Arglwydd Elis-Thomas: Pleidlais 1975 yn 'gamgymeriad'

dafydd el
Image caption 'Camgymeriad' oedd pleidleisio o blaid gadael y Farchnad Gyffredin yn 1975

Mae cyn arweinydd Plaid Cymru wedi cyfaddef mai camgymeriad oedd pleidleisio o blaid gadael y Farchnad Gyffredin yn refferendwm 1975.

Wrth siarad gyda rhaglen Newyddion 9 ddydd Gwener, dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas nad oedd wedi sylweddoli beth oedd yr Undeb Ewropeaidd yn "gallu cyfrannu" i Gymru ar y pryd.

Fe wnaeth Prydain bleidleisio o blaid aros yn y Farchnad Gyffredin dros 30 mlynedd yn ôl.

Ond erbyn hyn mae'r Arglwydd Elis-Thomas yn dweud bod ei safbwynt personol a'i blaid ar yr undeb wedi newid yn sylweddol.

"Oedd ganddo ni ym Mhlaid Cymru (yn 1975) slogan annealladwy: 'Ewrop 'Ie', yr Undeb Economaidd Ewropeaidd 'Na'," meddai.

'Camgymeriad'

"Doedd hwnna'n gwneud dim synnwyr o gwbl o edrych yn ôl. Mi oeddwn i'n meddwl fod o'n gamgymeriad be nes i bleidleisio yn erbyn yn 75 oherwydd ar ôl hynny dysgais i mewn gwirionedd beth oedd yr Undeb Ewropeaidd yn gallu cyfrannu i Gymru."

Ychwanegodd: "Dw i'n gweld dadleuon dwi'n clywed rŵan o blaid dod allan yn ddadleuon dros ail greu'r ymerodraeth Brydeinig ar ryw ffurf neu'i gilydd. Wel, dydi hynny ddim yn mynd i ddigwydd."

Un o gyfoedion yr Arglwydd Elis-Thomas, oedd yn gweithio fel ymchwilydd iddo yn 1975, ydi Robert Griffiths o'r blaid Gomiwnyddol.

Roedd yntau fel Arglwydd Elis-Thomas wedi pleidleisio o blaid gadael y Farchnad Gyffredin yn refferendwm 1975.

Heddiw mae'n parhau i gredu ei fod wedi gwneud y penderfyniad cywir.

Image caption Robert Griffiths

Dywedodd Mr Griffiths wrth Newyddion 9: "Ro ni'n credu ar y pryd hynny bod yr Undeb Ewropeaidd - neu'r Farchnad Gyffredin amser hynny wrth gwrs - ro ni'n credu amser hynny fod e'n glwb i gefnogi busnes mawr - y cwmnïau amlwladol mawr led led Ewrop.

"O ni'n credu hynny ar y pryd ac rwy'n credu bod popeth sydd wedi digwydd ers hynny, yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf, yn cadarnhau taw dyna wir gymeriad yr Undeb Ewropeaidd. Ni gyd yn datblygu i ryw radd ond falle bod fy hen gyfaill Dafydd Elis wedi mynd yn y cyfeiriad wrong."