Cefnogaeth i barth gwefan .cymru

Mae arolwg o fusnesau a chwsmeriaid yn awgrymu bod y mwyafrif o blaid i Gymru gael parth eu hunain i wefannau.

Byddai'r newid yn gweld perchnogion gwefannau yn cael gorffen y cyfeiriad gyda .cymru a .wales yn hytrach na .uk.

O fis Ionawr, bydd corff rheoleiddio'r we, ICANN, yn caniatáu i wledydd wneud cais am enwau newydd.

Mae'r rhai sydd o blaid hynny yn dweud y gallai gynorthwyo brandio a marchnata, ond mae gwrthwynebwyr yn dweud y gallai arwain at fwy o gyfleoedd am dwyll.

Cafodd yr arolwg ei gomisiynu gan y gwasanaeth cofrestru parthau, Nominet.

Mae'n awgrymu bod 69% o gwsmeriaid yn cefnogi'r newid, a 59% o fusnesau a chyrff eraill yng Nghymru yn gefnogol.

Fe gafodd 1,003 o bobl eu holi ar gyfer yr arolwg - 21% yn Gymry Cymraeg - ynghyd a 250 o bobl ddylanwadol mewn sefydliadau Cymreig.

Ond mae'r arolwg yn awgrymu gwahaniaeth barn ynglŷn â pha barth i ddewis.

Dywedodd cyfarwyddwr datblygu busnes Nominet, Glenn Hayward: "O safbwynt y cwsmeriaid roedd mwy yn dewis .cymru, ond ymhlith busnesau .wales oedd y dewis er mwyn medru marchnata eu hunain y tu allan i Gymru."

'Sarhad'

Mae prif weithredwr dotCYM - mudiad sy'n ymgyrchu dros gael parth i Gymru ar y we - Siôn Jobbins, wedi beirniadu Prif Weinidog Cymru am beidio cefnogi eu hymgyrch i greu parth .cymru.

Yn siambr y Senedd ddydd Mawrth, gwrthododd Mr Jones roi ei gefnogaeth i gynnwys .cymru fel enw'r parth i Gymru, gan ddweud y byddai'n cefnogi'r enw fydd yn dod a'r budd mwyaf i Gymru.

Dywed Mr Jobbins fod hyn yn syfrdanol ac yn codi cwestiynau am statws yr iaith Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru.

"Mae'n sarhad," meddai.

"Dyma'r un cyfle i roi statws i'r iaith Gymraeg ar lwyfan rhyngwladol."

Costau

Mae Nominet yn awgrymu mai un ateb fyddai cofrestru'r ddau enw.

Baner Cymru
Mae busnesau a chwsmeriaid yn anghytuno os mai .cymru neu .wales fyddai orau

Gellid gorffen cyfeiriadau gwefannau gyda'r ddau ddiweddglo, ond gan gyfeirio defnyddwyr at yr un dudalen.

Ond mae ICANN yn codi tal o $185,000 (£116,045) am bob cais, ac yn gwrthod eithrio Cymru o hynny.

Dywedodd gweinidog busnes llywodraeth Cymru, Edwina Hart, yr wythnos ddiwethaf nad oedd am ystyried talu am yr un o'r ddau gais.

Mae Nominet mewn trafodaethau i gael yr arian, gan ddweud y byddan nhw'n sefydlu swyddfa yn lleol pe bai'r ymdrechion yn llwyddiannus.

Ond dywed dotCYM, y byddai rhoi rheolaeth i Nominet gyfystyr a gwerthu hunaniaeth y wlad.

Buddion

Cafodd yr arolwg ei gynnal gan gwmni ymgynghori London Economics Wales fel rhan o astudiaeth ehangach.

Dywed yr adroddiad: "Gall enw parth Cymreig chwarae rôl bositif mewn gweithgareddau sy'n ceisio codi proffil Cymru ac annog buddsoddiad o dramor ac allforion.

"Gall hefyd ddarparu ffynhonnell gyson o hysbysebu rhad ac am ddim ar lefel isel."

Ond mae'n rhybuddio hefyd fod pris i'w dalu am y fath gyhoeddusrwydd.

Mae'n dweud y bydd angen i fusnesau gymryd camau amddiffynnol er mwyn atal cwmnïau eraill rhag rhedeg safleoedd gyda'u henwau nhw.

Bydd hefyd angen talu costau marchnata ychwanegol er mwyn hysbysebu eu cyfeiriadau gwefan newydd.