Canllaw materion refferendwm yr EU: Y dadleuon

Ar ddydd Iau 23 Mehefin bydd y gorsafoedd pleidleisio yn agor i benderfynu a ddylai'r DU aros yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Defnyddiwch y canllaw hwn i ddod o hyd i'r dadleuon ar amrywiaeth o bynciau ar a ddylid Gadael neu Aros.

Teithio a byw dramor

Mae’r mater hwn yn ymwneud â theithio ar gyfer hamdden neu waith, a byw yng ngwledydd eraill yr UE

Pam bod hyn yn bwysig

Y drafodaeth

  • Mae dros filiwn o Brydeinwyr yn byw mewn gwledydd eraill yn yr UE a miliynau’n rhagor yn ymweld pob blwyddyn
  • Mae aelodaeth o’r UE yn caniatáu i ddinasyddion fyw neu weithio ble maen nhw’n dewis
  • Mae’r UE hefyd yn llunio rheolau sy’n effeithio ar ymwelwyr sy’n teithio o gwmpas Ewrop

Gadael

  • Does dim rheswm y byddai gadael yr UE yn ei gwneud yn anoddach mynd ar wyliau yn Ewrop
  • O dan gyfreithiau rhyngwladol, fyddai unrhyw un sy’n byw dramor ddim yn cael eu gorfodi i ddychwelyd i’r DU
  • Mae gan y DU gytundebau gyda nifer o wledydd eraill i helpu Prydeinwyr sy’n bwy dramor

Aros

  • Mae teithiau awyr i Ewrop a defnyddio ffonau symudol dramor yn rhatach oherwydd yr UE
  • Mae ymwelwyr o Brydain yn cael gofal iechyd am ddim neu’n rhatach mewn gwledydd eraill sy’n aelodau o’r UE
  • Does dim sicrwydd y gallai Prydeinwyr sy’n byw yng ngwledydd eraill yr UE aros petai’r DU yn gadael

Cost aelodaeth

Mae’r mater hwn yn edrych ar gost aelodaeth a beth mae’r DU yn ei gael gan yr UE

Pam bod hyn yn bwysig

Y drafodaeth

  • Mae’r DU yn gyfrannwr net i gyllid yr UE
  • £17.8bn oedd y cyfraniad crynswth yn 2015 ond cafodd y DU ad-daliad o £4.9bn
  • Cafodd Llywodraeth y DU hefyd £4.4bn yn ôl mewn cymorthdaliadau fferm a rhaglenni eraill

Gadael

  • Mae’r gost yn ei grynswth tua £350m yr wythnos
  • Petai’r DU yn gadael, byddai bilynnau o bunnoedd ar gael i wario ar flaenoriaethau eraill
  • Byddai’r DU hefyd yn gallu penderfynu sut i wario’r arian fyddai’n dod yn ôl o’r UE

Aros

  • Mae manteision economaidd aelodaeth o’r UE yn fwy o lawer na’r gost
  • Mae gwledydd eraill yn cyfrannu mwy fesul person na mae’r DU
  • Ar ôl gadael, byddai’r DU yn dal i orfod cyfrannu at gyllideb yr UE er mwyn parhau i gael mynediad i’r farchnad sengl

Materion defnyddwyr

Mae’r mater hwn yn cynnwys prisio, profi diogelwch a sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg

Pam bod hyn yn bwysig

Y drafodaeth

  • Mae’r UE yn deddfu ar ddiogelwch defnyddwyr ac yn rheoleiddio ar safonau masnach
  • Bwriad penodol y farchnad sengl yw ysgogi cystadleuaeth a masnach, gwella effeithlonrwydd, codi safonau a gostwng prisiau
  • Mae ymgyrchwyr yn anghytuno ynghylch yr effaith gyffredinol ar gostau i gartrefi

Gadael

  • Mae biwrocratiaeth yr UE yn gwneud nwyddau a gwasanaethau yn ddrytach
  • Mae’r ddadl ddiweddar ynglŷn â threth ar damponau yn dangos fod gan yr UE ormod o rym, fe ddylai Prydain allu pennu ei chyfraddau treth ar werth ei hun
  • Roedd cyfreithiau i ddiogelu defnyddwyr yn bodoli cyn yr UE a bydden nhw’n parhau ar ôl i Brydain adael

Aros

  • Mae pobl ym Mhrydain yn arbed £450 y flwyddyn ar gyfartaledd am fod prisiau yn is yn sgil aelodaeth o’r UE
  • Mae teithiau awyr a chostau ffonau symudol ymhlith y nwyddau a’r gwasanaethau sy’n rhatach
  • Mae’r UE yn sicrhau fod nwyddau sy’n cael eu mewnforio yn cwrdd â safonau ansawdd Ewropeaidd

Ffermio a physgota

Mae’r maes yma yn edrych ar effaith y Polisi Amaeth Cyffredin (CAP) a pholisïau pysgota’r UE ar y DU

Pam bod hyn yn bwysig

Y drafodaeth

  • Y Polisi Amaeth Cyffredin (CAP) yw un o’r meysydd ble mae’r UE yn gwario fwyaf er bod y gyfran o’r gyllideb yn lleihau
  • Mae tua 50% o incwm ffermydd Prydain yn dod o gymorthdaliadau’r UE
  • Mae Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yr UE yn rheoli faint o bysgod all pob gwlad eu dal

Gadael

  • Mae Prydain yn talu mwy am y CAP na sy’n dod yn ôl felly byddai gadael yr UE yn golygu bod mwy o arian ar gael i ffermwyr y DU
  • Mae’r CAP hefyd yn gwastraffu llawer o arian ar fiwrocratiaeth
  • Mae’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin wedi dinistrio’r diwydiant pysgota ym Mhrydain

Aros

  • Byddai nifer o ffermwyr Prydain yn mynd allan o fusnes heb gefnogaeth y CAP
  • Mae 73% o allforion amaeth y DU yn mynd i’r UE
  • Yr UE wnaeth orfodi Ffrainc a’r Almaen i godi gwaharddiadau ar gig eidion o Brydain
  • Mae’n rhaid rheoli pysgodfeydd i atal gorbysgota

Ynni ac amgylchedd

Mae’r mater hwn yn edrych ar ddarpariaeth ynni a diogelwch amgylcheddol

Pam bod hyn yn bwysig

Y drafodaeth

  • Mae’r UE wrthi’n datblygu marchnad ynni integredig
  • Mae sawl polisi ar draws gwledydd yr UE i daclo newid hinsawdd, gan gynnwys y Cynllun Masnachu Allyriadau
  • Mae hefyd yn deddfu ar faterion fel ansawdd dŵr a llygredd awyr

Gadael

  • Gall rheolau amgylcheddol yr UE fod yn faich diangen ar fusnesau a gwthio prisiau ynni’n uwch
  • Byddai gwledydd eraill Ewrop yn dal i fod eisiau gwerthu eu trydan i Brydain petai’n gadael
  • Mae mwyafrif mewnforion nwy’r DU yn dod o Norwy – dyw Prydain ddim yn ddibynnol ar Rwsia

Aros

  • Byddai biliau ynni’n codi £500m petai Prydain yn gadael yr UE
  • Mae diogelwch ynni ym Mhrydain yn gryfach fel rhan o’r UE gan fod modd trafod fel ardal fwy
  • Mae yna ddŵr ac awyr glanach, a llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr yn sgil gweithredu gan yr UE

Gwaith a chyflog

Mae’r maes hwn yn ystyried sut mae aelodaeth o’r UE yn effeithio ar amodau gwaith a chyflogau

Pam bod hyn yn bwysig

Y drafodaeth

  • Mae lefel diweithdra dros 10% yn yr UE, bron i ddwywaith y gyfradd yn y DU
  • Mae rhai hawliau gweithwyr wedi’u diogelu gan gyfreithiau’r UE ond mae cyfraddau treth, budd-daliadau ac isafswm cyflog dan reolaeth Llywodraeth y DU

Gadael

  • Byddai llai o reolau yn y gweithle yn creu mwy o swyddi
  • Byddai cyfnodau mamolaeth a thâl gwyliau ond yn newid petai pobl Prydain yn dymuno eu newid
  • Gallai’r DU gael mwy o fuddsoddiad o wledydd y tu allan i’r UE
  • Byddai lefelau is o fewnfudo yn arwain at gyflogau uwch

Aros

  • Mae tair miliwn o swyddi yn y DU wedi’u cysylltu â masnach gyda’r UE
  • Mae’r UE wedi rhoi sicrwydd tâl gwyliau, tâl mamolaeth, a mwy o ddiogelwch yn y gweithle
  • Mae’r DU yn derbyn £66m o fuddsoddiad pob dydd o’r UE

Masnach ac economi

Edrych ar sut mae aelodaeth o’r UE yn dylanwadu ar fasnach ac economi’r DU.

Pam bod hyn yn bwysig

Y drafodaeth

  • Mae tua hanner masnach y DU gyda’r UE
  • Mae marchnad sengl yr UE yn caniatáu symudiad rhydd nwyddau, gwasanaethau, cyfalaf a gweithwyr
  • Mae trafodaethau masnach gyda rhannau eraill o’r byd yn cael eu cynnal gan yr UE, nid gan wledydd unigol

Gadael

  • Byddai cwmnïau’r DU yn rhydd o faich rheolau’r UE
  • Byddai masnach gyda gwledydd yr UE yn parhau gan ein bod yn mewnforio mwy nag yr ydyn ni’n allforio
  • Gallai Prydain drafod ei chytundebau masnach ei hun gyda gwledydd eraill

Aros

  • Byddai gadael yr UE yn achosi sioc economaidd a byddai twf yn arafu
  • O ran allforio, mae Prydain yn fwy dibynnol ar weddill yr UE nag ydy’r Undeb ar y DU
  • Byddai’r DU yn dal i orfod cydymffurfio â rheolau’r UE i barhau i gael mynediad i’r farchnad sengl

Mewnfudo

Mae’r mater hwn yn cynnwys mewnfudo a symudiad rhydd o fewn Ewrop

Pam bod hyn yn bwysig

Y drafodaeth

  • Mae’r cyfanswm net o bobl sy’n dod i’r DU dros 300,000 y flwyddyn ar hyn o bryd ar waethaf targed y llywodraeth i’w gwtogi i lai na 100,000
  • Mae ychdig dan hanner y cyfanswm yma’n ymfudwyr o’r UE
  • Mae gan ddinasyddion yr UE hawl i fyw a gweithio mewn unrhyw wlad sy’n aelod o’r Undeb

Gadael

  • Mae’n amhosib rheoli mewnfudo fel aelod o’r UE
  • Mae gwasanaethau cyhoeddus dan straen oherwydd nifer y mudwyr
  • Mae lefelau uchel o fewnfudo wedi arwain at gyflogau is i weithwyr Prydeinig
  • Mae’r ffigyrau swyddogol yn rhoi amcan rhy isel o wir lefel mewnfudo

Aros

  • Mae mewnfudwyr, yn enwedig y rhai hynny o’r UE, yn talu mwy mewn trethi na maen nhw’n cymryd ‘nôl
  • Dan gytundeb Cameron gyda’r UE, bydd budd-daliadau gwaith i ymfudwyr o’r UE sy’n gyflogedig yn cael eu cyfyngu am y pedair blynedd gyntaf
  • Hyd yn oed y tu allan i’r UE, byddai’n rhaid i’r DU barhau i dderbyn symudiad rhydd er mwyn cael mynediad llawn i’r farchnad sengl
  • Mae mewnfudo yn dda i’r economi

Rôl fyd-eang ac amddiffyn

Mae’r mater hwn yn cynnwys amddiffyn ac ystod dylanwad Prydain ar y byd

Pam bod hyn yn bwysig

Y drafodaeth

  • Mae rôl yr UE mewn materion tramor wedi cynyddu yn y blynyddoedd diweddar
  • Yr Uwch Gynrychiolydd dros Faterion Tramor sy’n arwain polisi tramor yr UE, gyda chymorth y Gwasanaeth Gweithredu Allanol Ewropeaidd
  • Mae’r gwledydd sy’n aelodau o’r UE yn cadw eu feto ar gynigion ar bolisi tramor

Gadael

  • Mae aelodaeth o NATO a Chyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn bwysicach o ran amddiffyn Prydain na’r UE
  • Mae’r UE yn ymyrryd gyda chaffael amddiffyn a’r nod yw sefydlu byddin ei hun
  • Byddai gan Brydain fwy o ddylanwad ar y llwyfan rhyngwladol fel gwlad annibynnol

Aros

  • Mae’r DU angen bod yn rhan o’r UE i helpu gyda phenderfyniadau pwysig, nid ar y cyrion
  • Byddai gadael yr UE yn lleihau dylanwad Prydain ar y llwyfan rhyngwladol
  • Mae cydweithio gydag ein cymdogion agosaf i daclo bygythiadau wedi helpu i gadw Prydain yn fwy diogel

Sofraniaeth a chyfreithiau

Mae’r mater hwn yn edrych ar faint o allu sydd gan y DU i wneud ei chyfreithiau ei hun a phenderfynu ar sut i’w llywodraethu nhw

Pam bod hyn yn bwysig

Y drafodaeth

  • Mae’n rhaid i’r DU gydymffurfio â chyfarwyddebau’r UE. Mae rheolau’r UE yn orfodol ym mhob un o’r gwledydd sy’n aelod
  • Y Comisiwn Ewropeaidd sy'n cynnig cyfreithiau'r UE ac mae angen i'r rhan fwyaf gael eu cymeradwyo gan o leiaf 16 o lywodraethau cenedlaethol sydd yn cynrychioli 65% o boblogaeth yr UE ynghyd â'r Senedd Ewropeaidd
  • Llys Cyfiawnder Ewrop sy’n gorfodi cyfreithiau’r UE

Gadael

  • Mae mwyafrif cyfreithiau’r DU yn cael eu gwneud ym Mrwsel
  • Gall gwledydd eraill yr UE orfodi penderfyniadau sy’n groes i ddymuniadau’r DU
  • Mae Llywodraeth Prydain wedi cael ei threchu droeon mewn achosion yn Llys Cyfiawnder Ewrop
  • Gadael yr UE yw’r unig ffordd o adennill sofraniaeth lawn

Aros

  • Dim ond llond llaw o gyfreithiau’r DU sy’n dod o’r UE
  • Prydain sy’n parhau â’r feto mewn sawl maes pwysig
  • Mae cytundeb Cameron gyda’r UE yn galluogi unrhyw senedd genedlaethol i atal deddfwriaeth
  • Mae rhannu rhywfaint o sofraniaeth yn hanfodol i alluogi masnachu teg ar draws Ewrop

Plismona a diogelwch

Plismona trawsffiniol a chydweithrediad diogelwch, yn ogystal â symudiad rhydd

Pam bod hyn yn bwysig

Y drafodaeth

  • Mae ymosodiadau terfysgol ym Mharis a Brwsel wedi dod â diogelwch i ganol y ddadl
  • Dyw’r DU ddim yn rhan o’r ardal Schengen, ble mae modd symud o un wlad i’r llall heb wirio pasbortau, ond mae gan ddinasyddion yr UE hawl i symud yn rhydd
  • Gall pobl gael eu gwahardd rhag dod i Brydain os yw diogelwch y cyhoedd mewn perygl

Gadael

  • Mae bod yn rhan o’r UE yn ei gwneud hi’n haws i derfysgwyr ddod i’r DU
  • Mae goruchafiaeth Llysoedd yr UE yn ei gwneud hi’n anoddach anfon troseddwyr treisgar o’r wlad
  • Byddai Prydain yn parhau i gydweithio gyda gwledydd Ewropeaidd eraill i frwydro yn erbyn terfysgaeth ar ôl gadael yr UE, fel sy’n digwydd gydag UDA ar hyn o bryd

Aros

  • Does gan Brydain ddim ffiniau agored am nad yw’n rhan o ardal Schengen
  • Mae aelodaeth o Europol yn galluogi’r DU i rannu cudd-wybodaeth a thaclo troseddu trawsffiniol
  • Mae’r Warant Arestio Ewropeaidd wedi arwain at ddychwelyd 1,000 o droseddwyr i gael eu herlyn yn y DU

Addysg ac ymchwil

Mae’r maes hwn yn edrych ar ddylanwad yr UE ar addysg, ynghyd ag ymchwil gwyddonol, technegol a meddygol

Pam bod hyn yn bwysig

Y drafodaeth

  • Llywodraethau cenedlaethol sy’n gyfrifol am addysg ond mae’r UE yn hyrwyddo cydweithrediad rhwng aelodau o’r Undeb
  • Mae’r UE yn bwriadu gwario €80bn ar ymchwil rhwng 2014 a 2020 dan raglen ‘Horizon 2020’

Gadael

  • Dim ond 3% o’r gwariant ar ymchwil a datblygu ym Mhrydain sydd wedi’i ariannu gan yr UE
  • Gall y DU gynyddu’r gwariant ar wyddoniaeth yn sgil yr arbedion ddaw drwy beidio talu am aelodaeth o’r UE
  • Gallai Prydain lunio ei pholisi mewnfudo ei hun, allai gyflymu’r broses o ddod â gwyddonwyr a graddedigion yma

Aros

  • Mae prifysgolion y DU yn derbyn miliynau gan yr UE ar gyfer ymchwil Mae llawer o wyddonwyr mwyaf blaenllaw’r DU yn dod o rannau eraill o Ewrop gyda chymorth grantiau’r UE
  • Mae rhaglen Erasmus yn galluogi myfyrwyr o Brydain i astudio dramor