Aros, gadael, ddim yn siŵr: Barn tri am y refferendwm

Boris a Cameron Image copyright PA

Ar 23 Mehefin bydd etholwyr Prydain yn penderfynu a fydd y Deyrnas Unedig yn aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd neu'n gadael. Mae'r pwnc wedi hawlio'r penawdau ers wythnosau ond beth yw barn Cymry ifanc? Cymru Fyw sydd wedi bod yn holi tri.

"Dw i'n teimlo ar y ddwy ochr, dyw'r ffeithiau ddim yn hollol glir. Mae'r ymgyrch gadael yn dweud ni'n talu mwy na ni'n cael yn ôl. Ond mae'r ochr aros yn dweud rhywbeth hollol i'r gwrthwyneb.

"Dw i'n teimlo bod hynna tame' bach yn confusing i'r bobl gyffredin. Mae e tipyn bach yn complex i ddeall fel person sydd ddim gyda gradd economeg neu rywbeth!"

Mae Siôn Davies o Lanelli mewn tipyn o benbleth. Dydy o ddim yn siŵr pa ochr gaiff ei bleidlais yn y refferendwm. Mae'n dweud bod y pwnc yn un mae'n trafod gyda'i ffrindiau "mwy gwleidyddol" a bod nifer ohonyn nhw hefyd yn teimlo y bydden nhw'n hoffi mwy o eglurder am y ffeithiau.

Image caption Siôn Davies
301 Moved Permanently

Moved Permanently

The document has moved here.

Ond mae Mark Norton, sydd hefyd wedi ei fagu yn nhref y sosban yn bendant ei farn. Dydy o ddim yn teimlo bod yna bwrpas i Brydain aros yn rhan o'r undeb erbyn hyn. Mae'n dweud fod yr undeb wedi ei sefydlu flynyddoedd yn ôl i sicrhau bod gwledydd yn Ewrop yn agored gyda'i gilydd.

"Ond nawr alla i ddim gweld sefyllfa lle bydd y gwledydd hynny eisiau mynd i ryfel yn erbyn ei gilydd. Mae'r prosiect Ewropeaidd wedi sicrhau hwnna nawr."

Mae'r myfyriwr yn Aberystwyth yn dweud y byddai Prydain yn medru bod yn gryfach yn economaidd wrth ddod allan gan y byddai yn gallu masnachu gyda mwy o wledydd.

"Er bod yr Undeb Ewropeaidd yn gadael i ni fasnachu tu allan i Ewrop maen nhw'n dewis pa wledydd.

"Ni ddim yn gallu mynd ati i greu cytundebau ein hunain a dw i'n meddwl bod hynny yn eithaf annheg, yn enwedig o ystyried pa mor uchel ydyn ni o ran statws o brif economïau'r byd.

"Dw i'n credu bod ni'n bumed neu chweched yn y byd. Felly ni'n setlo o fewn yr Undeb Ewropeaidd a ddim gadael ein hunain i dyfu fel dylen ni fod."

Image caption Carwyn James
301 Moved Permanently

Moved Permanently

The document has moved here.

I Carwyn James sydd yn ffermwr yng Nghrymych byddai gadael yn "social suicide".

"Os ni'n gadael dw i'n meddwl bydden ni'n mynd gam ymhellach yn ôl. Mae'n rhaid i ni ddysgu cydweithio mwy fel gwledydd. Falle dyw'r berthynas gyda Ewrop ddim yn berffaith ar hyn o bryd ond gallen ni ddatblygu'r berthynas i fod yn lot gwell nag yw e."

Mae o'n derbyn cymhorthdal fel ffermwyr eraill Ewrop ac yn dweud heb y taliadau yna y byddai nifer yn gorfod rhoi'r gorau iddi.

"Mae canran eithaf suprising o ffermwyr am adael yr Undeb Ewropeaidd. Maen nhw'n dweud bydd gwerth y bunt yn cwympo a fyddwn ni'n gallu allforio mwy. Y trwbl yw, ry' ni fel diwydiant amaeth yn prynu lot mwy o America fel y soya i fwydo creaduriaid. Gyda phunt sydd yn wannach fydd y bwyd yn ddrutach a fydd e yn neud ein cost of production ni'n fwy."

Materion yn ei filltir sgwâr sydd yn bwysig i Siôn: "Dw i'n byw yn fy nghartref ar hyn o bryd gyda fy rhieni yn Llanelli a dw i jest yn meddwl beth yw'r canlyniad gore ar gyfer Llanelli?

"Mae problemau gyda ni fel siopau gwag a chanolfan y dref sydd wedi dioddef ar ôl yr holl flynyddoedd. Beth sydd yn mynd i ail fywiogi hwnna?"

Image caption Mark Norton

Ond mae Mark yn rhagweld mai personoliaethau arweinwyr fydd un o'r ffactorau pwysicaf i'r rhai eraill sydd ddim yn siwr pa ffordd i bleidleisio. Mae'n dweud bod y ddwy ochr wedi bod yn gwthio hyn fel rhan o'r naratif.

"Fydd pobl yn dweud dwi ddim yn hoffi George Galloway a Nigel Farage felly dwi mynd i bleidleisio i aros neu dwi ddim yn hoffi Tony Blair neu David Cameron felly dwi mynd i bleidleisio i adael."

"Dwi ddim yn meddwl bod hwnna yn helpu."