Refferendwm: Carwyn 'yn poeni am swyddi'

carwyn Image copyright Getty Images

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud ei fod yn poeni y bydd pobl yn colli eu swyddi yma wedi'r bleidlais ar ddyfodol y DU yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn y refferendwm ar Iau 23 Mehefin, fe bleidleisiodd 52.5% o etholwyr Cymru i adael. 47.5% oedd o blaid aros.

Mae Carwyn Jones wedi galw am undod yng Nghymru wedi'r bleidlais.

Wrth ymateb fe groesawodd Mr Jones gynnig David Cameron i weinidogion yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i fod yn rhan o'r trafodaethau i ddatgymalu'r DU oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd.

Mae David Cameron wedi cyhoeddi y bydd yn ildio'r awennau yn yr hydref, ond y bydd yn ceisio sefydlogi pethau rhwng nawr a hynny.

Dywedodd Carwyn Jones - oedd o blaid y DU i aros yn rhan o'r UE, y byddai ei weinyddiaeth yn ceisio cynnig sefydlogrwydd tra bod Llywodraeth y DU mewn helbul.

Y bore ma fe amlinellodd chwech o flaenoriaethau oedd yn codi o'r amgylchiadau newydd.

  • Amddiffyn swyddi a hyder yn yr economi.
  • Chwarae rhan llawn yn y trafodaethau i adael yr UE
  • Cadw`r cysylltiad gyda`r farchnad sengl Ewopreaidd
  • Trafod parhau i fod yn rhan o raglenni cylludo o`r UE, gan gynnwys help i ffermwyr a`r ardaloedd tlotaf.
  • Adolygu`r ffordd mae`r tysorlys yn San Steffan yn ariannu Llywodraeth Cymru
  • Ail sefydlu`r berthynas rhwng y gwledydd datganoledig a Llywodraeth y DU.

Mwy o ymateb

Yn y cyfamser, mae Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, Elin Jones wedi dweud fod gan effaith y bleidlais i adael yn Refferendwm yr UE "oblygiadau eang" i gyfeiriad Cymru a'i Chynulliad.

Meddai "Bydd angen llais cryf, a bydd angen bod o amgylch y bwrdd wrth gynnal unrhyw drafodaethau ynglŷn â dyfodol y DU.C

"Yn benodol, mae'n rhaid i fuddiannau a phryderon pobl Cymru gael eu hystyried dros y misoedd nesaf, fel rhan o'r trafodaethau ar lefel yr UE ac o fewn y DU. Nid yw strwythurau cyfansoddiadol presennol na threfniadau mewnol y DU yn ddigon cadarn na ffurfiol i wneud hyn - mae angen rhoi prosesau newydd, cryfach a mwy ffurfiol ar waith ar lefel rhynglywodraethol ac ar lefel rhyngseneddol.

"Mae angen i ni, yn arweinwyr gwleidyddol, ac i'r cyfryngau edrych o ddifrif ar y sefyllfa yng Nghymru o ran ymgysylltiad democrataidd a thrafodaeth wleidyddol."

Fe ddywedodd Ms Jones hefyd bod disgwyl y bydd y Cynulliad yn craffu'n drylwyr ar y broses, ac fe fydd pwyllgorau arbennig yn cael eu sefydlu yr wythnos nesaf.

'Sicrhau sefydlogrwydd'

Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru wedi ymateb gan ddadlau y dylai sicrhau sefydlogrwydd i Gymru fod yn flaenoriaeth nawr.

Dywedodd Leanne Wood, tra bod yn rhaid parchu canlyniad y refferendwm, nid oedd hyn yn newydd y ffaith fod gadael yr UE yn debygol o gael effaith negyddol ar yr economi Gymreig, gan bwysleisio fod Plaid Cymru "yn unedig, hyderus a phenderfynol" o sicrhau fod pwerau a chyllid hanfodol yn cael eu trosglwyddo o Frwsel i Gymru.

Fe ddywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ei fod "yn hynod falch o fod yn rhan o blaid sydd wedi cynnig y refferendwm i bobl Prydain, gan roi cyfle anferth iddyn nhw benderfynu llwybr eu dyfodol.

"Ma' grym y bobl wedi ei ddatgan, ac mae'r canlyniad yn nodi moment hanesyddol o newid cadarnhaol i'n gwlad.

"Mae Cymru wedi anfon neges glir fod y wlad am fod yn rhan o'r newid hwnnw, ac mae'n rhaid i wleidyddion o bob cornel nawr ddod ynghyd i weithredu ar y penderfyniad cyfansoddiadol enfawr hwn."