Sut mae pleidleisiau'r refferendwm yn cael eu cyfrif

Sut bydd y pleidleisiau'n cael eu cyfrif a pha bryd fyddwn ni'n gwybod pwy sydd wedi ennill? Dyma sut y bydd y BBC yn adrodd ar ganlyniad y refferendwm.

Sut caiff y pleidleisiau eu cyfrif?

Fe fydd y blychau pleidleisio'n cau am 22:00, a bydd y pleidleisiau'n cael eu cyfrif mew 382 o ardaloedd cyfrif. Awdurdodau lleol yw'r rhain yn bennaf.

Bydd y cam cyntaf yn gweld yr holl bapurau pleidleisio - ond nid o reidrwydd y pleidleisiau eu hunain - yn cael eu cyfrif, prosesu a'u gwirio.

Fe fydd unrhyw bleidleisiau sy'n cael eu gwrthod nes ymlaen yn y broses yn cael eu cynnwys gyda'r rhai sydd wedi eu gwirio.

Yna bydd ffigyrau'n dangos nifer y pleidleiswyr mewn ardaloedd lleol, wedi'u selio ar y pleidleisiau wedi'u gwirio, yn cael eu cyhoeddi.

Bydd y pleidleisiau Aros a Gadael wedyn yn cael eu cyfrif, ac unrhyw bleidleisiau sy'n cael eu gwrthod - lle nad yw bwriad y pleidleisiwr yn glir neu fod y bleidlais wedi ei difetha' - yn cael eu rhoi o'r neilltu.

Sut mae canlyniadau'n cael eu cyhoeddi?

Bydd cyfanswm lleol y pleidleisiau dros Adael ac Aros yn cael eu cyhoeddi ar gyfer pob ardal gyfrif, a hynny yn y canolfanau cyfrif lleol.

Fe fydd swyddogion cyfrif lleol yn cyflwyno pob cyfanswm lleol i'r swyddogion rhanbarthol, a fydd yn eu tro yn cyhoeddi'r cyfanswm rhanbarthol ar gyfer pob un o 11 rhanbarth llywodraeth y DU, a Gogledd Iwerddon.

Unwaith y bydd pob rhanbarth wedi'i gwblhau, fe fydd y prif swyddog cyfrif, Jenny Watson, cadeirydd y Comisiwn Etholiadol, yn cyhoeddi canlyniad swyddogol y refferendwm o bencadlys y cyfrif ym Manceinion.

Oni bai bod y canlyniad yn agos iawn, mae'n debygol bydd y BBC a darlledwyr eraill yn gallu rhagweld yr enillydd cyn y pwynt hwn, trwy ddadansoddi'r nifer a bleidleisiodd a phatrymau pleidleisio pobl.

Ble mae'r ardaloedd cyfrif?

Mae'r ardaloedd cyfrif yn cynnwys 380 o awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, yn ogystal ag un ardal gyfrif ar gyfer Gogledd Iwerddon, ac un ar gyfer Gibraltar - y diriogaeth yn ne Sbaen sy'n rhan o'r DU.

Nid yw Ynysoedd y Sianel nac Ynys Manaw yn rhan o'r DU, ac felly, nid ydynt yn pleidleisio yn y refferendwm.Canllaw cyfrif pleidleisiau'r refferendwm

Beth yw 'canlyniadau lleol' yng Ngogledd Iwerddon?

Er bod y Comisiwn Etholiadol yn trin Gogledd Iwerddon fel ardal gyfrif sengl, bydd pleidleisiau'r refferendwm yn cael eu cyfrif mewn wyth lleoliad yn yr 18 etholaeth seneddol yng Ngogledd Iwerddon.

Fe fydd swyddogion o'r wyth lleoliad yn cyflwyno'r canlyniadau i'r swyddfa ranbarthol ym Melffast, a fydd yn ei dro yn rhyddhau'r ffigyrau hyn i'r wasg.

Bydd cyfanswm pob etholaeth yn cael ei ychwanegu at system ganlyniadau'r BBC drwy ohebwyr y gorfforaeth fydd yn bresennol ym Melffast.

Beth yw 'cyntaf i'r felin'?

Er mwyn ennill y refferendwm, fe fydd yn rhaid i un ochr ennill 50% o'r pleidleisiau dilys, yn ogystal ag un neu fwy o bleidleisiau eraill.

Fodd bynnag, mae'n bosib bydd modd rhagweld pa ochr sy'n fuddugol unwaith bydd yr holl bleidleisiau wedi cael eu cyfrif.

Ar ôl i'r nifer a bleidleisiodd gael eu cyhoeddi ar gyfer rhai canolfannau cyfrif, bydd dadansoddwyr y BBC yn gallu amcangyfrif beth yw'r targed sydd angen ei gyrraedd i ennill.

Wrth i'r cyfansymiau lleol gael eu datgan, a mwy o wybodaeth am y nifer a bleidleisiodd, yna bydd modd gweithio allan y targed yn fwy penodol, ar sail y nifer a bleidleisiodd a'r etholwyr yn yr ardaloedd sydd heb gyhoeddi canlyniadau eto

Gallai'r targed ostwng yn eithaf cyflym wrth i'r cyfrif fynd yn ei flaen, ac wrth i fwy o ffigurau ddod i mewn o bob ardal gyfrif leol.

Sut fydd y nifer a bleidleisiodd yn cael eu cyfrifo?

Mae'r ffigwr ar gyfer y nifer a bleidleisiodd yn seiliedig ar bleidleisiau dilys a phleidleisiau a wrthodwyd, sy'n cael ei nodi fel canran o'r etholwyr cofrestredig.

Felly os oedd 500,000 o bleidleisiau dilys wedi'u bwrw mewn un ardal, a bod 2,000 o bleidleisiau wedi eu gwrthod, yn seiliedig ar 707,819 o etholwyr, byddai'r nifer a bleidleisiodd yn: 502,000 allan o 707,819 wedi'i luosi â 100, sy'n 71%.

Mae'r nifer a bleidleisiodd yn genedlaethol yn seiliedig ar nifer y pleidleisiau hyd yma, wedi'i rannu â swm o'r etholaethau sydd wedi datgan canlyniadau.

Bydd gwybodaeth am etholwyr ar gyfer pob ardal gyfrif yn cael ei ddarparu gan y Comisiwn Etholiadol unwaith bydd y broses ddilysu yn dechrau ar noson y refferendwm.

Beth yw 'pleidleisiau sydd wedi'u gwrthod'?

Mae pleidleisiau sy'n cael eu gwrthod yn bapurau lle mae'r bwriad i bleidleisio yn aneglur neu'n annilys.

Mae'r rhesymau y gall pleidlais gael ei gwrthod yn cynnwys:

  • Dim marc swyddogol
  • Pleidleisiau ar gyfer mwy nag un dewis
  • Ysgrifen neu farciau y gall arwain at adnabod pleidleisiwr (ac eithrio rhif y papur pleidleisio a argraffwyd neu farc adnabod unigryw arall)
  • Papur heb ei farcio, neu fwriad y pleidleisiwr yn ansicr

Pryd y byddwn yn gwybod beth yw'r canlyniad terfynol?

Yn swyddogol, pan fydd y bleidlais dros Adael neu Aros yn cyrraedd 50% o'r pleidleisiau sydd wedi'u bwrw yn ogystal ag o leia' un bleidlais arall.

Oni bai bod y canlyniad yn agos iawn, mae'n debygol y bydd dadansoddwyr y BBC yn gallu rhagweld pa ochr fydd wedi ennill yn gynharach, a hynny'n seiliedig ar y nifer a bleidleisiodd a phatrymau pleidleisio.

Bydd y canlyniad terfynol swyddogol yn cael ei gyhoeddi gan y prif swyddog cyfrif ym Manceinion.

Beth am ailgyfrif os yw'r canlyniad yn agos iawn?

Nid oes rheolau ar gyfer ailgyfrif cenedlaethol mewn refferendwm o dan unrhyw amgylchiadau.

Swyddogion cyfrif lleol fydd yn penderfynu ar unrhyw gais am ailgyfrif y pleidleisiau yn yr ardaloedd cyfrif unigol.

All y canlyniad terfynol gael ei herio ar ôl cael ei gyhoeddi?

Gall - ond dim ond drwy gais am adolygiad barnwrol, ac mae'n rhaid ei wneud o fewn chwe wythnos i gyhoeddi'r canlyniadau.

Nid yw canlyniad y refferendwm yn orfodol yn gyfreithiol. Fe fydd yn rhaid i'r Senedd basio deddfau er mwyn dod â Phrydain allan o'r UE, gan ddechrau drwy ddiddymu Deddf 1972 - Y Cymunedau Ewropeaidd.

Beth petai'r canlyniad yn hollol gyfartal?

Mae hwn yn dir anghyfarwydd.

Mae'r tebygolrwydd o hyn yn digwydd ar lefel genedlaethol yn hynod fychan, ond mae llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol wedi awgrymu mai'r senedd fyddai'n penderfynu ar y camau nesaf petai hynny'n digwydd.