Motor Niwron: Canfod 'genyn newydd'
- Cyhoeddwyd

Mae teulu o Went sydd wedi dioddef clefyd Motor Niwron ers cenedlaethau wedi helpu gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd ganfod "genyn newydd" sydd yn gysylltiedig â'r afiechyd.
Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr wedi astudio'r teulu a grŵp o gleifion o'r Ffindir.
Mae'r tîm wedi canfod genyn sy'n gyffredin i aelodau o'r grŵp prawf.
Y cam nesaf fydd cymryd profion gwaed y teuluoedd hyn, sydd wedi dioddef y clefyd o genhedlaeth i genhedlaeth.
'Clefyd creulon'
Mae wyth aelod o'r teulu o Went wedi marw oherwydd clefyd motor niwron.
Dywedodd aelod o'r teulu, nad oeddent am gael eu henwi, eu bod nhw'n teimlo "rhyddhad" am fod y genyn wedi ei ganfod.
Mae darganfyddiadau'r tîm rhyngwladol, sy'n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Manceinion a Choleg Prifysgol Llundain, wedi eu cyhoeddi yn rhifyn cyfredol y cylchgrawn gwyddonol, Neuron.
Cafodd yr ymchwil ei ariannu gan Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor.
Clefyd dirywiol yw'r clefyd sy'n ymosod ar y nerfau sy'n rheoli symudiad y cyhyrau.
Does dim gwellhad ac ar gyfartaledd, mae'r rhai sy'n dioddef yn marw rhwng dwy flynedd a phum mlynedd wedi diagnosis.
Mae'r Dr Huw Morris, sydd wedi ei leoli ym Mhrifysgol Caerdydd ac Ysbyty Brenhinol Gwent, wedi gweithio gyda'r teulu o Went ers 10 mlynedd.
Dywedodd fod y darganfyddiad yn "ddiweddglo i helfa hir am y genyn hwn" a "dechreubwynt ein chwiliad am therapi gall stopio'r clefyd creulon hwn".
Dywedodd aelod o'r teulu eu bod wedi "aros am y darganfyddiad hwn ers blynyddoedd".
Straeon perthnasol
- 17 Chwefror 2010