BBC Sport - Cwpan Rygbi'r Byd: Y grefft o gicio

Cwpan Rygbi'r Byd: Y grefft o gicio

O droed chwith Jonny Wilkinson yn 2003 i gicio metronomaidd Joel Stransky yn 1995 - mae hanes yn dangos bod Cwpanau Rygbi'r Byd yn cael eu hennill gan gicwyr.

Ond beth am y ddefod o baratoi ar gyfer y gic? Be' sy'n gwahaniaethu Biggar o Carter neu Sexton? Fe aeth gohebydd gwadd rhaglen y Clwb Rygbi ar S4C, Dwayne Peel, i gae ymarfer y Gleision i drafod paratoadau y maswr Rhys Patchell.

Mae'r Gleision yn chwarae Munster yn y PRO12, ddydd Sadwrn 17 Hydref - y gêm yn fyw ar S4C o 13:15.