Ffermwyr yn edrych am sicrwydd ar ôl y refferendwm

Cows on NI dairy farm

Mae ffermwyr Cymru yn chwilio am sicrwydd wedi'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r ddau undeb ffermio yng Nghymru yn cynnal cyfarfodydd arbennig i ymgynghori ynglŷn â'u blaenoriaethau allweddol.

Mae'r diwydiant wedi elwa am ddegawdau o gymhorthdaliadau o Frwsel.

Yn 2014 , trosglwyddwyd £240m i ffermwyr Cymru mewn taliadau uniongyrchol yn unig.

Byddai nifer helaeth o ffermwyr wedi gwneud colled y flwyddyn honno hebddyn nhw.

Yn y cyfamser, rhwng 2014-2020, mae £957m i fod ar gael drwy gyfrwng y Rhaglen Datblygu Gwledig, sef system o grantiau a benthyciadau i gefnogi cymunedau gwledig. Bydd y taliadau yma yn parhau wrth i Brydain ddatgymalu o'r UE, ond mae 'na bryder ynglŷn â beth fydd yn digwydd wedyn.

Roedd Undeb Amaethwyr Cymru, yr FUW, yn siomedig gyda'r canlyniad ond yn galw am "amserlen synhwyrol" ar gyfer Brexit.

Modelau amaethyddol eraill

Meddai llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts : "Mae cryn waith i'w wneud o ran newid trefniadau domestig a deddfwriaeth, gan gynnwys deddfwriaeth ddatganoledig Cymru, heb sôn am ddatrys ein hunain o gyllideb yr UE , trafod cytundebau masnach a delio â materion fel rheoli ffiniau."

Mae'r undeb wedi dweud eu bod hefyd wedi cysylltu â gwledydd fel Norwy a'r Swistir sydd heb fod yn aelodau o'r UE er mwyn deall sut mae modelau amaethyddol eraill yn gweithio.

Dywedodd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yng Nghymru ei fod yn bwysig nad oedd amaethyddiaeth yng Nghymru yn cael ei amharu'n fawr.

Dywedodd y Llywydd, Stephen James: "Ar flaen meddyliau y rhan fwyaf o ffermwyr fydd y cwestiynau deublyg o pa lefel o fynediad byddwn yn ei fwynhau i'r marchnadoedd Ewropeaidd a pha lefel o gymorth gaiff ffermwyr Cymru unwaith fydd y broses o dynnu'n ôl yn gyflawn ."