Effaith y refferendwm ar fudiadau sy'n hybu'r Gymraeg

Yn dilyn canlyniad y refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd mae BBC Cymru wedi bod yn edrych ar nifer o wahanol feysydd sydd wedi derbyn arian o gronfeydd Ewrop.

Alun Rhys sydd wedi bod yn edrych ar y sefyllfa ar gyfer mudiadau sy'n hybu'r Gymraeg.

Ym mis Medi y llynedd fe agorodd Meithrinfa Derwen Deg yng Nghyffordd Llandudno.

Cyn hynny roedd y feithrinfa Gymraeg agosaf yn Llanrwst, ac roedd nifer o rieni Cymraeg ardal Llandudno yn teimlo bod angen darpariaeth yn lleol.

Mae gan Nia Owen, cyfarwyddwr y feithrinfa, ddau o blant ac roedd hi'n awyddus iddyn nhw gael gofal yn y Gymraeg.

Aeth ati ar y cyd gyda Menter Iaith Conwy i wneud cais am arian o Ewrop a llwyddon nhw i gael grant o £85,000 o Arian Cyfenter i addasu hen gartref henoed yn feithrinfa.

Bellach mae 30 o blant yn Meithrinfa Derwen Deg ac maen nhw'n cyflogi naw o weithwyr.

"Mi ddaru'r arian o Ewrop ein helpu ni i gael arian Loteri hefyd ac mae'n golygu fod yr arian wedi ein galluogi i gynnal y feithrinfa am y ddwy flynedd gyntaf," meddai Nia.

"Heb yr arian hwnnw mi fyddai wedi bod yn anodd iawn."

Image caption Mae 30 o blant yn Meithrinfa Derwen Deg ac maen nhw'n cyflogi naw o weithwyr

Mae Meirion Davies, cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, yn dweud bod y swyddi yn Derwen Deg bellach yn hunangynhaliol.

Mae ganddo enghreifftiau eraill o arian Ewropeaidd sydd wedi hybu gweithgaredd a chyflogaeth yn y Gymraeg.

"'Da ni hefyd wedi defnyddio cyllid Ewropeaidd i hyfforddi siaradwyr Cymraeg i gymryd swyddi yn y maes awyr agored.

"'Da ni wedi gallu cynyddu'r ganran o siaradwyr Cymraeg yn y maes yn y gogledd-orllewin o 5% i 25%.

"Dwi'n gweld bod yr arian yna i wella safon byw ar draws Ewrop oherwydd i raddau 'da ni wedi cael ein cam-weinyddu gan y grymoedd yn Llundain dros y canrifoedd, a 'dwi ddim yn ymddiried yn Llundain i roi pres i ni yn lle'r arian yma."

Papurau bro

Mae'r arian a dderbyniodd pump o bapurau bro yn y de-orllewin rai blynyddoedd yn ôl o Ewrop yn dal i gael dylanwad.

Mae diwyg y papurau wedi gwella, mae yna ragor o dudalennau, rhai mewn lliw ac mae yna atodiad i bobl ifanc yn rhai ohonyn nhw.

Yn ôl Owain Sion Gruffydd, cadeirydd Papur Bro Y Lloffwr yn ardal Dinefwr, roedd yr arian yn sbardun i wneud y papurau bro yn gyfoes.

Image caption Rhwng 2009 a 2013 fe dderbyniodd yr Urdd £2m o arian Ewropeaidd

Mae Mudiad yr Urdd wedi derbyn arian sylweddol o gronfeydd Ewropeaidd dros y blynyddoedd.

Rhwng 2009 a 2013 fe dderbyniodd y mudiad £4m - hanner ohono o Ewrop tuag at gynllun Llwybrau'r Brig.

'Pryder mawr'

Yn ôl Prif Weithredwr y Mudiad, Sioned Hughes mae'r arian mae'r mudiad wedi ei dderbyn yn helpu'r mudiad i gynyddu cyfleoedd i blant a phobl ifanc.

"'Da ni wedi bod yn buddsoddi arian cyfalaf o Ewrop yn Llangrannog a Glan Llyn a 'da ni'n gwybod yn union faint o adwaith positif mae cael profiad yn y gwersylloedd hynny yn ei gael ar y Gymraeg," meddai.

"Mae yna dros 3,000 o blant o Went yn dod i Langrannog a 'da ni'n gwybod bod dros 25% o'r rheiny yn teimlo yn hynod o bositif ynghylch y Gymraeg.

"Fy mhryder mwyaf i ydi y bydd pobl ifanc a phlant Cymru yn ei golli pan ddaw arian Ewrop i ben. Mae'n bryder mawr i ni yn yr Urdd."

Mae'r gwleidyddion oedd yn ymgyrchu dros Adael yn dweud mai'r cyfan oedd arian Ewrop oedd arian oedd yn cael ei roi gan Brydain i'r Undeb Ewropeaidd ac yna yn cael ei ailgylchu.

Maen nhw'n dadlau fod y DU yn cyfranu mwy i'r Undeb nag oedd yn ei dderbyn.