Undeb Ewropeaidd: Dadleuon bywiog myfyrwyr

Myfyrwyr

Mae myfyrwyr yn hanesyddol wedi bod yn flaenllaw yn y dadlau am gwestiynau gwleidyddol mawr y dydd.

Ond yn yr wythnosau cyn y refferendwm mae yna bryder wedi bod ynglŷn â faint o bobl ifanc fydd yn pleidleisio yn y refferendwm ar ddyfodol Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Serch hynny, ar sawl campws ar draws Cymru mae 'na ddadleuon bywiog wedi bod am oblygiadau aros neu adael yr Undeb Ewropeaidd ar fyfyrwyr.

Ar hyn o bryd mae gan fyfyrwyr hawliau i astudio mewn prifysgolion eraill yr UE dan yr un amgylchiadau â myfyrwyr cartref. Mae hynny'n cynnwys derbyn yr un cymorth ariannol tuag at ffioedd dysgu.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig grant o hyd at £5,190 tuag at ffioedd dysgu bob blwyddyn, ac mae hynny ar gael i fyfyrwyr o Gymru a'r UE - heblaw am fyfyrwyr o rannau eraill o'r DU.

Cydweithio

Mae hynny'n ymddangos yn anghyson i rai, ond mae Jean Francois-Poncet, myfyriwr o Ffrainc sy'n astudio yn Aberystwyth ac yn gymwys am y grant, yn amddiffyn yr egwyddor sylfaenol.

"Mae'r aelodau'n parhau'n sofran be' bynnag sy'n digwydd. Ac mae hynna'n bwysig...Cymru sy'n ariannu myfyrwyr Cymru - ond achos y cydweithio ar lefel Ewropeaidd, mae myfyrwyr o Gymru'n gallu mynd i Ffrainc, a chael addysg Ffrengig fel y Ffrancwyr. Does 'na ddim gwahaniaethu i'r naill gyfeiriad."

Yn yr un modd, mae myfyrwyr o Gymru sy'n astudio mewn prifysgolion yng ngweddill yr UE yn gallu gwneud cais am y grantiau sy'n bodoli yn y gwledydd hynny.

Erasmus

Pobl fel Samuel Sparrenius Waters, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Mynwy cyn mynd i astudio yn yr 'Hotelschool' yn yr Iseldiroedd.

"Mae'r sector rheoli ar gyfer gwestai wastad wedi mynd â fy mryd ac yn benodol rheolaeth busnes. Dw i wedi dod o hyd i brifysgol yn yr Iseldiroedd sydd yn rhif tri yn y byd ar gyfer y maes yma. Doedd o ddim yn benderfyniad bwriadol i astudio yn yr Undeb Ewropeaidd ond yn hytrach yn ddewis o ran lle oedd yr ysgolion gorau.

"Am ein bod ni'n aelod o'r UE dw i'n gallu gwneud cais ar gyfer yr holl fenthyciadau a grantiau mae myfyrwyr o'r Iseldiroedd yn derbyn. Ond mae 'na amodau fel mae'n rhaid i fi weithio hyn a hyn o oriau'r mis er mwyn cael benthyciad mwy."

Erasmus yw un o raglenni amlycaf yr UE - prosiect sy'n rhoi cymorth i bobl ifanc astudio neu hyfforddi mewn gwledydd eraill.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mark Norton

Roedd y Cymro Hywel Ceri Jones yn allweddol yn lansio'r cynllun ym 1987 fel pennaeth Adran Addysg y Comisiwn Ewropeaidd.

Mae'r rhai sy'n ymgyrchu o blaid aros yn yr UE yn pwysleisio gwerth prosiectau o'r fath.

'Dim effaith ar ffioedd'

Ond mae Mark Norton - sydd hefyd wedi bod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth - yn dadlau y byddai'r cysylltiadau yna yn para tu allan i'r Undeb.

"Ynglŷn â myfyrwyr tramor neu o'r Undeb Ewropeaidd, mae'n rhaid i ni gofio, iddyn nhw yn yr Undeb Ewropeaidd ffioedd Prydain yw'r rhai uchaf yn yr Undeb Ewropeaidd ond maen nhw dal i ddod yma. Nadw i yn credu oherwydd maen nhw i gyd yn gyfoethog ac yn y blaen, ond oherwydd safon yr addysg sydd ganddo ni mewn prifysgolion ym Mhrydain. Felly nadw i yn gallu gweld effaith ar y ffioedd os ni yn gadael."

Llynedd daeth 80 myfyriwr i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth fel rhan o gynllun Erasmus a bu 58 o Aberystwyth yn astudio dramor.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Branwen Miles yn esbonio beth wnaeth hi ddysgu yn ystod ei blwyddyn yn Strasbourg

Yn eu plith roedd Branwen Miles, o Hwlffordd, fu'n astudio yn Strasbwrg yn Ffrainc fel rhan o'i chwrs gwleidyddiaeth ryngwladol a Ffrangeg.

"O'dd e'n brofiad da. Odd e'n siawns i weld gwlad arall, byw mewn gwlad arall gyda chymorth o Erasmus, siawns i astudio mewn gwlad arall. Maen nhw yn 'neud e bach yn wahanol i ni. Mae bob gwlad bach yn wahanol, cwrdd â phobl o ar draws y byd, o Ewrop. O'dd rhai o Ganada ac Awstralia, Rwsia fyd. Oedden ni i gyd yn gymuned fach, gyda'r Ffrancwyr hefyd. Oedd e'n hwyl."

Ond nid gwerth y cysylltiadau hynny yw'r prif sylw wrth edrych ar oblygiadau aros neu i adael yr UE ar fyfyrwyr.

Mae'r rhai sydd am aros yn dadlau y byddai'r cysylltiadau'n cael eu peryglu a'r ymgyrchwyr dros adael yn dweud y bydd yna gydweithio a chyfnewid doed a ddelo.