Syr Emyr yn beirniadu'r hyn mae datganoli wedi ei gyflawni

  • Cyhoeddwyd
Syr Emyr Jones ParryFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Syr Emyr Jones Parry

Mae'r dyn arweiniodd ymchwiliad i bwerau'r Cynulliad wedi dweud bod modd beirniadu'r hyn mae datganoli wedi ei gyflawni hyd yn hyn.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry hefyd ei fod yn eithaf sicr y byddai canlyniad y refferendwm yn llawer agosach pe bai'r ymgyrch Na "wedi bod yn un go iawn yn hytrach na chymysgedd o unigolion."

Gwnaeth Syr Emyr, cyn Lysgennad y Deyrnas Unedig i'r Cenhedloedd Unedig, ei sylwadau wrth annerch cynhadledd ym Mae Caerdydd.

Ym mis Mawrth fe bleidleisiodd Cymru o blaid mwy o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol o 63.49% i 36.51%.

Roedd cynnal refferendwm yn un o argymhellion Comisiwn Cymru Gyfan, comisiwn gafodd ei gadeirio gan Syr Emyr.

'Ddim yn addas'

"Efallai nad yw blaenoriaethau cynlluniau Llywodraeth Cymru'n hollol addas ar gyfer problemau Cymru," meddai.

"Mae honna'n ffordd ddiplomataidd o ofyn a yw economi Cymru, y sgiliau sydd eu hangen, anghenion addysgol Cymru ... a ydym yn meddwl bod y gofynion hynny yn mynd i gael eu cryfhau gan ymrwymiad i gael rhwydwaith o lonydd beicio drwy Gymru?"

Dywedodd ei fod wedi gofyn i'r pedair prif blaid yn ystod yr ymgyrch refferendwm sut y bydden nhw'n defnyddio'r pwerau newydd.

Roedd y pleidiau, meddai, "yn annelwig iawn ynglŷn â beth yr oedden nhw am ei wneud.

"Fe ofynnais i'r pedair plaid a dim ond hanner atebion gefais i."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol