Carwyn: 'Angen dechrau Brexit cyn gynted â phosib'

Carwyn Jones

Fe ddylai Llywodraeth Prydain anfon hysbysiad ffurfiol i Brwsel o'i bwriad i adael yr Undeb Ewropeaidd cyn gynted â phosib, medd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Yn dilyn y bleidlais i adael yr undeb, cyhoeddodd y Prif Weinidog David Cameron y byddai'n camu o'r neilltu, gan ddweud mai ei olynydd ddylai ddechrau ar y broses ffurfiol o adael.

Erthygl 50 yw'r enw ar y broses ffurfiol ar ôl y cymal perthnasol yng nghytundeb Lisbon 2007, ac mae'n bwysig am ei fod yn dechrau'r broses ddwy flynedd i adael yr undeb.

'Dim oedi'

Dywedodd Mr Jones wrth Aelodau Cynulliad nad oedd o fudd i Gymru i oedi'r broses.

"Fy marn i yw y dylai erthygl 50 ddechrau cyn gynted ag y bo modd yn hytrach nag yn nes ymlaen," meddai.

"Dw i'n credu bod aros am fisoedd ar fisoedd yn ychwanegu at yr ansicrwydd.

"Mae'n well i bobl wybod ble maen nhw'n sefyll yn hytrach na pheidio â gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd am fisoedd a blynyddoedd.

"Dyw ansicrwydd byth yn mynd i fod o help yn nhermau buddsoddiad."

Image caption Neil Hamilton yw arweinydd UKIP yn y Cynulliad

Dywedodd arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton y dylai ef ac arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod yn rhan o drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth Prydain ar Brexit.

Ychwanegodd y byddai achos Cymru'n cael ei gryfhau gan leisiau'n rheiny oedd o blaid y canlyniad yng Nghymru.

Dywedodd Mr Jones ei fod wedi ysgrifennu llythyr at David Cameron a'i fod yn aros am ateb, ond bod "pobl Cymru wedi pleidleisio dros Lywodraeth Cymru i gyfleu'r ymateb".

Ychwanegodd y byddai gan bob plaid ran yn y trafodaethau wrth iddyn nhw barhau.

"Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd o siarad â'n gilydd eto," meddai.

"Er i ni bleidleisio mewn ffyrdd gwahanol, rydyn ni dal yn gymdogion, yn ffrindiau ac yn deulu.

"Mae'r heriau roedden ni'n eu hwynebu ar y gwasanaeth iechyd, yr economi ac addysg ddoe yn dal i'n hwynebu ni heddiw, a rhaid i ni eu hwynebu er mwyn gwasanaethu dros bobl Cymru."

Beirniadaeth

Mae Mr Davies wedi beirniadu Mr Jones, gan honni nad oedd Llywodraeth Cymru wedi paratoi ar gyfer pleidlais i adael yr UE, er i'r Prif Weinidog rybuddio am yr effaith fyddai gadael yn ei gael ar y wlad.

"Fe wnaeth y Prif Weinidog rybuddio fwy nag unwaith am ganlyniadau pleidlais i adael yr UE, ond mae'n ymddangos nad oedd yn ei gweld yn addas i gael ei lywodraeth i baratoi am hynny."

Fe wnaeth Mr Davies hefyd bwysleisio'r pwysigrwydd o roi rôl i ymgyrchwyr dros adael wrth i Gymru baratoi i ymateb i ganlyniad y refferendwm.