Iwfforia yn Hen Wlad fy Nhadau
A reprodução deste formato de vídeo não é compatível com seu dispositivo

Os rhoddodd Rhys Ifans yr ias; bydd y fideo hon yn rhoi'r wefr.

Ar drothwy ail gêm Cymru yn Euro 2016 yn erbyn yr hen elyn, dyma gyfle i chi weld darn fideo arbennig fydd yn chwarae cyn y gêm ar S4C yfory.

Os rhoddodd Rhys Ifans yn darllen cerdd Llion Jones ias i chi; fe roddith hon flas o'r wefr a'r iwfforia ddaeth yn sgil buddugoliaeth Cymru yn erbyn Slofacia.