gellid defnyddio arian a arbedir o gyfraniadau i gyllideb yr UE i gymryd lle cyllid o raglenni'r UE sy'n dod â budd i Gymru.

"Fodd bynnag nid oes unrhyw warant na fyddai unrhyw ofod cyllidol a fyddai'n cael ei greu drwy dynnu allan o'r UE yn cael ei ddefnyddio yn lle hynny ar flaenoriaethau eraill llywodraeth y DU, fel toriadau treth neu leihau dyled."

Ymateb yr ymgyrchoedd

Dywedodd llefarydd ar ran Vote Leave Cymru nad yw'n cydnabod y ffigyrau, ac y byddai Cymru'n gweld budd economaidd petai'r DU yn gadael yr Undeb.

"Mae adroddiadau fel hyn yn anwybyddu un ffaith bwysig - does dim ffasiwn beth ag arian Ewropeaidd," meddai.

"Mae'n arian mae teuluoedd wedi ei dalu mewn trethi, ac arian allai gael ei wario'n well yn lleol."

Ond mae cadeirydd ymgyrch Cymru'n Gryfach yn Ewrop, Geraint Talfan Davies, wedi dweud bod yr Undeb Ewropeaidd yn "fargen wych i Gymru".

"Mae'r adroddiad yma'n gwneud hi'n gwbl glir bod Cymru'n derbyn mwy gan Ewrop na'r hyn mae'n ei gyfrannu.

"Mae hyn yn gwneud newid gwirioneddol i'n bywydau - gan greu swyddi, gwella sgiliau, adfywio cymunedau, gwella ein prifysgolion a'r amgylchedd, cynnal amaethyddiaeth ac ardaloedd gwledig a helpu cyllid ein hawdurdodau lleol."