'Rhwystredigaeth' ymgyrch aros yn yr Undeb Ewropeaidd

Alan Johnson
Image caption Alan Johnson yn cyrraedd y Barri

Mae cyn-Ysgrifennydd Cartref Llafur sydd o blaid cadw Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd wedi dweud ei fod yn rhwystredig ynglŷn â natur y frwydr.

Yn ôl Alan Johnson mae'n ymddangos fod y refferendwm yn frwydr rhwng rhai o arweinwyr y blaid Geidwadol.

Daeth sylwadau Mr Johnson wrth iddo ymgyrchu yn y Barri, dair wythnos cyn y bleidlais.

Mae sawl aelod o'r cabinet Ceidwadol yn ymgyrchu yn erbyn y Prif Weinidog David Cameron, sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

'Pobl yn flin'

Dywedodd Alan Johnson: "Mae pobl braidd yn flin, ac yn teimlo'n rhwystredig, pan mae'r ymgyrch yn edrych fel cystadleuaeth ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol.

"Dyma'r penderfyniad gwleidyddol pwysicaf ers amser maith. Mae'n bwysicach nag Etholiadau Cyffredinol - yn sicr mae'n bwysicach na phwy fydd yn arwain y blaid Geidwadol yn y dyfodol."

Mewn ymateb dywedodd Ross England, cyn-ymgeisydd i'r Ceidwadwyr yn y Cynulliad ac ymgyrchydd i adael yr UE, bod yr ymgyrch yn creu trafferthion i'r Blaid Lafur.

"Rwy'n tybio fod Llafur yn cael trafferth perswadio eu cefnogwyr i bleidleisio," meddai.

"Mae pobl yn deall nad oes gennym, fel aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, lais ynglŷn â faint o fewnfudwyr syn dod i Brydain, a does gennym ni ddim llais ynglŷn â pholisïau mewnfudo o Ewrop."