Refferendwm: Safbwynt dau o Gymry ifanc wedi'r canlyniad

Protest Image copyright EPA

Wedi i'r Deyrnas Unedig bleidleisio ddydd Iau i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Cymru Fyw wedi mynd 'nôl yn siarad â rhai o'r Cymru Ifanc gafodd eu holi yn ystod yr ymgyrch refferendwm.

"Siomedig dros ben. O'n i ddim yn disgwyl y canlyniad yma o gwbl," oedd geiriau cyntaf Carwyn James, ffarmwr sy'n byw yng Nghrymych ac oedd yn gryf ei farn y dylai Prydain aros yn rhan o'r undeb.

Ei bryder mwyaf yw'r ansicrwydd sydd nawr yn bodoli: "Dydyn ni ddim wedi gadael yr UE eto. Mae gyda ni ryw ddwy, dair blynedd o ansicrwydd. Shwt ma' modd i ffarmwr ifanc sy'n dechre yn y diwydiant roi cynllun busnes at ei gilydd heb wybod beth fydd yr hinsawdd wleidyddol yn y dyfodol?"

Ond mae Siôn Davies, o Lanelli, yn dweud ei fod yn "hapus" â'r canlyniad. Er yn ansicr pa ffordd i bleidleisio tan y funud olaf, yr ymgyrch Gadael gafodd ei bleidlais yn y diwedd.

Ond roedd y canlyniad yn sioc iddo: "O'n i'n meddwl y byddai Prydain yn pleidleisio i aros. Mae'n eithaf trist bod David Cameron wedi gadael ond o'n i yn hapus iawn pan ddaeth y canlyniad."

Image caption Siôn Davies a Carwyn James

'Dim lot o newid'

Dydy o ddim yn credu rhybuddion rhai o'r arbenigwyr y bydd yr economi yn dioddef: "Oedd lot o wleidyddion yr ymgyrch Aros yn dweud bod y bunt yn mynd i grashio. Ond fel ni'n gweld mae popeth yn iawn. Dyw swyddi i gyd ddim wedi mynd i'r Almaen.

"Mae'r economi i weld fel ei fod yn adfer nawr ac yn edrych yn oce. Sai'n disgwyl lot o newid o ran swyddi. Fi'n meddwl bydd lot o fusnesau yn dewis aros ym Mhrydain. Mae lot o ffws am symud i Ffrainc neu rywle. Fi'n credu neith Prydain yn eithaf da a dweud y gwir."

Mae Carwyn yn cydnabod bod y canlyniad yn newyddion calonogol o ran allforio cynnyrch fel ŵyn a chig eidion am y bydd modd iddyn nhw gystadlu ar lefel rhyngwladol. Ond mae'n dweud y bydd costau ffermwyr yn cynyddu.

Ac yn ôl y ffarmwr o Sir Benfro, mi fydd y goblygiadau iddo ef a'i gyfoedion yn fawr: "Mae'n rhwystredig iawn i bobl ifanc. Ers i fi adael ysgol yn 2010, trwy gydol fy mywyd i mae'r economi wedi bod yn ansefydlog, dim lot o swyddi, dim cyfleoedd i bobl ifanc.

A nawr o'r diwedd mae'r economi yn dechre gwella a llygedyn o obaith symud ymlaen. Ond nawr mae'r sefyllfa yn waeth na 2008/9 gyda'r dirwasgiad."

Ddydd Sul dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon y gallai Holyrood geisio atal Prydain rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd ac mae 'na ddeiseb wedi ei harwyddo gan fwy na 2.5 miliwn o bobl yn galw am ail bleidlais.

Ond mae Siôn Davies yn dweud bod pobl wedi gwneud eu penderfyniad ddydd Iau: "Mae'n nonsens. Mae pobl yn licio democratiaeth os yw e'n mynd y ffordd iawn ond pan nad yw e'n gweithio iddyn nhw, dy'n nhw ddim yn hoffi democratiaeth."