Gadael yr UE 'yn gam mawr yn ôl' i brifysgolion

Prifysgolion

Roedd y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn "gam mawr yn ôl" i brifysgolion Cymru, ym marn pennaeth Prifysgol Caerdydd.

Fe wnaeth sefydliadau addysg uwch Cymru ddadlau dros aros yn yr UE cyn y refferendwm gan ddweud bod cyllid o'r undeb a phrosiectau ar y cyd gyda ymchwiliwyr Ewropeaidd yn holl bwysig i'r sector ac economi Cymru.

Dywedodd Is Ganghellor Caerdydd, Colin Riordan, bod y refferendwm wedi tanio cyfnod o ansicrwydd, ond bod y brifysgol yn ddigon cryf i ddod "allan o'r pen arall".

Mae popeth posib yn cael ei wneud i amddiffyn buddiannau Cymru, gan gynnwys y sector addysg uwch, meddai Llywodraeth Cymru.

Yn ôl y Cyngor Cyllido Addysg Uwch, fe dderbyniodd Cymru £46m mewn grantiau a chytundebau ymchwil yn 2014/15 - 21% o'r cyfanswm ar gyfer y flwyddyn yna.

Daeth Prifysgol Caerdydd yn bumed mewn asesiad o safon ymchwil prifysgolion y Deyrnas Unedig yn 2014.

Image caption Is Ganghellor Caerdydd, Colin Riordan

Mae'n denu miliynau o bunnau o'r UE ar gyfer prosiectau ymchwil gan gynnwys £4.6m tuag at ganolfan sganio'r ymennydd ym Mhrifysgol Caerdydd (CUBRIC).

Rhybuddiodd yr Athro Riordan bod canlyniad y refferendwm yn bygwth ymchwil mewn prifysgolion ond ei fod yn angenrheidiol parhau i geisio am gyllid a chydweithio â phartneriaid Ewropeaidd, er gwaetha'r ansicrwydd.

Dywedodd nad oedd yn ymwybodol o enghreifftiau penodol yn ymwneud ag ymchwilwyr yng Nghaerdydd, ond roedd wedi clywed bod rhai partneriaid Ewropeaidd wedi gofyn i academwyr Prydeinig i dynnu eu henwau oddi ar geisiadau ar y cyd am gyllid.

"Efallai, y bydd pobol yn meddwl, 'i ba ddiben?' Ond ddylen ni gofio bod y bleidlais yn ymwneud â bwriad ar gyfer y dyfodol", meddai.

"Dydyn ni ddim yn gwybod be' fydd termau gadael yr UE eto.

"Tan fod yna lawer mwy o sicrwydd - fydd mewn blynyddoedd nid misoedd - mae'n rhaid i ni barhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid Ewropeaidd."

Image caption Derbyniodd canolfan sganio'r ymennydd ym Mhrifysgol Caerdydd £4.6m o nawdd Ewropeaidd.

Llynedd, roedd yna 5,425 o fyfyrwyr o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd tu hwnt i Brydain yn astudio ym mhrifysgolion Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd myfyrwyr o'r UE sy'n astudio yma ar hyn o bryd, a'r rhai sy'n gwneud cais i ddod eleni, yn gymwys am yr un cymorth ariannol.

Dywedodd yr Athro Riordan ei fod am dawelu meddyliau staff a myfyrwyr o'r UE, ond byddai'r bleidlais yn sicr o gael effaith o ran yr argraff allai rhoi.

Mae angen i bawb weithio'n galed, meddai, i sicrhau nad yw delwedd groesawgar y brifysgol a Chymru yn dioddef o ganlyniad i Brexit.

'Amddiffyn buddiannau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud "popeth o fewn ein gallu i amddiffyn buddiannau Cymru, cryfhau'r economi ac uno'r genedl" gan gynnwys amddiffyn y sector addysg uwch i'r graddau mwyaf posibl.

Cyn y refferendwm, dywedodd ymgyrchwyr o blaid gadael y byddai arian ar gyfer ymchwil yn parhau ar o leiaf yr un lefel ar ôl tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd, gan ddadlau hefyd nad oedd rheswm i gysylltiadau rhyngwladol rhwng prifysgolion beidio parhau a ffynnu tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd yr Athro Riordan, sydd hefyd yn cadeirio'r corff Prifysgolion Cymru, bod canlyniad y refferendwm yn "gam mawr yn ôl" ac yn tanio cyfnod o ansicrwydd a newidiadau "fydd yn para blynyddoedd".

"Ond mae'n werth dweud bod prifysgolion wedi bod yma am amser hir iawn. Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yma ers 1883 ac fe fyddwn ni yma wedi'r holl broses a fyddwn ni allan y pen arall."

"Fe ddown ni drwy hyn, ond dydy e ddim beth fydden ni wedi eisiau."