Carwyn Jones ddim eisiau atal 'Brexit'

Carwyn Jones Image copyright Getty Images
Image caption Mae Carwyn Jones yn rhybuddio y gallai peidio gweithredu canlyniad y refferendwm "waethygu'r argyfwng gwleidyddol"

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi gwrthod y syniad y dylai llywodraethau datganoledig y DU - gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru - atal gweithredu'r penderfyniad i adael yr UE yn dilyn y refferendwm ddydd Iau.

Meddai Mr Jones: "Yn amlwg fe bleidleisiodd Cymru a'r Alban yn wahanol ddydd Iau, ac os oes un peth allai waethygu'r argyfwng gwleidyddol ar y funud, yna gwleidyddion yn anwybyddu'r penderfyniad democrataidd a gafodd ei wneud yr wythnos ddiwetha' fyddai hynny.

"Ond mae yna broses eang a chymleth iawn o'n blaenau, ac fe wnes i'n glir fy mwriad i sicrhau fod Llywodraeth Cymru'n rhan o hynny bob cam o'r ffordd er mwyn diogelu buddiannau Cymreig. Fyddwn ni ddim yn cefnogi unrhyw beth sy'n niweidiol i Gymru."

Daw ei sylwadau wedi i Brif Weinidog Yr Alban Nicola Sturgeon awgrymu y gallai senedd y wlad atal y DU rhag gadael yr undeb, wedi i ran helaeth yr etholwyr yno gefnogi aros.

Mae Ms Sturgeon yn ceisio sicrhau bod Yr Alban yn gallu aros yn yr UE, all olygu cynnal refferendwm arall ar annibyniaeth.

Etholiad cyffredinol

Yn y cyfamser, mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi ategu at hynny, gan ddweud y gallai'r cytundeb terfynol ddibynnu ar gymeradwyaeth cynulliadau a seneddau'r DU

Yn siarad ar raglen y Sunday Politics, dywedodd Andrew RT Davies bod "angen i'r trafodaethau yma ddigwydd gyntaf cyn i unrhyw newidiadau gael eu gwneud".

"Yn y pen draw bydd y cytundeb yn cael ei roi gerbron deddfwyr a seneddau a chynulliadau'r DU, ac fe all fod etholiad cyffredinol yn 2020 sy'n penderfynu drwy bleidlais gan y wlad i gyd."

Galw am bwyllo

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Refferendwm: 'Rhaid parchu'r penderfyniad'

Dywedodd AC Llafur, y Farwnes Eluned Morgan bod angen pwyllo, oherwydd y gallai'r UE "edrych fel lle gwahanol iawn o fewn dwy flynedd".

Galwodd am "beidio â phwyso ymlaen yn rhy sydyn" ond pwysleisiodd bod angen "sefydlogrwydd yn y farchnad".

Ychwanegodd y byddai'n rhaid i Gymru "ddibynnu ar ein hunain mwy".