Leanne: 'Yr ymgyrch Aros yng Nghymru wedi bod yn her'

Leanne Wood Image copyright Plaid Cymru
Image caption Bydd Leanne Wood yn ymuno â chyn-arweinydd yr SNP, Alex Salmond, i ymgyrchu ddydd Iau.

Mae gwleidyddion yng Nghymru sydd eisiau i'r Deyrnas Unedig aros yn yr Undeb Ewropeaidd wedi methu â threfnu "ymgyrch gall", ym marn arweinydd Plaid Cymru.

Dywedodd Leanne Wood fod cynnal refferendwm saith wythnos wedi etholiad y Cynulliad wedi bod yn dipyn o "drychineb", gan olygu fod yr ymgyrchu wedi bod "yn heriol iawn".

Mae Ms Wood ynghyd â chyn arweinydd yr SNP, Alex Salmond, yn ymgyrchu dros bleidlais aros yng Nghaerdydd ddydd Iau.

Buodd arweinydd Tŷ'r Cyffredin, Chris Grayling, yn ymgyrchu dros adael yng Nghaerffili ddydd Iau, ac ymhlith y rhai ymunodd ag e oedd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, Mark Reckless a Nathan Gill.

'Tipyn o drychineb'

Dywedodd Ms Wood wrth raglen BBC Radio Wales, Good Morning Wales, fod rhaglen etholiad y Cynulliad ym mis Mai wedi rheoli pawb o fewn y byd gwleidyddol yng Nghymru.

"Roedd amseru'r refferendwm yn dipyn o drychineb o berspectif Cymreig," meddai.

"Dyw e ddim wedi'n galluogi ni i ddod at ein gilydd a threfnu ymgyrch sylweddol, gall. Mae wedi bod yn anodd a heriol iawn."

Dywedodd fod gan yr ochr Aros "un wythnos ar ôl nawr i roi dadl bositif".

Image caption Bu Chris Grayling yn ymgyrchu yng Nghaerffili ddydd Iau.

Mewn ymateb i sylwadau Ms Wood dywedodd Mr Grayling: "Mae hwn yn frwydr rhwng y rhai sydd ddim yn hoffi'r Undeb Ewropeaidd ac yn dweud y dylem ni'n bendant adael, a'r rhai sydd ddim yn hoffi'r Undeb Ewropeaidd ond sydd yn dweud 'o, wel dylen ni aros'.

"Mae'n rhaid dweud nad oes fawr o gefnogaeth i'r UE unrhywle yn y Deyrnas Unedig."

Ychwanegodd: "Dwi'n gwbod pa mor galed mae pethau'n rhannau o'r Cymoedd. Dwi wedi bod yma lawer gwaith o'r blaen.

"Dwi wedi gweld yr anhawsterau yn yr ardal yma ac wedi siarad a rhai o'r bobl sydd yn wynebu sgil effeithiau mewnfudo i'r ardal hon."